Mae’n drosedd datgladdu unrhyw weddillion dynol cyn cael y caniatâd cyfreithiol angenrheidiol. Fe all trefnyddion angladdau helpu cael hyn.
· Rhaid cael trwydded o’r Swyddfa Gartref. Bydd trwyddedau datgladdu hefyd yn cynnwys amodau penodol sy’n rhaid cadw atynt.
· Os claddwyd yr unigolyn mewn tiroedd cysegredig, rhaid cael caniatâd yr eglwys hefyd.
· Rhaid bod Swyddog Iechyd Amgylcheddol yn bresennol wrth ddatgladdu corff i sicrhau na fydd dim bygythiad i iechyd y cyhoedd.
· Yn achlysurol mae angen tystysgrifau corff marw yn ogystal â thrwyddedau datgladdu.