Datblygiad Plentyn
Y blynyddoedd cyntaf
Mae Llywodraeth Cymru'n darparu cyhoeddiad rhad ac am ddim 'Y Blynyddoedd Cyntaf' i rieni yng Nghymru.
Mae wedi'i seilio ar gyhoeddiad yr Adran Iechyd a gafodd ei adolygu a'i ddiweddaru ar gyfer Cymru, mae hefyd yn ddwyieithog. Mae'r 'Blynyddoedd Cyntaf' yn cynnwys gwybodaeth am:
- yr wythnosau cyntaf gyda baban newydd
- twf a datblygiad
- dysgu a chwarae
- arferion ac ymddygiad
- bwydo eich plentyn
- salwch a damweiniau
- iechyd y fam
- gwasanaethau
- hawliau a budd-daliadau
Mae llinell amser y GIG o Ddatblygiad y Blynyddoedd Cynnar (yn agor mewn tab newydd) yn dangos y modd y bydd eich plentyn yn datblygu, o'r enedigaeth hyd nes ei fod yn bump oed.
ID: 1733, adolygwyd 29/09/2023