Defnyddwyr Gwasanaeth

Dewis y gweithgaredd cywir ar gyfer eich anghenion gofal chi

Ar hyn o bryd dim ond i’r rhai ag angen a aseswyd y mae Cyfleoedd Dydd y ceir mynediad iddynt drwy Gyngor Sir Penfro ar gael. Felly, dim ond os yw’r tîm cyfleoedd dydd wedi cofrestru’ch cyfrif y byddwch yn gallu neilltuo lle.

Mae’r gweithgareddau sydd ar gael yn cael eu categoreiddio i haenau. Mae hyn yn galluogi ein defnyddwyr gwasanaeth i ddewis eu gweithgaredd ar sail y math o gymorth a gynigir ar y safle.

Gweithgareddau Haen 1

Mae’r gweithgareddau hyn yn darparu hyfforddwr yn unig. Bydd angen i chi neilltuo lle 48 awr cyn y sesiwn.

Sylwch, os oes angen unrhyw ofal personol arnoch, bydd angen i chi ddod â chynorthwyydd personol neu aelod o’r teulu gyda chi.

Gweithgareddau Haen 2

Mae’r gweithgareddau hyn yn darparu cymorth mewn grŵp. Bydd staff ar y safle i gynorthwyo grwpiau o unigolion i gyflawni eu gweithgareddau. Unwaith y byddwch wedi ymweld â’r darparwr o’ch dewis a’i fod wedi cytuno ar eich lleoliad, byddwch yn cael mynd ati i neilltuo lle yn y gweithgaredd o’ch dewis.

Sylwch, os oes angen unrhyw ofal personol arnoch, bydd angen i chi ddod â chynorthwyydd personol neu aelod o’r teulu gyda chi.

Gweithgareddau Haen 3

Mae’r gweithgareddau hyn yn rhai pwrpasol i’r rheiny sydd angen cymorth un-i-un, gyda llawer ohonynt yn cynnig gofal personol. Bydd hyn yn cael ei drafod gyda chi yn ystod eich asesiad, a bydd nifer yr oriau un-i-un a gymeradwyir yn cael eu hamlinellu yn eich cynllun gofal. Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i’r darparwr cywir, byddwn yn sicrhau bod eich dewis ar gael i’w brynu trwy’r platfform neilltuo lle.

Cyfrifon a reolir

Os nad oes gennych unrhyw un ar gael i neilltuo lle ar eich cyfer mewn gweithgareddau ac nad ydych yn gallu gwneud hynny eich hun, gallwch ofyn am gyfrif a reolir. Bydd ein tîm yn gwneud y prynu ar eich rhan, ond chi fydd yn dal yn gyfrifol am roi gwybod i’r tîm am unrhyw newidiadau i wasanaethau rheolaidd yn unol â thelerau ac amodau eich darparwr, ee canslo oherwydd salwch.

ID: 11920, adolygwyd 13/09/2024