Datblygiad Plentyn

Iechyd yn ystod ac ar ol beichiogrwydd

Mae'r Pregnancy and Baby Guide (yn agor mewn tab newydd) gan y GIG yn rhoi gwybodaeth gynhwysfawr ynghylch beichiogi, beichiogrwydd, rhoi genedigaeth, babanod newydd anedig a phlant bach.

Mae'r Ymddiriedolaeth Geni Plant (yn agor mewn tab newydd), a elwir yn NCT, yn sefydliad elusennol gwirfoddol a sefydlwyd hanner can mlynedd yn ôl sy'n cynnig gwybodaeth a chymorth ynghylch beichiogrwydd, rhoi genedigaeth a magu plant yn y blynyddoedd cynnar.

Mae llinell gymorth NCT yn cynnig gwybodaeth a chymorth arbenigol ynghylch beichiogrwydd a rhoi genedigaeth a bwydo ar y fron, gan gynghorwyr bwydo ar y fron ac athrawon cyn-geni.

Mae llinell gymorth NCT hefyd yn cynnig cymorth ôl-enedigol â materion megis llefain, cwsg ac iselder yn yr wythnosau ar ôl yr enedigaeth.

Llinellau Cymorth NCT

Ar gyfer cymorth ymarferol ac emosiynol â phob agwedd ar feichiogrwydd, rhoi genedigaeth a magu plant yn y blynyddoedd cynnar gan gynnwys help â bwydo, ffoniwch linell gymorth NCT ar 0300 330 0700

Llinell Beichiogrwydd a Genedigaeth NCT 0300 330 0772 9am i 8pm, dydd Llun i ddydd Gwener 

Ar gyfer eich holl gwestiynau sy'n ymwneud â'ch beichiogrwydd neu brofiadau wrth roi genedigaeth. Mae athrawon cyn-geni cymwysedig ar gael i wrando a chynorthwyo.

Llinell Bwydo ar y Fron NCT 0300 330 0771 8am-10pm, bob dydd o'r flwyddyn gan gynnwys Gwyliau Banc 

Ffoniwch i siarad â chynghorydd bwydo ar y fron cymwysedig o NCT ynglŷn â bwydo eich baban. Mae'r mwyafrif o famau'n dymuno bwydo ar y fron ac mae gan NCT yn arbenigwyr a all eich cynorthwyo i wireddu eich dymuniad. Gall NCT hefyd eich helpu os byddwch yn penderfynu defnyddio rhywfaint o laeth fformiwla neu ei ddefnyddio'n unig a'ch bod yn dymuno cael cymorth i wneud hyn. Gall NCT helpu pan ddaw'r adeg i ddechrau bwydo bwyd solet i'ch baban neu os ydych yn dymuno newid rhwng bwydo ar y fron a llaeth fformiwla.

Llinell ôl-enedigol NCT 0300 330 0773 9am-1pm, dydd Llun i ddydd Gwener 

Mae bywyd gyda baban newydd yn her ac mae ymarferwyr cymwysedig NCT ar gael i siarad â chi os bydd gennych gwestiynau neu os byddwch yn ei chael yn anodd ymdopi ag unrhyw ran o fod yn rhiant i faban newydd.

ID: 1730, adolygwyd 21/07/2023