Datgladdu
Trwydded y Swyddfa Gartref
Lle mae cael Trwydded y Swyddfa Gartref?
Ysgrifennu at:
The Home Office (yn agor mewn tab newydd)
Coroners Section - Exhumation Applications
5th Floor, Allington Towers
19 Allington Street
London
SW1E 5EB
Unwaith y cwblhawyd y cais, mae angen anfon Adran A at y Cyngor sy’n gweinyddu’r fynwent lle claddwyd yr ymadawedig. Yna bydd y Cyngor yn ymchwilio’i gofnodion statudol i sicrhau bod y manylion yn gywir ac nad oes unrhyw wrthwynebiad i’r datgladdu yn y fynwent.
Yna bydd rheolwr y fynwent yn llofnodi’r ffurflen a bydd yn cael ei hanfon i’r Swyddfa Gartref.
Sylwch na fydd y Swyddfa Gartref yn derbyn dim ond llofnodion gwreiddiol. Felly, nid oes modd cyflwyno’r ffurflen trwy e-bost.
Oes yna ffi am Drwydded?
Ar hyn o bryd nid yw’r Swyddfa Gartref yn codi ffi am gyhoeddi trwydded.
Beth sy’n digwydd pan fyddaf wedi cael Trwydded?
Unwaith y byddwch wedi cael yr holl drwyddedau, bydd angen eu hanfon at yr awdurdod claddu lle claddwyd yr ymadawedig.
Bydd copi o Drwydded y Swyddfa Gartref yn cael ei hanfon yn ddiofyn i’r Adran Iechyd yr Amgylchedd briodol, er mwyn sicrhau diogelwch iechyd y cyhoedd. Bydd swyddog o’r Adran yn bresennol hefyd ar ddiwrnod y datgladdu ynghyd â’r trefnydd angladdau a Rheolwr y Fynwent. Os caiff Caniatâd yr Esgob ei roi, bydd Swyddfa’r Esgob hefyd yn cysylltu ag Adran Iechyd yr Amgylchedd.
Yna bydd modd gwneud trefniadau i gynnal y datgladdiad a sicrhau, os rhestrwyd amodau arbennig ar unrhyw drwydded, eu bod yn ystyriaeth lawn.
Dylid cysylltu hefyd gyda phawb sy’n ymwneud â’r datgladdiad, fel y trefnydd angladdau, yr awdurdodau claddu, gweinidog yr efengyl ar gyfer yr ailgladdu ac aelodau eraill y teulu, er mwyn sicrhau cadw at holl amodau’r trwyddedau, a dymuniadau’r teulu.
Fel arfer, bydd datgladdiadau’n digwydd yn gynnar yn y bore i sicrhau’r preifatrwydd eithaf.
Cyn gynted ag y bo’n ymarferol o fewn rheswm ar ôl unrhyw ddatgladdiad, bydd swyddog yr awdurdod claddu’n cwblhau’r cofnodion statudol.