Defnyddwyr Gwasanaeth

Manteisio Ar Gyfleoedd Dydd

Rydym wedi symleiddio'r ffordd y gallwch gael mynediad at gyfleoedd dydd yn Sir Benfro.

Yn y lle cyntaf, cysylltwch â Hwb Cymunedol Sir Benfro ar 01437 723660 a fydd yn gallu gwirio p’un a oes opsiynau eisoes yn y gymuned – mae’n gyflymach cael mynediad i’r rhain ac weithiau maent yn agosach atoch hefyd.

Os na allwch ddod o hyd i opsiwn cymunedol, byddwch yn cael eich cyfeirio at gael asesiad anghenion. Bydd hyn yn cynnwys asesiad ariannol i weld p’un a oes angen i chi gyfrannu at gost cyfle dydd ai peidio.

Os ydym yn eich asesu fel rhai sydd ag anghenion gofal cymwys, byddwn yn gweithio gyda chi a'ch gofalwyr i lunio cynllun gofal a chymorth. Bydd hyn yn seiliedig ar ba 'ganlyniadau' yr hoffech eu cyflawni. Er enghraifft, efallai y byddwch yn dymuno gwneud defnydd o'r cyfleusterau yn y gymuned leol a chwrdd â phobl newydd.  Bydd gofyn i chi hefyd gwblhau asesiad ariannol i benderfynu a fydd angen i chi dalu am rai neu'r holl gyfleoedd dydd rydych chi'n eu defnyddio ai peidio. 

Unwaith y bydd eich cynllun gofal a chymorth wedi'i ddatblygu a'ch bod wedi penderfynu ar eich swm cyllid cymwys, byddwn yn eich cefnogi i gael mynediad i'r ystod o weithgareddau sydd ar gael a fyddai'n bodloni eich canlyniadau gofal. Gallwn naill ai eich cefnogi i wneud hyn drwy ein gwasanaeth ar-lein dros y ffôn (neu yn y cnawd), neu gallwn eich sefydlu ar y system archebu fel y gallwch ddewis gweithgareddau i chi'ch hun a thalu gyda'ch swm cyllid sy'n cael ei gredydu ar y system.

Os hoffech brynu gweithgareddau sydd y tu allan i'ch anghenion gofal neu sydd dros lefel eich cyllid, gallwch ychwanegu at y gwahaniaeth gan ddefnyddio eich cronfeydd eich hun trwy gerdyn debyd.

Bydd y system yn caniatáu ichi bori drwy weithgareddau sydd wedi eu dewis fel rhai sy’n cwrdd â'ch canlyniadau gofal.

Eich dewis chi fydd pa un o'r gweithgareddau hyn yr hoffech gael mynediad ato.

Mae pob gweithgaredd yn rhoi crynodeb o'r hyn sydd ar gael a chaiff ei restru o dan un neu fwy o'r penawdau grŵp canlynol

  • Y Celfyddydau
  • Grwpiau Cymunedol a chymorth iechyd meddwl
  • Gweithgareddau Corfforol
  • Lleoliad gwaith

Bydd hefyd yn rhoi gwybodaeth ynglŷn â pha ddarpariaeth fydd ar gael i chi pan fyddwch yn mynychu'r gweithgaredd, fel offer codi, cyfleusterau newid, cymorth 1:1 a/neu hygyrchedd cadair olwyn.

Mae ein gwasanaeth newydd, ar hyn o bryd, yn agored i'r rhai sy’n byw yn ne-orllewin Sir Benfro. Mae llwybrau atgyfeirio traddodiadol ar gyfer y rheiny sy'n cael mynediad i Weithgareddau Dydd ar gyfer ardaloedd eraill yn Sir Benfro yn parhau i fod ar waith wrth i'r gwasanaeth ddatblygu.

 

Gallwch gysylltu â'r Tîm Gwybodaeth Cyfleoedd Dydd drwy:

E-bost: dayopportunitiesenquiries@pembrokeshire.gov.uk

Rhif Ffôn: 01437 764551

ID: 9473, adolygwyd 11/05/2023