Dechrau’n Deg
Gofal Plant a Ariennir
Mae'r gofal plant a ariennir gan y rhaglen Dechrau'n Deg ar gael mewn cymunedau ac ardaloedd amrywiol ledled Sir Benfro. Mae’r ardaloedd wedi’u nodi gan ddefnyddio data Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) Llywodraeth Cymru.
Mae Dechrau'n Deg yn cynnig gofal plant wedi'i ariannu i blant dwy a thair oed mewn lleoliad gofal plant o safon. Gall plant fynychu am 2.5 awr y dydd am bum diwrnod o'r wythnos yn ystod y tymor yn unig. Darperir gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. Mae'r Tîm Blynyddoedd Cynnar hefyd yn darparu cymorth i blant sydd wedi'u nodi ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
A ydych chi'n gymwys?
Am fwy o wybodath:
ffôn: (01437) 770004
Dechrau Deg
Beth yw Dechrau Deg?
Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Dechrau’n Deg ar gyfer plant 0-3 oed a’u teuluoedd sy’n byw mewn ardaloedd penodol yn Sir Benfro a ddiffinnir yn ôl cod post.
Cydnabyddir bod blynyddoedd cynnar plant yn gyfnod pwysig ac mae eu profiadau yn ystod yr amser hwn yn cael effaith fawr ar eu datblygiad yn y dyfodol. Rhaid i’r darnau fod yn eu lle.
Dewis Cymru y w’r lle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall.
Cysylltwch â ni
(01437) 770004
Gwasanaeth Iechyd
Ymwelwyr Iechyd
Mae Ymwelwyr Iechyd yn anelu at ddarparu gwasanaeth cyfeillgar, gofalgar a hygyrch i chi. Mae'r Gwasanaeth Ymweliadau Iechyd sy'n rhan o Dechrau'n Deg yn gallu darparu ymweliadau cartref ychwanegol o'r cyfnod cyn-geni nes bydd y plentyn yn 3 oed ac 11 mis. Pwrpas hyn yw eich cefnogi fel rhiant ac i ddarparu unrhyw help a chyngor y byddwch efallai ei angen.
Nyrsys Meithrin Cymunedol
Mae tîm o Nyrsys Meithrin Cymunedol yn cefnogi Ymwelwyr Iechyd Dechrau'n Deg, ac maen nhw'n gynnig llawer o help a chefnogaeth mewn cyfarfodydd grŵp neu fel un i un o fewn y cartref. Mae'r help yn cynnwys gofalu am eich babi newydd, bwydo, diddyfnu, patrymau cysgu, hyfforddiant toiled a phroblemau ymddygiad.
Mae sesiynau grŵp yn cynnwys tylino babanod, grwpiau dan 1 oed a grwpiau plant bach.
Bydwraig
Mae Bydwragedd Dechrau'n Deg yn cynnig cefnogaeth ychwanegol i fenywod yn ystod beichiogrwydd a'r cyfnod ôl-enedigol yn syth wedi'r enedigaeth.
Mae mamau yn eu harddegau, mamau sydd heb gefnogaeth neu famau sy'n fregus oherwydd iechyd neu amgylchiadau yn enghreifftiau o rai allai fod angen cefnogaeth ychwanegol.
Mae Bydwragedd Dechrau'n Deg yn cynnig cyngor ar gadw'n iach yn ystod beichiogrwydd, cynyddu eich siawns o gael genedigaeth normal, beth sy'n digwydd pan fydd yr enedigaeth yn fwy cymhleth, bwydo o'r fron a bwydo'r babi, gofalu am y babi a sut i wella yn y cyfnod ôl-enedigol. Mae'r ffocws ar hyrwyddo datblygiad meddyliol a corfforol y babi sydd yn y groth ac ar ffurfio perthynas gyda'ch babi.
Gallwch ofyn i'ch bydwraig eich atgyfeirio neu gallwch atgyfeirio eich hunan trwy ffonio 01437 770013 a gadael neges i ni i'ch galw'n ôl.
Rhian Walters - Bydwraig Dechrau'n Deg
Tîm Lleferydd ac Iaith
Mae cefnogi datblygiad iaith a chyfathrebu plant yn un o amcanion craidd prosiect Dechrau'n Deg.
Mae tystiolaeth glir i ddangos pwysigrwydd targedu ac adnabod plant sy'n cael anawsterau cyn gynted ag y bo modd; mae ymchwil i ddatblygiad yr ymennydd wedi dangos bod tair blynedd gyntaf bywyd plentyn yn hanfodol i ddatblygiad sgiliau iaith a chyfathrebu da.
Beth yw gwaith y Tîm Lleferydd ac Iaith?
- Rhoi cymorth cyfathrebu cyffredinol i holl blant
- Sicrhau bod aelodau eraill o'r tîm Dechrau'n Deg yn gallu adnabod a chefnogi anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu plant
- Rhoi strategaethau penodol ac ymarferol i rieni/gofalwyr i ddatblygu iaith plant trwy chwarae
Bydd y tîm Iechyd hefyd yn eich cyfeirio, neu yn eich atgyfeirio chi at asiantaethau eraill o fewn Dechrau'n Deg os oes angen hynny.
Cysylltwch a ni
(01437) 770031
Cymorth Rhianta
Mae cymorth rhianta yn hawl penodol o fewn Dechrau'n Deg.
Bydd yr holl rieni/gofalwyr sy'n byw mewn dalgylch yn cael cynnig cymorth rhianta.
Mae hyn yn cynnwys grwpiau rhianta a chymorth 1:1 yn y cartref.
Am fwy o wybodaeth
Dechrau'n Deg ar 01437 770004