Defnyddwyr Gwasanaeth
Dewis y gweithgaredd cywir ar gyfer eich anghenion gofal chi
Ar hyn o bryd dim ond i’r rhai ag angen a aseswyd y mae Cyfleoedd Dydd y ceir mynediad iddynt drwy Gyngor Sir Penfro ar gael. Felly, dim ond os yw’r tîm cyfleoedd dydd wedi cofrestru’ch cyfrif y byddwch yn gallu neilltuo lle.
Mae’r gweithgareddau sydd ar gael yn cael eu categoreiddio i haenau. Mae hyn yn galluogi ein defnyddwyr gwasanaeth i ddewis eu gweithgaredd ar sail y math o gymorth a gynigir ar y safle.
Gweithgareddau haen 1
Mae’r gweithgareddau hyn yn darparu hyfforddwr yn unig. Bydd angen i chi neilltuo lle 48 awr cyn y sesiwn.
Sylwch, os oes angen unrhyw ofal personol arnoch, bydd angen i chi ddod â chynorthwyydd personol neu aelod o’r teulu gyda chi.
Gweithgareddau haen 2
Mae’r gweithgareddau hyn yn darparu cymorth mewn grŵp. Bydd staff ar y safle i gynorthwyo grwpiau o unigolion i gyflawni eu gweithgareddau. Unwaith y byddwch wedi ymweld â’r darparwr o’ch dewis a’i fod wedi cytuno ar eich lleoliad, byddwch yn cael mynd ati i neilltuo lle yn y gweithgaredd o’ch dewis.
Sylwch, os oes angen unrhyw ofal personol arnoch, bydd angen i chi ddod â chynorthwyydd personol neu aelod o’r teulu gyda chi.
Gweithgareddau haen 3
Mae’r gweithgareddau hyn yn rhai pwrpasol i’r rheiny sydd angen cymorth un-i-un, gyda llawer ohonynt yn cynnig gofal personol. Bydd hyn yn cael ei drafod gyda chi yn ystod eich asesiad, a bydd nifer yr oriau un-i-un a gymeradwyir yn cael eu hamlinellu yn eich cynllun gofal. Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i’r darparwr cywir, byddwn yn sicrhau bod eich dewis ar gael i’w brynu trwy’r platfform neilltuo lle.
Cyfrifon a reolir
Os nad oes gennych unrhyw un ar gael i neilltuo lle ar eich cyfer mewn gweithgareddau ac nad ydych yn gallu gwneud hynny eich hun, gallwch ofyn am gyfrif a reolir. Bydd ein tîm yn gwneud y prynu ar eich rhan, ond chi fydd yn dal yn gyfrifol am roi gwybod i’r tîm am unrhyw newidiadau i wasanaethau rheolaidd yn unol â thelerau ac amodau eich darparwr, ee canslo oherwydd salwch.
Beth Yw Cyfleoedd Dydd?
Nod cyfleoedd dydd yw eich cefnogi gyda chynnal annibyniaeth, datblygiad personol a chynhwysiant mewn bywyd cymunedol lleol. Mae gwasanaethau'n cefnogi pobl gydag anghenion gwahanol, o gymorth lefel isel hyd at ofal personol mwy dwys. Maen nhw'n cynnig cyfle i gymdeithasu ac i gwrdd â phobl newydd. Mae amrywiaeth o sefydliadau gwirfoddol a phreifat yn darparu'r gweithgareddau ledled Sir Benfro, yn ogystal â'r Bwrdd Iechyd Lleol a'n Gwasanaethau Gofal Oedolion. Mae'r mathau o weithgareddau sydd ar gael yn eang ac yn gallu amrywio o ran darpariaeth; mae rhai ond yn cael eu cynnig i bobl sy'n cael eu cyfeirio drwy ein tîm Gofal Oedolion tra bod eraill yn agored i unrhyw un. Mae pob un yn annog y rhyngweithio cymdeithasol cryf, hanfodol sydd ei angen ar bob unigolyn. Efallai y byddwn yn gallu trefnu cludiant i'ch gweithgareddau lle mae yna angen a aseswyd.
Gallwch gysylltu â'r Tîm Gwybodaeth Cyfleoedd Dydd drwy:
E-bost: DOITPembs@pembrokeshire.gov.uk / dayservicereferrals@pembrokeshire.gov.uk
Rhif Ffôn: 01437 776058
Manteisio Ar Gyfleoedd Dydd
Rydym wedi symleiddio'r ffordd y gallwch gael mynediad at gyfleoedd dydd yn Sir Benfro.
Yn y lle cyntaf, cysylltwch â Hwb Cymunedol Sir Benfro ar 01437 723660 a fydd yn gallu gwirio p’un a oes opsiynau eisoes yn y gymuned – mae’n gyflymach cael mynediad i’r rhain ac weithiau maent yn agosach atoch hefyd.
Os na allwch ddod o hyd i opsiwn cymunedol, byddwch yn cael eich cyfeirio at gael asesiad anghenion. Bydd hyn yn cynnwys asesiad ariannol i weld p’un a oes angen i chi gyfrannu at gost cyfle dydd ai peidio.
Os ydym yn eich asesu fel rhai sydd ag anghenion gofal cymwys, byddwn yn gweithio gyda chi a'ch gofalwyr i lunio cynllun gofal a chymorth. Bydd hyn yn seiliedig ar ba 'ganlyniadau' yr hoffech eu cyflawni. Er enghraifft, efallai y byddwch yn dymuno gwneud defnydd o'r cyfleusterau yn y gymuned leol a chwrdd â phobl newydd. Bydd gofyn i chi hefyd gwblhau asesiad ariannol i benderfynu a fydd angen i chi dalu am rai neu'r holl gyfleoedd dydd rydych chi'n eu defnyddio ai peidio.
Unwaith y bydd eich cynllun gofal a chymorth wedi'i ddatblygu a'ch bod wedi penderfynu ar eich swm cyllid cymwys, byddwn yn eich cefnogi i gael mynediad i'r ystod o weithgareddau sydd ar gael a fyddai'n bodloni eich canlyniadau gofal. Gallwn naill ai eich cefnogi i wneud hyn drwy ein gwasanaeth ar-lein dros y ffôn (neu yn y cnawd), neu gallwn eich sefydlu ar y system archebu fel y gallwch ddewis gweithgareddau i chi'ch hun a thalu gyda'ch swm cyllid sy'n cael ei gredydu ar y system.
Os hoffech brynu gweithgareddau sydd y tu allan i'ch anghenion gofal neu sydd dros lefel eich cyllid, gallwch ychwanegu at y gwahaniaeth gan ddefnyddio eich cronfeydd eich hun trwy gerdyn debyd.
Bydd y system yn caniatáu ichi bori drwy weithgareddau sydd wedi eu dewis fel rhai sy’n cwrdd â'ch canlyniadau gofal.
Eich dewis chi fydd pa un o'r gweithgareddau hyn yr hoffech gael mynediad ato.
Mae pob gweithgaredd yn rhoi crynodeb o'r hyn sydd ar gael a chaiff ei restru o dan un neu fwy o'r penawdau grŵp canlynol
- Y Celfyddydau
- Grwpiau Cymunedol a chymorth iechyd meddwl
- Gweithgareddau Corfforol
- Lleoliad gwaith
Bydd hefyd yn rhoi gwybodaeth ynglŷn â pha ddarpariaeth fydd ar gael i chi pan fyddwch yn mynychu'r gweithgaredd, fel offer codi, cyfleusterau newid, cymorth 1:1 a/neu hygyrchedd cadair olwyn.
Mae ein gwasanaeth newydd, ar hyn o bryd, yn agored i'r rhai sy’n byw yn ne-orllewin Sir Benfro. Mae llwybrau atgyfeirio traddodiadol ar gyfer y rheiny sy'n cael mynediad i Weithgareddau Dydd ar gyfer ardaloedd eraill yn Sir Benfro yn parhau i fod ar waith wrth i'r gwasanaeth ddatblygu.
Gallwch gysylltu â'r Tîm Gwybodaeth Cyfleoedd Dydd drwy:
E-bost: dayopportunitiesenquiries@pembrokeshire.gov.uk
Rhif Ffôn: 01437 764551
Prynu Cyfleoedd Dydd
Bydd eich gwobr yn cael ei ddarparu i chi fel credyd ar ein platfform archebu. Byddwch yn gallu defnyddio'r credyd hwn i brynu gweithgareddau sy'n bodloni eich canlyniadau gofal. Gallwch wneud hyn eich hun neu gyda chefnogaeth y teulu drwy ein platfform archebu ar-lein. Fel arall, gallwch gysylltu â'r Tîm Gwybodaeth Cyfleoedd Dydd dros y ffôn a all wneud yr archeb ar eich cyfer. Os hoffech brynu gweithgareddau dros eich swm credyd, gallwch wneud hynny drwy ychwanegu arian personol trwy Gerdyn Debyd ar y dudalen dalu.
Gallwch gysylltu â'r Tîm Gwybodaeth Cyfleoedd Dydd drwy:
E-bost: dayopportunitiesenquiries@pembrokeshire.gov.uk
Rhif Ffôn: 01437 764551