Defnyddwyr Gwasanaeth

Beth Yw Cyfleoedd Dydd?

Nod cyfleoedd dydd yw eich cefnogi gyda chynnal annibyniaeth, datblygiad personol a chynhwysiant mewn bywyd cymunedol lleol. Mae gwasanaethau'n cefnogi pobl gydag anghenion gwahanol, o gymorth lefel isel hyd at ofal personol mwy dwys. Maen nhw'n cynnig cyfle i gymdeithasu ac i gwrdd â phobl newydd. Mae amrywiaeth o sefydliadau gwirfoddol a phreifat yn darparu'r gweithgareddau ledled Sir Benfro, yn ogystal â'r Bwrdd Iechyd Lleol a'n Gwasanaethau Gofal Oedolion. Mae'r mathau o weithgareddau sydd ar gael yn eang ac yn gallu amrywio o ran darpariaeth; mae rhai ond yn cael eu cynnig i bobl sy'n cael eu cyfeirio drwy ein tîm Gofal Oedolion tra bod eraill yn agored i unrhyw un. Mae pob un yn annog y rhyngweithio cymdeithasol cryf, hanfodol sydd ei angen ar bob unigolyn. Efallai y byddwn yn gallu trefnu cludiant i'ch gweithgareddau lle mae yna angen a aseswyd.

 

Gallwch gysylltu â'r Tîm Gwybodaeth Cyfleoedd Dydd drwy:

E-bost: dayopportunitiesenquiries@pembrokeshire.gov.uk

Rhif Ffôn: 01437 775700

ID: 9472, adolygwyd 06/11/2024