Defnyddio Gwasanaethau’r Llyfrgell

Gwasanaethau Llyfrgell

Wyddech chi eich bod chi, fel aelod o Lyfrgell Sir Benfro, yn gallu cael mynediad i ystod o safleoedd e-fenthyca ac ymchwilio am ddim, a llawer ohonynt 24 awr y dydd a 7 diwrnod yr wythnos, o gysur eich cartref?

Gallwch fenthyca e-lyfrau, e-lyfrau Llafar a e-gylchgronau; cael mynediad i adnoddau dysgu hwyliog i blant a paratoi ar gyfer eich prawf gyrru.

Yn ogystal, fel aelod o Lyfrgelloedd Sir Benfro, rydych chi'n cael mynediad i ddewis llawn o bapurau newydd ar lein, adnoddau cyfeirio, cyfnodolion a chyhoeddiadau eraill ar lein drwy gyfrwng Gwasanaeth Adnoddau Ar Lein Llyfrgell Genedlaethol Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Hefyd...

Hefyd yn ein Canghennau Llyfrgell ceir mynediad Ancestry.com (yn agor mewn tab newydd) er mwyn eich helpu gydag ymchwil leol ac ymchwil i'ch achau, yn ogystal ag Access2Research (yn agor mewn tab newydd) sy'n rhoi mynediad i chi i ystod o ymchwil, cyfnodolion a chylchgronau academaidd. 

 

 

ID: 262, adolygwyd 30/10/2023