Derbyniadau i Ysgolion yn Sir Benfro - Gwybodaeth i Rieni
Derbyniadau i Ysgolion yn Sir Benfro - Gwybodaeth i Rieni
2025 - 2026
Gwasanaeth Derbyniadau i Ysgolion
I gael copi o’r cyhoeddiad hwn mewn Braille, print mwy, ar dâp sain neu mewn iaith arall ffoniwch Gyngor Sir Penfro ar (01437) 764551.
Noder: Mae’r wybodaeth yn y llyfryn hwn yn berthnasol ac yn gywir ar adeg ei gyhoeddi. Adolygir y llyfryn hwn yn flynyddol ac mae’n disodli’r holl fersiynau eraill. Efallai y bydd rhaid addasu polisi, rheoleiddio, darpariaeth neu adnoddau ar gyfer, neu yn ystod, y flwyddyn academaidd 2025/26
Rhagair
Neges gan y Cyfarwyddwr Addysg - 1 Medi 2024
Annwyl Riant neu Warcheidwad
Bwriad y llyfryn hwn yw eich cynorthwyo i wneud penderfyniadau pwysig ynglŷn â pha ysgol y gall eich plentyn fynychu.
Er mwyn hwyluso eich penderfyniad, rydym yn argymell eich bod yn ymweld ag ysgolion lleol, yn darllen prosbectws yr ysgol ac yn edrych ar wefan Fy Ysgol Leol (yn agor mewn tab newydd)
Cyn gwneud eich cais, rydym yn eich annog i ddefnyddio’r gwiriwr cymhwyster cludiant i ystyried yr opsiynau cludiant sydd ar gael i chi. Gellir dod o hyd i’r gwiriwr cludiant yma – Gwiriwr cymhwyster cludiant
Er bod y rhan fwyaf o geisiadau’n llwyddiannus, nid yw’n bosib i bob cais lwyddo.
Pwrpas y llyfryn hwn yw esbonio’r broses o wneud cais, a’r broses o apelio os nad ydych yn llwyddo i gael eich dewis cyntaf. Dylech nodi nad yw’r ffaith bod plentyn yn cael ei dderbyn i ysgol yn awgrymu bod cludiant i’r ysgol honno ac oddi yno yn cael ei ddarparu.
Dymunaf bob llwyddiant i’ch plentyn yn y dyfodol.
Steven Richard-Downes
Cyfarwyddwr Addysg
Cyngor Sir Penfro,
Neuadd y Sir,
Hwlffordd,
Sir Benfro SA61 1TP
Ffôn (01437) 764551
Siarter Lleol
Gwasanaeth Derbyn i Ysgolion
Ym mis Ebrill 2024 roedd 60 ysgol yn Sir Benfro yn gwasanaethu 9087 disgybl oedran cynradd llawn-amser a 872 rhan-amser, a 7041 disgybl oedran uwchradd. Cyngor Sir Penfro yw’r awdurdod derbyn ar gyfer Ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir yn Sir Benfro ac mae'r Tîm derbyn yn delio â’r holl geisiadau am le i ysgolion a’r trosglwyddiadau, ac eithrio i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir. Yr Awdurdod Derbyn ar gyfer ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yw corf llywodraethu'r ysgol dan sylw.
Gallwch ddisgwyl:
- derbyn cyngor dibynadwy a diduedd ynglŷn ag ysgolion a mynegi dewis
- y bydd eich cais am le mewn ysgol yn cael ei drin yn deg ac yn effeithlon
- y cynigir lle ichi mewn da bryd (yn amodol ar dderbyn eich cais mewn pryd)
- lle yn yr ysgol o’ch dewis oni bai bod mwy o geisiadau na’r nifer derbyn yn caniatau mynediad. Os bydd hyn yn digwydd, bydd yr holl geisiadau yn cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf gordanysgrifio
- derbyn gwybodaeth am agweddau allweddol ar bolisïau'r Cyngor Sir ynglŷn â derbyniadau
- cael gwybod sut i dderbyn prosbectws ysgol a sut i drefnu ymweliad ag ysgol a gwybodaeth berthnasol arall am ysgolion yn Sir Benfro
- gwybodaeth ynglŷn â'r hawl i apelio i banel apelio annibynnol os na roddir lle i chi yn yr ysgol o’ch dewis
- gweithdrefn gwyno agored, teg ac effeithiol os nad ydych yn fodlon ar y gwasanaethau a dderbyniwch
Gallwn ddisgwyl:
- i rieni/ gwarcheidwaid i ddarparu’r holl wybodaeth angenrheidiol yn ôl y gofyn i gyflwyno ffurflen gais ac i gysylltu â’r tîm derbyniadau cyn gynted ag sy’n bosib os mae rhywbeth wedi’i nodi’n anghywir.
- i rieni/ gwarcheidwaid i ddarllen y llyfryn yma ac felly i fod yn ymwybodol o'r ffordd yr ymdrinnir â cheisiadau ac o'r amserlenni dan sylw.
Os yw eich plentyn wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol ac nad ydych wedi cael lle yn yr ysgol o’ch dewis mae gennych hawl i apelio i banel apêl annibynnol. Mae gan unrhyw riant (ac eithrio un y mae ei blentyn wedi’i wahardd yn barhaol o ddwy ysgol) y gwrthodir lle i’w blentyn mewn ysgol, neu berson ifanc y gwrthodir lle iddo mewn chweched dosbarth ysgol, hawl statudol i apelio i banel apêl annibynnol (nid yw’r hawl hon I apelio’n ymestyn i geisiadau am addysg feithrin). Bydd gan rieni neu bobl ifanc hawl i apelio hefyd os cynigiwyd lle i blentyn neu berson ifanc ac y tynnwyd y cynnig hwnnw’n ôl.
Mae'n rhaid i chi gyflwyno eich apêl yn ysgrifenedig. Bydd manylion ynglŷn â sut i apelio yn y llythyr/ebost sy’n eich hysbysu am y penderfyniad ac mae’r manylion yn y llyfryn hwn hefyd. Os ydych yn anfodlon â’r gwasanaeth a ddarperir gallwch wneud cwyn swyddogol.
Cyfleoedd Cyfartal
Nid yw polisïau ac arferion y Cyngor Sir ynglŷn â derbyn a throsglwyddo disgyblion a darparu cludiant ysgol yn gwahaniaethol ac maent yn cydymffurfio a’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Mae gwybodaeth am addysgu Cymraeg a Saesneg yn ysgolion Sir Benfro yn Rhan 1, xvi.
Os ydych o’r farn eich bod wedi cael eich trin yn annheg o safbwynt cyfle cyfartal mewn perthynas â derbyn i ysgol neu gludiant ysgol cysylltwch â’r canlynol:
Derbyniadau:
David Thompson
Rheolwr Mynediad a Chydymffurfiaeth
Adran Addysg
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP
Ffôn: 01437 764551
Ebost: admissions@pembrokeshire.gov.uk
Cludiant Ysgol:
Owen Roberts
Swyddog Trafnidiaeth Statudol
Trafnidiaeth & Amgylchedd
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP
Ffôn: 01437 764551
Ebost: school.transport@pembrokeshire.gov.uk
Cwynion
Weithdrefn Gwyno, Canmol a Chyflwyno Sylwadau
Diogelu Data
Bydd y wybodaeth a roddir ar y ffurflen gais yn cael ei phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018. Defnyddir y wybodaeth ar y ffurflen ar gyfer gweinyddu derbyniadau ysgol neu drosglwyddiadau.
Hysbysiad Prosesu Teg Derbyniadau
Hysbysiad Prosesu Teg Derbyniadau