Damweiniau a'r gofyniad i gofnodi o dan RIDDOR

Beth sy'n adroddadwy?

Mae'n rhaid i chi roi adroddiad ynghylch:

  • damweiniau cysylltiedig â gwaith sy'n peri marwolaeth  i weithwyr ac eraill;  
  • damweiniau cysylltiedig â gwaith sy'n peri anafiadau penodedig i weithwyr;
  • damweiniau sy'n cadw gweithiwr o'r gwaith am fwy na 7 diwrnod yn olynol;      
  • damweiniau cysylltiedig â gwaith sy’n ymwenud â’r cyhoedd sy’n cael eu cludo o safle’r digwyddiad i ysbyty am driniaeth;
  • salwch adroddadwy cysylltiedig â gwaith;
  • digwyddiadau peryglus adroddadwy (pan yw rhywbeth yn digwydd nad yw'n peri anaf, ond a fyddai wedi gallu gwneud hynny)  
  • digwyddiadau adroddadwy gyda nwy.

Mae RIDDOR yn berthnasol i bob gweithgaredd gwaith ond nid yw pob digwyddiad yn adroddadwy.  Mae holl fanylion yr hyn sy'n adroddadwy ar wefan RIDDOR (yn agor ffenestr newydd)  

Dylid hysbysu digwyddiadau i’r Ganolfan Gyswllt Digwyddiadau (ICC) ar-lein.

Gallwch hysbysu bob digwyddiad ar-lein ond mae’r gwasanaeth ffôn ar gael o hyd ar gyfer hysbysu anafiadau difrifol a marwolaethau yn unig - ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Digwyddiadau ar 0845 300 9923 (yr oriau agor yw dydd Llun i Gwener 8.30am hyd 5pm).

ID: 1505, adolygwyd 17/03/2023