Derbyniadau i Ysgolion yn Sir Benfro Gwybodaeth i Rieni (y flwyddyn nesaf)
Atodiad 2 Egluro’r derminoleg (2024-2025)
Blwyddyn Academaidd
Blwyddyn Ysgol sy’n cychwyn ar Fedi 1af ac yn gorffen ar yr 31ain Awst canlynol.
Nifer Derbyn
Nifer y lleoedd ysgol y mae'n rhaid i'r awdurdod derbyn eu cynnig ym mhob grŵp oedran perthnasol mewn ysgol, sef yr awdurdod derbyn. Mae'r niferoedd derbyn yn seiliedig ar Reoliadau "Mesur capasiti ysgolion yng Nghymru" ac maent yn ymwneud yn uniongyrchol â chapasiti'r ysgol.
Dalgylch
Yr ardal ddaearyddol y bwriadwyd i’r ysgol ei gwasanaethu.
Oedran Ysgol Gorfodol
Mae plentyn yn cyrraedd oedran ysgol gorfodol yn y tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn 5 oed. Mae plentyn yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol os yw wedi cyrraedd 16 oed ar y dyddiad gadael ysgol rhagnodedig, neu cyn y flwyddyn ysgol nesaf, sef y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin.
Cyngor Sir
Dyma’r corff llywodraeth leol sy’n gyfrifol am drefnu a chynnal gwasanaethau addysg. Cyngor Sir Penfro sy’n gyfrifol am hyn yn Sir Benfro. Mae’r Cyngor Sir yn cyflawni amrywiaeth o swyddogaethau statudol.
Cwricwlwm
Yr holl weithgareddau a chyfleoedd ar gyfer dysgu a ddarperir gan ysgol.
Ysgol a Gynhelir
Ysgol a ariennir ac a gynhelir gan Gyngor Sir Penfro (sef yr Awdurdod Addysg Lleol).
Ysgol nas Cynhelir neu Ysgol Annibynnol
Ysgol nad yw’n cael ei hariannu na’i chynnal gan Gyngor Sir.
Meithrin
Llefydd ysgol ar gyfer plant o’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed hyd nes iddynt ddod i oedran ysgol ar gyfer y dosbarth Derbyn.
Lle Ysgol Cynradd (Dosbarth Derbyn)
Bydd lle'r plentyn yn yr ysgol yn dechrau yn ystod tymor yr hydref ar ôl penblwydd y plentyn yn 4 oed.
Brodyr a chwiorydd
Disgyblion sydd â brodyr neu chwiorydd hŷn, hanner brodyr neu chwiorydd, llys frodyr neu chwiorydd, neu brodyr neu chwiorydd mabwysiadol neu faeth ac yn byw ar yr un aelwyd ar adeg eu derbyn.
Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir (yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig)
Ysgol a gynhelir a sefydlwyd gan gorff gwirfoddol (fel arfer yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig). Mae ysgolion a gynorthwyir yn rheoli eu derbyniadau eu hunain a’u maes llafur Addysg Grefyddol ac yn cyflogi eu gweithwyr eu hunain.
Ysgol Wirfoddol a Reolir
Mae hon yn ysgol a gynhelir lle mae Addysg Grefyddol yn cael ei darparu yn unol â maes llafur cytunedig yr Awdurdod. Gellir cynnig rhywfaint o hyfforddiant enwadol.