Datblygu Priffyrdd
Datblygu Priffyrdd
Fel Awdurdod Priffyrdd y sir, gall ein swyddogion arbenigol ddarparu ystod eang o gyngor cyn gwneud cais i gynorthwyo aelodau o’r cyhoedd a datblygwyr sy’n paratoi i gyflwyno cais cynllunio i Gyngor Sir Penfro.
Rydym yn croesawu ac yn annog trafodaethau cyn i gais cynllunio gael ei gyflwyno. Mae profiad blaenorol wedi dangos bod trafodaethau’n arwain at gais gwell sy'n fwy tebygol o gael ei gymeradwyo mewn perthynas â materion priffyrdd. Rydym wedi canfod y gall y broses cyn gwneud cais leihau’r costau cyffredinol drwy leihau'r gwaith ac amser pellach a allai fod eu hangen yn ystod y cam gwneud cais.
Beth yw cyngor cyn ymgeisio ar gyfer caniatâd cynllunio?
Cyngor anffurfiol yw cyngor cyn ymgeisio y gellir ei gael gan Gyngor Sir Penfro cyn i ddarpar ymgeisydd ymrwymo i wneud cais cynllunio. Mae'r cyngor hwn yn cynnwys ymateb ysgrifenedig neu ymateb mewn e-bost sy'n nodi'r ystyriaethau perthnasol o ran priffyrdd pe bai cais cynllunio yn cael ei gyflwyno, a hefyd yn rhoi barn anffurfiol gan swyddog priffyrdd.
Beth yw statws cyngor cyn ymgeisio?
Gwneir pob ymdrech gan Awdurdod Priffyrdd y sir i ddarparu cyngor cyn ymgeisio sy'n gywir a chyson yn unol â pholisïau cynllunio cenedlaethol a lleol. Rhoddir y cyngor yn dilyn asesiad a wneir, heb ragfarn, mewn perthynas â'r wybodaeth a ddarparwyd ar y pryd ac sy'n seiliedig ar rinweddau'r wybodaeth ei hun. Nid yw hyn yn warant y byddai caniatâd cynllunio yn cael ei roi ac ni fyddai'n ymrwymo'r cyngor wrth ymdrin ag unrhyw gais cynllunio dilynol cysylltiedig. Bydd yr holl gyngor cyn ymgeisio yn gwneud hyn yn glir.
Beth sydd angen i ymholiad cyn ymgeisio ei gynnwys?
Gellir gwneud pob ymholiad cyn ymgeisio yn ysgrifenedig, ei anfon drwy e-bost, neu ei gyflwyno gan ddefnyddio'r ddolen ar-lein. Os hoffech ddefnyddio’r gwasanaeth cyn ymgeisio, rhaid llenwi’r ffurflen gyngor cyn ymgeisio a chynnwys unrhyw wybodaeth ychwanegol angenrheidiol hefyd.
Dylid cynnwys yr wybodaeth ganlynol o leiaf:
- Eich enw a'ch cyfeiriad (gan gynnwys e-bost)
- Cynllun lleoliad safle gyda ffin y safle wedi'i nodi mewn coch
- Disgrifiad llawn o'ch cynnig
- Rhestr o'r defnydd a wneir yn bresennol o'r safle, a hanes cynllunio gyda chyfeirnodau (os yn berthnasol)
- Crynodeb o'r rhesymau sy'n cefnogi'r cynnig i gael mynediad i'r safle / gwneud gwaith ar briffordd gyda'r lleiniau gwelededd sy'n bosib wedi'u nodi (os yw'n berthnasol)
- Strategaeth barcio ar gyfer pob dull teithio (os yn berthnasol)
Dylai’r math a'r lefel o wybodaeth sy'n gysylltiedig â'r cyflwyniad cyn ymgeisio adlewyrchu cymhlethdod ac effaith bosibl y cynnig. Cysylltwch â ni os ydych yn ansicr ynghylch lefel yr wybodaeth y dylid ei darparu.
Beth yw manteision cael y cyngor hwn?
Gall wneud y canlynol:
- Nodi cynlluniau sydd ag ychydig neu ddim gobaith realistig o gael caniatâd cynllunio ac amlygu unrhyw faterion sylfaenol. Gallai hyn leihau costau ofer ar gyfer cynlluniau sy'n annhebygol o fod yn llwyddiannus.
- Darparu arweiniad ar faint o wybodaeth sydd ei hangen i wneud cais cynllunio dilys.
- Darparu arweiniad ar sut i ddatrys unrhyw faterion posibl cyn i gais cynllunio ffurfiol gael ei gyflwyno, a thrwy hynny wneud y broses o gael caniatâd cynllunio yn llyfnach.
- Nodi unrhyw sefydliadau pwysig y gallai fod angen i chi ymgynghori â nhw cyn cyflwyno cais cynllunio.
- Egluro p’un a oes angen i chi drafod eich cynigion gyda grwpiau cymunedol a grwpiau cysylltiedig eraill a/neu aelodau etholedig cyn cyflwyno cais cynllunio.
- Lleihau’r amser a'r gost sy'n gysylltiedig â llunio cynigion o bosibl.
Ar ba ffurf fydd y cyngor?
Bydd y cyngor cyn ymgeisio yn cael ei anfon trwy e-bost neu fel llythyr drwy'r post. Mewn rhai achosion, efallai y gwneir cais am wybodaeth ychwanegol fel bod cyngor manwl yn medru cael ei ddarparu. Gellir gofyn am gyfarfod naill ai yn swyddfeydd y cyngor neu ar y safle os bydd swyddog priffyrdd yn teimlo bod hyn yn angenrheidiol er mwyn darparu cyngor manwl.
A oes tâl am ymholiad cyn ymgeisio?
Oes, y ffi safonol ar gyfer cyngor cyn ymgeisio yw £40.00, i'w dalu gan yr ymholwr. Ni fydd y cyngor cyn ymgeisio yn cael ei ddarparu os na fydd y ffi briodol yn cael ei thalu. Os bydd eich cais yn cael ei gyflwyno drwy ein gwefan neu drwy e-bost, bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi i drefnu taliad, y gellir ei dalu dros y ffôn. Dyma'r dull cyflymaf a hawsaf sy'n eich galluogi i dderbyn cadarnhad ar unwaith bod y taliad wedi'i wneud.
Os ydych yn anfon eich cais yn y post, dylai sieciau fod yn daladwy i Gyngor Sir Penfro; gwnewch yn siŵr bod cyfeiriad eich safle wedi'i nodi'n glir ar gefn y siec.
Gwasanaeth o ba ansawdd y gallwch ddisgwyl ei dderbyn?
Ein nod yw ymateb cyn gynted â phosibl.
- Cydnabod derbyn eich ymholiad cyn ymgeisio
- Darparu ymateb ysgrifenedig cyn ymgeisio o fewn 21 diwrnod, oni bai bod yr Awdurdod Priffyrdd a’r ymholwr wedi cytuno ar estyn y cyfnod amser yn gyntaf
- Polisïau a chanllawiau perthnasol
- Y lefel berthnasol o fanylder a gwybodaeth ategol sydd eu hangen i wneud asesiad dilys o faterion priffyrdd a thrafnidiaeth
- P‘un a yw'n debygol y bydd angen cyfraniad tuag at welliannau i briffyrdd a/neu drafnidiaeth
- Addasrwydd mynediad i'r safle a’r trefniadau parcio
- Nodi'r gwaith sydd ei angen o ran gwelliannau i'r priffyrdd o ganlyniad i'ch cynnig
- Nodi unrhyw faterion diogelwch ar y ffyrdd
- Cynorthwyo i gyflymu'r penderfyniad cynllunio
Cyflwyno ymholiadau cyn ymgeisio
Os hoffech ofyn am gyngor cyn ymgeisio, cyflwynwch eich cais gan ddefnyddio’r ddolen ar-lein. Gallwch lanlwytho uchafswm o bedair dogfen ategol wrth ddefnyddio'r ddolen hon. Unwaith y bydd y tîm wedi derbyn eich cais, bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi. Os oes gennych fwy na phedair dogfen ategol, anfonwch eich cais at hwdcconsult@pembrokeshire.gov.uk
Ffurflen Gofyn am Gyngor Cyn Gwneud Cais - Rheoli Datblygiad ar Briffyrdd (yn agor mewn tab newydd)
Fel arall, gallwch anfon eich cais drwy'r post at:
Rheoli Datblygu Priffyrdd
Neuadd y Sir
Freemans Way
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP
Ffôn: 01437 764551
Cysylltiadau defnyddiol eraill o fewn ein tîm:
- Tîm Mabwysiadu Ffyrdd: highwaysadoption@pembrokeshire.gov.uk
- Chwiliadau tir lleol / hyd y briffordd: highwaysearches@pembrokeshire.gov.uk
- Enwi a rhifo strydoedd: SNN@pembrokeshire.gov.uk
- Tîm Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy: SAB@pembrokeshire.gov.uk
Dolenni defnyddiol:
Designing and modifying residential streets - GOV.UK (www.gov.uk) (yn agor mewn tab newydd)