Dechrau’n Deg
Cwestiynau Cyffredin
Cymhwysedd
Beth yw'r diffiniad o blentyn cymwys?
Os yw eich plentyn yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg, gall gael mynediad i Ofal Plant Dechrau’n Deg o’r tymor yn dilyn ei ail ben-blwydd hyd at ddiwedd y tymor pan mae’n troi’n dair oed. Mae dyddiadau cau penodol ar gael lle mae’n rhaid i’ch plentyn fod yn 2 flwydd oed i fod yn gymwys i gael gofal plant y tymor canlynol.
Nid wy'n credu fydda' i'n gymwys, sut alla i gadarnhau?
Yn ddiweddar, rydym wedi ehangu’r ardaloedd sy’n gymwys i dderbyn Gofal Plant Dechrau’n Deg, felly os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, byddem yn eich annog i ddefnyddio ein gwiriwr cod post i gadarnhau a ydych yn gymwys.
Mae codau post eraill o'm cwmpas yn gymwys, rwy'n credu dylid cynnwys fy nghod post i.
Mae Dechrau’n Deg yn rhaglen sydd wedi’i thargedu’n ddaearyddol sy’n defnyddio data budd-dal incwm, sef dangosydd anuniongyrchol ar gyfer tlodi, i dargedu’r ardaloedd sydd â’r cyfrannau uchaf o blant 0-3 oed sy’n byw mewn cartrefi budd-dal incwm. Mae’r ardaloedd hyn wedi’u clustnodi gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, data gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi, ac yn cael eu rhannu fesul Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is.
Mae ffiniau gan yr ardaloedd cynnyrch ehangach is sy’n golygu bod rhai codau post sydd yn ymyl ei gilydd mewn gwahanol ardaloedd cynnyrch ehangach haen is. Fodd bynnag, os ydych yn credu bod eich cod post chi yng nghanol codau post cymwys eraill, cysylltwch â ni fel y gallwn gadarnhau hyn ar eich rhan.
Pam nad yw'r gofal plant ar gael i bob plentyn 2 oed?
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno darpariaeth blynyddoedd cynnar fesul cam er mwyn cynnwys pob plentyn dwy flwydd oed. Cafodd Cam 1 y broses o ehangu Dechrau’n Deg ei lansio ym mis Medi 2022 ac mae’n cynnwys pob un o bedair elfen rhaglen Dechrau’n Deg, Ymweliadau Iechyd gwell, cymorth ar gyfer lleferydd, iaith a chyfathrebu, cymorth rhianta a gofal plant o ansawdd da. Mae Cam 2, o Ebrill 2023, yn canolbwyntio ar gyflwyno’n raddol elfen gofal plant rhan-amser o safon uchel Dechrau’n Deg i blant 2-3 oed. Bydd Cam 3 yn pwyso a mesur yr hyn sy’n ofynnol o bosib i gyrraedd sefyllfa lle bydd darpariaeth Dechrau’n Deg i blant ym mhob cwr o Gymru. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau hyd yn hyn pryd mae hyn yn debygol o ddechrau.
Rwy'n gweithio felly pam na all fy mhlentyn gael mynediad at y gofal plant dim ond achos nad ydw i'n byw yn y cod post cywir?
Rhaglen Blynyddoedd Cynnar gan Lywodraeth Cymru yw Dechrau’n Deg sy’n benodol ar gyfer teuluoedd sydd â phlant dan 4 oed sy’n byw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Nod Dechrau’n Deg yw gwneud gwahaniaeth pendant i gyfleoedd bywyd plant drwy liniaru effaith tlodi, sy’n gysylltiedig â chanlyniadau bywyd gwael yn ystod plentyndod cynnar, gan gynnwys canlyniadau iechyd.
Nid yw’r rhaglen yn gysylltiedig â bandiau’r dreth gyngor. Mae Dechrau’n Deg yn rhaglen sydd wedi’i thargedu’n ddaearyddol sy’n defnyddio data budd-dal incwm, sef dangosydd anuniongyrchol ar gyfer tlodi, i dargedu’r ardaloedd sydd â’r cyfrannau uchaf o blant 0-3 oed sy’n byw mewn cartrefi budd-dal incwm. Mae’r ardaloedd hyn wedi’u clustnodi gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, data gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi, ac yn cael eu rhannu fesul Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is.
Beth sy'n digwydd lle mae rhieni wedi gwahanu ond heb fod yn rhannu gwarchodaeth gyfartal dros blentyn?
Mae eich plentyn yn gymwys ar gyfer Dechrau’n Deg yn y cyfeiriad lle mae’n byw’r rhan fwyaf o’r amser, a’r rhiant hwnnw ddylai wneud cais.
Beth sy'n digwydd mewn teuluoedd lle mae rhieni'n byw ar wahân ond yn rhannu gwarchodaeth gyfartal dros blentyn?
Mae angen enwebu un rhiant fel rhiant arweiniol a bydd angen iddo/iddi fyw mewn Ardal Dechrau’n Deg. Mae’r ffordd caiff yr oriau a ariennir eu defnyddio gan y ddau riant yn fater iddyn nhw gytuno arno.
Beth sy'n digwydd os yw fy mhlentyn yn cael mynediad i ofal plant Dechrau'n Deg ond fy mod i wedi symud i gyfeiriad newydd yn Sir Benfro?
Rhaid i chi neu’ch darparwr gofal plant gwblhau ffurflen newid cyfeiriad i roi gwybod i ni am y cyfeiriad newydd. Os ydych wedi symud i ardal Dechrau’n Deg arall, bydd eich plentyn yn gallu parhau i dderbyn y cyllid. Ond os nad ydych, efallai bydd yn rhaid i’ch cyllid ddod i ben. Mewn rhai amgylchiadau gallech barhau i dderbyn y cyllid drwy allgymorth Dechrau’n Deg. Yn yr achosion hyn, efallai gofynnir i chi gwblhau newid i’ch cais presennol.
Beth sy'n digwydd os yw fy mhlentyn yn cael mynediad i ofal plant Dechrau'n Deg yn Sir Benfro ac rydym yn symud i ardal awdurdod lleol newydd?
Rhaid i chi neu’ch darparwr gofal plant gwblhau ffurflen newid cyfeiriad i roi gwybod i ni am y cyfeiriad newydd. Yna, mae angen i chi wneud cais newydd i’r awdurdod lleol newydd. Bydd yr awdurdod lleol yn gwirio a yw eich plentyn yn gymwys ac yn cwblhau’r gwiriadau angenrheidiol.
A allaf i ddewis lleoliad gofal plant sy'n agosach i ble rwy'n gweithio?
Gallwch. Os yw eich plentyn wedi’i gymeradwyo ar gyfer gofal plant Dechrau’n Deg a rwyt ti'n defnyddio'r lleoliad yn barod, byddwn yn ariannu’r lleoliad yn unrhyw un o’n darparwyr gofal plant Dechrau’n Deg cymeradwy. Nid oes rhaid mai’r lleoliad agosaf i ble rydych yn byw ydyw.
Cael mynediad at ofal plant Dechrau’n Deg
Faint o oriau o ofal plant gaiff eu hariannu?
Mae Gofal Plant Dechrau’n Deg ar gael am uchafswm o 12.5 awr yr wythnos, am 39 wythnos fel arfer yn ystod y tymor.
Pa amserau o'r dydd gellir cael mynediad i Ofal Plant Dechrau'n Deg?
Mae sesiynau gofal plant rhan-amser a safonol Dechrau’n Deg yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i blant a chefnogi eu pontio i addysg gynnar a thu hwnt. Er mwyn sicrhau’r budd mwyaf, dylai’r sesiynau fod yn 2½ awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos. Er bod rhywfaint o hyblygrwydd o ran hyn, y gellir ei drafod yn unigol, byddem yn annog plant i gael mynediad i sesiwn Dechrau’n Deg sydd heb fod yn gwrthdaro ag amseroedd cwsg na chinio.
A oes cyfyngiad ar nifer yr oriau y gellir cael mynediad i Ofal Plant Dechrau'n Deg yn ystod unrhyw un diwrnod?
Oes. Dylai’r sesiynau fod am 2.5 awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos, fel bod y plentyn yn cael y budd mwyaf o’r rhaglen. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, os ydych chi’n deulu sy’n gweithio, er enghraifft, efallai y byddwch am ddefnyddio 2 sesiwn y dydd (mae hyn yn cyfateb i 5 awr) i gefnogi eich patrwm gwaith. Gallwch drafod hyn gyda’r darparwr gofal plant Dechrau’n Deg i weld a fyddai eu cofrestriad yn caniatáu hyn. Rhaid i’r lleoliad Dechrau’n Deg a’r teulu gytuno ar y trefniant hwn.
Mae canllawiau cenedlaethol pellach fel a ganlyn:
- Rhaid i amserau’r sesiynau gefnogi anghenion y teulu. Os mai dim ond sesiwn 2.5 awr sydd ei hangen y dydd, o dan delerau’r contract a chan gadw at ei Ddatganiad o Ddiben, rhaid i’r darparwr ddarparu ar gyfer y cais hwn.
- Yn aml, mae angen bod yn hyblyg o ran nifer y sesiynau a fynychir er mwyn darparu ar gyfer anghenion rhieni neu blant. Er enghraifft, os bydd rhiant yn penderfynu dod â’r plentyn am dair sesiwn yn unig, dylid darparu ar gyfer hyn. Fodd bynnag, dylai darparwyr annog rhieni i fanteisio ar eu hawl lawn lle bo hynny’n bosibl.
- Dylai’r sesiwn gofal plant Dechrau’n Deg ganolbwyntio ar gyfleoedd datblygu o ansawdd da ac felly ni ddylai gynnwys cwsg, cinio, na gofal cofleidiol.
- Rhaid i amserau’r sesiynau fod yn glir ac wedi’u nodi yn Natganiad o Ddiben y darparwr gofal plant. Er mwyn cael mynediad at ddwy sesiwn mewn un diwrnod, mae’n rhaid bod y lleoliad gofal plant wedi’i gofrestru ar gyfer gofal dydd llawn ac yn nodi’r sesiynau yn ei Ddatganiad o Ddiben, gan nodi’n glir y gallai plant aros am ddwy sesiwn y dydd. Ni all mwy na 2.5 awr gael eu darparu gan ddarparwyr sesiynau a all ond darparu gofal i’r un plentyn am lai na 4 awr mewn un diwrnod.
- Ystyrir bod unrhyw beth y tu allan i’r oriau a ariennir gan Dechrau’n Deg y cytunwyd arnynt, er enghraifft mwy na’r sesiwn 2.5/5 awr, yn oriau ychwanegol a rhaid cytuno arnynt yn y contract rhwng y rhiant a’r darparwr gan y byddai modd i’r darparwr godi amdanynt.
A alla i drosglwyddo oriau nas defnyddiwyd i'r wythnos neu'r gwyliau ysgol nesaf?
Na. Ni allwch ‘fancio’ oriau gofal plant, mewn geiriau eraill, trosglwyddo unrhyw oriau nas defnyddiwyd o un wythnos i un arall. Ac ni ellir defnyddio oriau nas defnyddiwyd yn ystod gwyliau ysgol. Mae gofal plant Dechrau’n Deg fel arfer yn ystod y tymor. Ni all nifer yr oriau a ariennir fod yn fwy na 12.5 mewn unrhyw wythnos yn ystod y tymor a gallwch ddewis faint o’r 12.5 awr i’w gymryd. Bydd unrhyw oriau na ddefnyddir mewn wythnos yn cael eu colli. Gallwch dalu eich hun am oriau ychwanegol o ofal plant, hynny yw dros y 12.5 awr.
A oes hyblygrwydd i newid yr oriau a archebwyd o fewn wythnos?
Oes, mae hyn yn bosibl a bwrw bod y darparwyr gofal plant yn gallu ymdopi â’r newid. Os ydych yn dymuno cynyddu’r oriau a ariennir, ni all hyn fod yn fwy na 12.5 awr o gyllid yr wythnos neu fwy na 5 awr yn unrhyw un diwrnod.
Pwy all ddarparu Gofal Plant Dechrau'n Deg?
Mae’r gofal plant a ariennir ond ar gael mewn lleoliadau gofal plant cymeradwy sydd wedi bodloni’r meini prawf ansawdd gofynnol ac sydd wedi’u contractio i ddarparu gofal plant Dechrau’n Deg ar ein rhan.
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio i gynyddu nifer y lleoedd gofal plant Dechrau’n Deg sydd ar gael yn Sir Benfro trwy gefnogi ein darparwyr gofal plant nad oes ganddynt gontract eto i gynnig Dechrau’n Deg i fodloni’r meini prawf ansawdd sy’n ofynnol gan y cynllun. Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r rhestr o ddarparwyr gan fod mwy yn gallu cynnig Dechrau’n Deg.
Beth sy'n digwydd os nad yw fy narparwr gofal plant eisiau cynnig Gofal Plant Dechrau'n Deg?
Os ydych chi’n defnyddio, neu’n dymuno defnyddio, darparwr gofal plant nad oes ganddynt gontract gyda ni i ddarparu gofal plant Dechrau’n Deg, rhaid i chi benderfynu a ydych am barhau â’r darparwr hwnnw a pheidio â chael yr arian neu ddefnyddio darparwr arall sydd â chontract i ddarparu Dechrau’n Deg.
Faint o leoliadau gofal plant Dechrau'n Deg gall fy mhlentyn gael mynediad iddynt?
Un o nodau sylfaenol y rhaglen Dechrau’n Deg yw cynnig gofal plant cyson o safon i’r plentyn. Fodd bynnag, byddwn yn eich annog i beidio â defnyddio mwy nag un darparwr gofal plant ar gyfer gofal plant Dechrau’n Deg.
A all darparwyr gofal plant yn Sir Benfro ddarparu gofal plant Dechrau'n Deg i blant o ardaloedd awdurdodau lleol eraill?
Gallant. Ond bydd angen i chi drafod y cyllid posibl gyda’r awdurdod lleol perthnasol. Ni all Dechrau’n Deg Sir Benfro gyllido plant sy’n byw’r tu allan i’r sir.
A yw Gofal Plant Dechrau'n Deg ar gael yn ystod gŵyl banc?
Byddai hyn yn dibynnu ar y darparwr gofal plant unigol, a byddai’n rhaid i chi wirio gyda nhw’n uniongyrchol.