Derbyniadau i Ysgolion yn Sir Benfro Gwybodaeth i Rieni (y flwyddyn nesaf)
Atodiad 1 Cysylltiadau gwefan Cyngor Sir Penfro (2024-2025)
Cynhwysiant ac Anghenion Dysgu Ychwanegol
Mae'r gwasanaeth cynhwysiant yn hybu cyflawniad a lles ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Yn ei hanfod, mae'n golygu gwneud yn siŵr bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael mynediad at yr un cyfleoedd a gwasanaethau â phawb arall ac yn derbyn addysg o safon uchel, sy'n eang, yn gytbwys ac yn berthnasol i ddiwallu eu hanghenion unigol. Mae'r strategaeth cynhwysiad yn nodi y gall ac y dylai'r rhan fwyaf o ddysgwyr oedran ysgol gael eu haddysgu gydag eraill o'u hoedran eu hunain yn eu hysgol gymunedol leol sydd wedi'i chyfarparu'n briodol ac yn addas i'r diben. Os hoffech rywfaint o gyngor ac arweiniad cyffredinol am angen ychwanegol eich plentyn, dylech gysylltu â'r Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni: pps@pembrokeshire.gov.uk drwy ffonio 01437 776354.
Gellir cael gwybodaeth bellach o wefan Gwefan Cyngor Sir Penfro
Gwasanaeth prydau ysgol
Darperir prydau ysgol gan dîm arlwyo Cyngor Sir Penfro.
Bwydlenni a gwybodaeth bellach
Gwybodaeth am brydau ysgol am ddim
Trafnidiaeth Addysg
Mae dyletswydd statudol ar Gyngor Sir Penfro (fel yr Awdurdod Lleol) i ddarparu cludiant am ddim ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol i’w hysgol ddalgylch neu eu hysgol a gynhelir agosaf sy’n addas os ydynt yn byw dros y pellter cerdded statudol.
Darperir cludiant am ddim yn ôl y Mesur Teithio gan ddysgwyr Cymru Mesur-Canllawiau Gweithredol a pholisi cludiant i'r ysgol Cyngor Sir Penfro gellir cael gwybodaeth bellach o'r dudalen tudalen cludiant ysgol ar wefan Cyngor Sir Penfro.
Rhestrau ysgolion
Dyddiadau tymor a gwyliau