Deddf Hapchwarae 2005
Trwyddedu Gamblo
Mae Deddf Gamblo 2005 yn rheoleiddio pob ffurf ar Gamblo ym Mhrydain Fawr.
Mae yna dri amcan trwyddedu sy’n sail i’r Ddeddf Gamblo, yr amcanion hyn yw:
- Atal gamblo rhag bod yn ffynhonnell ar gyfer trosedd neu anhrefn, rhag bod yn gysylltiedig â throsedd ac anhrefn na chael ei ddefnyddio i gefnogi trosedd.
- Sicrhau y caiff gamblo ei wneud mewn ffordd deg ac agored.
- Diogelu plant a phobl eraill sy’n agored i niwed rhag cael eu niweidio neu eu ecsploetio gan gamblo.
Y tri math o drwyddedau a ddosberthir o dan Ddeddf Gamblo 2005 yw:
- Trwydded Gweithredu sy’n ofynnol i fusnesau sy’n bwriadu darparu cyfleusterau ar gyfer gamblo – wedi’i rhoi gan y Comisiwn Gamblo.
- Trwydded Bersonol sy’n ofynnol i rai pobl sy’n ymwneud â gweithrediadau gamblo naill ai mewn rhinweddau gweithrediadol neu reoli – wedi’i rhoi gan y Comisiwn Gamblo.
- Trwydded Safle sy’n ofynnol gan yr awdurdod trwyddedu lleol er mwyn cynnal safle yn seiliedig ar fusnes gamblo.
Mae angen trwydded safle ar gyfer unrhyw un o’r mathau canlynol o safle:
- Casino
- Neuadd bingo
- Siop fetio/ Bwci
- Betio (trac) – lleoliadau chwaraeon yn ogystal â thraciau
- Canolfan adloniant teuluol
- Canolfan hapchwarae i oedolion
Cyfieirwch at Ddatganiad Cyngor Sir Penfro o Bolisi Trwyddedu ar gyfer Gamblo cyn i chi wneud cais.
Prif Swyddogaethau’r Awdurdod Trwyddedu yw:
- Dosbarthu trwyddedau safle i Gasinos, Swyddfeydd/Siopau Betio a Thraciau Rasio, Clybiau Bingo, Canolfannau Hapchwarae i Oedolion, a Chanolfannau Adloniant Teuluol.
- Cynnig trwyddedau ar gyfer peiriannau hapchwarae mewn clybiau aelodau a safleoedd trwyddedig, hapchwarae i ennill gwobrau a chanolfannau adloniant teuluol heb drwydded.
- Awdurdodi defnydd dros dro o safleoedd ar gyfer gamblo
- Cofrestru Loterïau Cymdeithasau Bach.
Mae gwybodaeth bellach am Ddeddf Gamblo 2005 ar gael ar y gwefannau canlynol:
Yn ychwanegol, gallwch ddarllen nodyn esboniadol llawn, sy’n dod gyda Deddf Gamblo 2005, trwy glicio ar y cyswllt canlynol:
Tîm Trwyddedu
Adain Diogelu'r Cyhoedd
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP
01437 764551
ID: 2073, adolygwyd 08/02/2023