Datgladdu
A yw un o swyddogion y Cyngor yn gorfod bod yn bresennol?
Rhaid bod Swyddog Iechyd Amgylcheddol yn bresennol yn y datgladdiad er mwyn sicrhau parchu’r ymadawedig a gwarchod iechyd y cyhoedd.
Beth fydd y swyddog yn ei wneud?
Bydd y swyddog hefyd yn sicrhau:
· mai’r bedd cywir sy’n cael ei agor;
· bod y datgladdiad yn dechrau mor gynnar ag y bo modd yn y bore i sicrhau preifatrwydd eithaf;
· bod y llain yn cael ei sgrinio’n briodol er mwyn preifatrwydd;
· bod iechyd a diogelwch holl weithwyr yn cael ei gynnal e.e. dillad amddiffynnol gan gynnwys mygydau a menig, goleuadau gwaith a holl offer angenrheidiol arall;
· bod pawb sydd yno’n dangos dyledus barch at yr ymadawedig a beddau cyffiniol;
· bod y plac ar yr arch yn cyfateb i’r un ar y drwydded;
· bod y Swyddog Iechyd Amgylcheddol wedi cymeradwyo’r arch newydd;
· bod holl weddillion dynol a holl ddarnau’r arch yn cael eu rhoi yn yr arch newydd;
· bod yr arch newydd yn cael ei selio’n briodol;
· bod cylch y datgladdiad yn cael ei ddiheintio’n briodol; a
· bod trefniadau boddhaol yn bodoli ar gyfer trosglwyddo’r gweddillion.
Os nad oes modd cadw at amodau’r drwydded, neu fod pryderon ynghylch iechyd y cyhoedd neu wedduster, efallai na fydd y datgladdiad yn digwydd.