Dechrau’n Deg
Gwasanaeth Iechyd
Ymwelwyr Iechyd
Mae Ymwelwyr Iechyd yn anelu at ddarparu gwasanaeth cyfeillgar, gofalgar a hygyrch i chi. Mae'r Gwasanaeth Ymweliadau Iechyd sy'n rhan o Dechrau'n Deg yn gallu darparu ymweliadau cartref ychwanegol o'r cyfnod cyn-geni nes bydd y plentyn yn 3 oed ac 11 mis. Pwrpas hyn yw eich cefnogi fel rhiant ac i ddarparu unrhyw help a chyngor y byddwch efallai ei angen.
Nyrsys Meithrin Cymunedol
Mae tîm o Nyrsys Meithrin Cymunedol yn cefnogi Ymwelwyr Iechyd Dechrau'n Deg, ac maen nhw'n gynnig llawer o help a chefnogaeth mewn cyfarfodydd grŵp neu fel un i un o fewn y cartref. Mae'r help yn cynnwys gofalu am eich babi newydd, bwydo, diddyfnu, patrymau cysgu, hyfforddiant toiled a phroblemau ymddygiad.
Mae sesiynau grŵp yn cynnwys tylino babanod, grwpiau dan 1 oed a grwpiau plant bach.
Bydwraig
Mae Bydwragedd Dechrau'n Deg yn cynnig cefnogaeth ychwanegol i fenywod yn ystod beichiogrwydd a'r cyfnod ôl-enedigol yn syth wedi'r enedigaeth.
Mae mamau yn eu harddegau, mamau sydd heb gefnogaeth neu famau sy'n fregus oherwydd iechyd neu amgylchiadau yn enghreifftiau o rai allai fod angen cefnogaeth ychwanegol.
Mae Bydwragedd Dechrau'n Deg yn cynnig cyngor ar gadw'n iach yn ystod beichiogrwydd, cynyddu eich siawns o gael genedigaeth normal, beth sy'n digwydd pan fydd yr enedigaeth yn fwy cymhleth, bwydo o'r fron a bwydo'r babi, gofalu am y babi a sut i wella yn y cyfnod ôl-enedigol. Mae'r ffocws ar hyrwyddo datblygiad meddyliol a corfforol y babi sydd yn y groth ac ar ffurfio perthynas gyda'ch babi.
Gallwch ofyn i'ch bydwraig eich atgyfeirio neu gallwch atgyfeirio eich hunan trwy ffonio 01437 770013 a gadael neges i ni i'ch galw'n ôl.
Rhian Walters - Bydwraig Dechrau'n Deg
Tîm Lleferydd ac Iaith
Mae cefnogi datblygiad iaith a chyfathrebu plant yn un o amcanion craidd prosiect Dechrau'n Deg.
Mae tystiolaeth glir i ddangos pwysigrwydd targedu ac adnabod plant sy'n cael anawsterau cyn gynted ag y bo modd; mae ymchwil i ddatblygiad yr ymennydd wedi dangos bod tair blynedd gyntaf bywyd plentyn yn hanfodol i ddatblygiad sgiliau iaith a chyfathrebu da.
Beth yw gwaith y Tîm Lleferydd ac Iaith?
- Rhoi cymorth cyfathrebu cyffredinol i holl blant
- Sicrhau bod aelodau eraill o'r tîm Dechrau'n Deg yn gallu adnabod a chefnogi anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu plant
- Rhoi strategaethau penodol ac ymarferol i rieni/gofalwyr i ddatblygu iaith plant trwy chwarae
Bydd y tîm Iechyd hefyd yn eich cyfeirio, neu yn eich atgyfeirio chi at asiantaethau eraill o fewn Dechrau'n Deg os oes angen hynny.
Cysylltwch a ni
(01437) 770031