Cysylltu Bywydau (Lleoli oedolion)

Y broses o ddod yn ofalwr Cysylltu Bywydau

I ddod yn ofalwr Cysylltu Bywydau, byddwch yn mynd trwy broses ymgeisio ac asesu strwythuredig a all gymryd hyd at flwyddyn.

 

  1. Cysylltwch â ni! Byddwch yn siarad â’n tîm cyfeillgar yn Cysylltu Bywydau Gorllewin Cymru.
  2. Byddwn yn ateb eich holl gwestiynau ac yn rhoi gwybodaeth i chi am Cysylltu Bywydau ac yn asesu eich addasrwydd cychwynnol. Gall hyn gynnwys cyfarfod neu alwad ffôn rhagarweiniol i drafod eich cymhellion, eich profiad, a gofynion y rôl.
  3. Byddwn yn anfon pecyn cais atoch chi! Bydd gofyn i chi lenwi ffurflen gais, gan ddarparu manylion amdanoch chi’ch hun, eich aelwyd, ac unrhyw brofiad neu sgiliau perthnasol sydd gennych. Bydd angen i chi hefyd gael gwiriadau cefndir, a all gynnwys gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) neu wiriad cyfatebol, er mwyn sicrhau diogelwch unigolion agored i niwed.
  4. Ymweliad cartref ac asesiad! Bydd asesydd o’r cynllun Cysylltu Bywydau yn cynnal ymweliad cartref i werthuso eich addasrwydd i fod yn ofalwr Cysylltu Bywydau. Bydd yr asesydd yn asesu eich amgylchedd byw, yn trafod eich galluoedd o ran rhoi cymorth, ac yn ystyried pa mor dda y gall eich cartref ddiwallu anghenion unigolyn â gofynion gofal.
  5. Hyfforddiant a pharatoi! Rydym yn darparu sesiynau hyfforddi a pharatoi i ddarpar ofalwyr. Mae’r sesiynau hyn yn ymdrin â phynciau megis diogelu, sgiliau cyfathrebu, deall anghenion unigol, a meysydd perthnasol eraill. Mae’r hyfforddiant hwn yn eich helpu i feithrin yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i roi gofal a chymorth effeithiol.
  6. Paru a chymeradwyaeth! Ar ôl i chi gwblhau’r broses asesu a hyfforddi yn llwyddiannus, bydd y cynllun yn gweithio i’ch paru ag unigolyn y mae ei anghenion a’i ddewisiadau’n cyd-fynd â’ch galluoedd ac amgylchedd eich cartref. Nod y broses baru hon yw sicrhau eich bod yn cydweddu â’ch gilydd orau posibl.
  7. Cymorth a goruchwyliaeth barhaus! Fel gofalwr Cysylltu Bywydau, byddwch yn cael cymorth, goruchwyliaeth, ac arweiniad parhaus gennym ni yn Cysylltu Bywydau Gorllewin Cymru. Mae hyn yn cynnwys ymweliadau rheolaidd, cyfarfodydd adolygu, a mynediad at rwydweithiau cymorth neu grwpiau cyfoedion i’ch helpu i lywio unrhyw heriau a pharhau â’ch datblygiad proffesiynol.
ID: 13845, adolygwyd 26/01/2026