Datblygu Priffyrdd
Arolygon Traffig
Arolygon Traffig ar y Briffordd - Allanol
Mae arolygon traffig yn caniatáu ar gyfer casglu gwybodaeth a data ynghylch defnydd y ffordd, tagfeydd traffig, cyfrif cyflymder, cyfrif traffig, ac unrhyw faterion eraill lle mae angen data priffyrdd. Gall yr wybodaeth hon fod yn ddefnyddiol i asesu effaith newidiadau posibl i’r rhwydwaith priffyrdd ar gyfer datblygiadau newydd, ystyried gwelliannau i ffyrdd, neu unrhyw newidiadau i reoli traffig at ddibenion eraill.
Mae gan Gyngor Sir Penfro fel yr Awdurdod Priffyrdd Lleol ddyletswydd i sicrhau nad yw’r briffordd yn cael ei rhwystro a’i bod yn cael ei chadw’n ddiogel i bawb sy’n defnyddio’r ffyrdd, ffyrdd cerbydau, llwybrau beicio, llwybrau troed, palmentydd ac ymylon. Felly pe bai unrhyw fusnes allanol yn dymuno cynnal arolygon o'r fath sy'n cynnwys defnyddio unrhyw offer, cyfarpar, adeileddau neu bethau eraill sy'n gysylltiedig ag arolygon traffig, mae'n hollbwysig ein bod yn cael ein hysbysu / yr ymgynghorir â ni o fewn 14 diwrnod gwaith i'r gwaith gael ei wneud. Dylid anfon holl fanylion y gwaith, gan gynnwys cynllun lleoliad, y rhesymau dros wneud y gwaith, a pha offer a ddefnyddir, at ein Hadran Traffig drwy e-bost at traffic@pembrokeshire.gov.uk a bydd yr adran hon yn adolygu eich cais ar sail diogelwch.
Mae gan yr Awdurdod yr hawl i wrthod cais i gynnal arolygon traffig ar y briffordd os bydd yn torri unrhyw ddeddfwriaeth, yn achosi niwsans neu berygl, yn achosi rhwystr, neu’n amharu ar y rhwydwaith priffyrdd. Bydd unrhyw offer sydd wedi'u gosod heb ganiatâd yn cael eu symud yn unol â hynny.
Os yw eich cais i gynnal arolwg ar gefnffordd, dylid hysbysu Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru ar wahân.
Wrth gyflwyno eich gwybodaeth, ychwanegwch y manylion canlynol:
- Enw cyswllt allweddol a manylion cyswllt (gan gynnwys e-bost a rhif ffôn)
- Dyddiadau cychwyn a gorffen yr arolwg, a chadarnhad o'r dyddiad symud
- Enw’r ffordd a lleoliad yr arolwg (gan gynnwys cyfeirnod grid)
- Rheswm dros yr arolwg (h.y. i gefnogi cais cynllunio)
- Prawf o yswiriant
Yswiriant: Mae’n rhaid i’r rhai sy’n dymuno cynnal arolygon ar y briffordd gynnal yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gwerth £10 miliwn ar gyfer unrhyw hawliadau a all godi o ganlyniad i’r arolwg a/neu unrhyw offer, cyfarpar neu adeileddau cysylltiedig neu bethau eraill a osodir yn y briffordd, arni neu gerllaw iddi. Nid yw'r Awdurdod hwn yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw offer a ddefnyddir mewn cysylltiad ag arolwg traffig.
Anfonwch yr holl wybodaeth at: traffic@pembrokeshire.gov.uk