Defnyddio Gwasanaethau’r Llyfrgell
e lyfrgell 24 7
e-lyfrau ac e-llyfrau llafar
Lawrlwythwch, gwrandewch a darllenwch ar gasgliad eang o e-lyfrau ac e-lyfrau llafar poblogaidd, ble bynnag y boch
Rhybudd Cwsmeriaid BorrowBox– Mae Cyfnodau Benthyca yn Newid.
O 18 Medi 2023, bydd gan e-lyfrau ac e-lyfrau sain BorrowBox gyfnod benthyca cychwynnol o 2 wythnos. Byddwch yn gallu adnewyddu'r eitemau ddwywaith.
Pan fyddwch wedi gorffen eich e-lyfr neu e-lyfr sain, dylech ei ddychwelyd, fel ei fod ar gael i eraill.
e-gylchgronau
Lawrlwythwch gannoedd o deitlau cylchgronau poblogaidd yn rhad ac am ddim! Mae e-gylchgronnau bellach yn cael eu darparu gan Overdrive trwy
Gellir cael mynediad i dros 3,300 o e-gylchgronnau. Mae'r holl gylchgronau ar gael ar sail ddiderfyn, felly ni fydd yn rhaid aros mewn ciw nag aros.
Os nad ydych wedi rhoi cynnig ar ap Libby eto, y cyfan sydd angen arnoch i gychwyn yw rhif eich cerdyn llyfrgell a'ch cyfrinair Defnyddir yr un cyfrineiriau a ddefnyddiwch i fewngofnodi i'ch cyfrif benthyciwr ar y Catalog Llyfrgell Sir Benfro
Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair, mae modd ei ailosod Catalog Llyfrgell Sir Benfro (Mewngofnodi / Cofrestru Wedi anghofio eich cyfrinair
Fel arall, cysylltwch ag unrhyw Llyfrgelloedd Sir Benfro a byddant yn gallu ei osod ar eich cyfer.
Mae ap yn hawdd ei ddefnyddio a bydd yn eich tywys trwy'r broses osod ac yn eich cysylltu'n llyfrgell mewn ychydig o funudau. Gallwch ddod o hyd i gymorth ar yr ap, neu ewch i'r Help am gymorth.
Prawf Theori Pro
Mae'r Prawf Theori Pro yn ailgread hynod realistig ar lein o brofion theori gyrru'r DU ar gyfer pob categori o gerbydau. Mae'n cynnwys pob un o'r cwestiynau prawf swyddogol ar drwydded oddi wrth y DSA, y bobl sy'n gosod y prawf!
- Mynediad diderfyn i'r holl gwestiynau swyddogol gan y DSA yn yr un fformat prawf swyddogol
- Fersiwn ar lein o God y Ffordd Fawr
- Mynediad i ailgreadau fideo realistig o beryglon
- Ymdrin; chategorau cerbydau car, beic modur, cerbyd cario teithwyr a cherbydau nwyddau trwm.
- Wedi'i gyfieithu i dros 40 iaith wahanol</li>
- Profion sy'n cael eu llywio'n llafar er mwyn i chi allu gwrando ar gwestiynau