Derbyniadau i Ysgolion yn Sir Benfro Gwybodaeth i Rieni (y flwyddyn nesaf)

Atodiad 4: Trefniadau derbyn a meini prawf gordanysgrifio ar gyfer Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir (2026-2027)

Ar y dudalen hon:

Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Sant Marc, Hwlffordd

Ysgol Wirfoddol a Gwynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Sant Oswald, Jeffreyston

Ysgol a Gynorthwyir yn Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru St Aidan

Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Penrhyn Dewi VA School, Tyddewi

Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Catholig Mair Ddihalog a Theilo Sant

Ffederasiwn Ysgol yr Enw Sanctaidd ac Ysgol Sant Ffransis

 

 

Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Sant Marc, Hwlffordd

 

Ysgol Sant Marc G. C. Pont Myrddin,

Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1JX

Rhif ffôn 01437 767623

E-bost: admin.stmarks@pembrokeshire.gov.uk

 

Prifathro: 

Mr R Owen (Dros Dro)

E-bost: head.stmarks@pembrokeshire.gov.uk 

 

Ein ysgol eglwysig

Fel Ysgol Eglwysig, ein hethos Cristnogol sydd wrth wraidd popeth a wnawn. Dylai ein hysgol “fod yn lle arbennig, yn lle diogel, yn lle dysgu, yn lle i feithrin ac archwilio. Rhaid i ysgol eglwysig ddangos didwylledd a derbyniad, goddefgarwch a maddeuant. Yma, caiff gwerthoedd ac agweddau eu ffurfio, ac mae pob unigolyn yn cael ei ddathlu fel rhywun unigryw. Mae Ysgol Eglwysig yn datblygu cymeriad Cristnogol arbennig trwy ei haddysg grefyddol, addoli ar y cyd ac ethos, sy’n rhoi gwybod i’r byd am gariad a phresenoldeb Duw.” (Gwefan Church Schools)

 

Datganiad cenhadaeth

Rydym yn gymuned ofalgar, lle caiff pawb eu gwerthfawrogi a’u parchu. Rydym yn dysgu, chwarae, gweddïo a thyfu gyda’n gilydd, wedi’n hamgylchynu gan gariad Duw bob dydd, er mwyn i ni fod y gorau y gallwn ni.

 

Arwyddair

Dysgu, chwarae, gweddïo a thyfu gyda’n gilydd, er mwyn i ni fod y gorau y gallwn ni.

 

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Mae’r ysgol wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau uchaf o ran Diogelu Data. Byddwn yn trin yr holl ddata personol fel y byddem yn disgwyl i’n data personol ein hunain gael ei drin, h.y. â pharch, uniondeb a chyfrinachedd, ac yn unol â’r GDPR a deddfau Diogelu Data eraill. Bydd ein holl bolisïau ysgol yn glynu at ganllawiau’r GDPR. Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd wedi’i gyhoeddi ar wefan yr ysgol (yn agor mewn tab newydd)

 

CCUHP (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn)

Ymgorfforir egwyddorion CCUHP (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn) ar draws ein holl gwricwlwm, polisïau ac arferion. Mae hyn yn rhoi fframwaith i ni sy’n rhoi ystyr a dealltwriaeth wirioneddol ar gyfer popeth a wnawn.

 

Polisi derbyn

Yr awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgol hon yw’r Corff Llywodraethol. Caiff y polisi derbyn ei adolygu bob blwyddyn.

Mae’r polisi hwn yn ymwneud â’r blynyddoedd hyd at, ac yn cynnwys, y flwyddyn ysgol 2026 – 2027.

Datblygwyd y polisi derbyn hwn i sicrhau system gyson a theg ar gyfer derbyn plant i’r ysgol, yn enwedig os yw lleoedd yn debygol o fod yn gyfyngedig o ganlyniad i gyrraedd y nifer derbyn, sef 20 disgybl mewn unrhyw grŵp blwyddyn penodol.

Nod yr Awdurdod Derbyn yw cael trefniadau derbyn a fydd yn gweithio er budd yr holl rieni a phlant yn yr ardal, ac a fydd mor syml ag y bo modd i rieni eu defnyddio a’u helpu i wneud penderfyniadau.

 

Pryd gall fy mhlentyn ddechrau yn yr ysgol?

Yn Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir San Marc, fel yng ngweddill Sir Benfro, mae plant yn gymwys i fynychu’r ysgol yn rhan-amser o’r tymor cyntaf ar ôl eu trydydd pen-blwydd, ac amser llawn o’r tymor cyntaf ar ôl eu pedwerydd pen-blwydd. Sylwer bod addysg orfodol yn dechrau o’r tymor ar ôl eu pumed pen-blwydd. Mae dyddiad pen-blwydd eich plentyn yn pennu pryd y gall ddechrau yn yr ysgol, ni waeth beth yw’r dyddiad pan mae’r tymor yn dechrau, ac mae’r tabl isod yn dangos pryd y gellir derbyn eich plentyn i’r ysgol. Gall rhieni ddewis gohirio dyddiad dechrau eu plentyn unrhyw bryd nes bydd y plentyn o oedran ysgol gorfodol; i gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ag Ysgol San Marc, ar 01437 767623.

 

Mae pen-blwydd y plentyn rhwng
  • 1 Ebrill - 31 Awst: Tim derbyn i'r meithrin - Hydref
  • 1 Medi - 31 Rhagfyr: Tim derbyn i'r meithrin - Gwanwyn
  • 1 Ionawr - 31 Mawrth: Tim derbyn i'r meithrin - Haf

 

Gall plant fynychu Ysgol San Marc yn amser llawn ar ddechrau’r tymor ar ôl eu pedwerydd pen-blwydd.

Nid yw’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i blentyn ddechrau mewn addysg amser llawn hyd nes dechrau’r tymor ysgol ar ôl ei bumed pen-blwydd. Fodd bynnag, darperir lle amser llawn ar gyfer disgyblion yn y tymor ar ôl iddynt fod yn bedair blwydd oed, ac anogir disgyblion yn gryf i fynychu’n amser llawn er mwyn derbyn manteision llawn addysg a phrofiadau yn y Cyfnod Sylfaen.

 

Ceisiadau

Dylid gwneud unrhyw geisiadau i gael lle yn Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir San Marc ar-lein drwy wefan Gyngor Sir Penfro. Os nad oes cyfeiriad e-bost gan rieni, mae ffurflen gais ar gael o'r ysgol neu drwy gysylltu â’r tîm Derbyniadau i Ysgolion yng Nghyngor Sir Penfro.  Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau ar gyfer y dosbarth meithrin yw 30 Ebrill cyn y flwyddyn galendr y mae angen y lle yn yr ysgol ynddi. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau ar gyfer y dosbarth meithrin yw 31 Ionawr yn y flwyddyn y mae angen y lle yn yr ysgol ynddi. Bydd rhieni yn cael gwybod am lwyddiant eu cais erbyn 31 Gorffennaf 2025. Bydd rhieni sydd wedi gwneud cais ar gyfer y dosbarth derbyn yn cael gwybod am lwyddiant eu cais erbyn 16 Ebrill 2025. Mae Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir San Marc wedi ymrwymo i sicrhau'r safonau uchaf o ran diogelu data. 

Gofynnir i rieni ddarparu copi o dystysgrif geni’r plentyn. Mae plant o dramor, sy’n byw yn gyfreithlon yn y DU, p’un a ydynt gyda rhieni neu heb rieni, yn meddu ar yr un hawliau i addysg â phlant sy’n Ddinasyddion Prydeinig. O ganlyniad, bydd Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir San Marc yn trin ceisiadau o’r fath i dderbyn i ysgolion yn yr un ffordd. 

 

Meini prawf gordanysgrifio

Mae Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir San Marc yn ysgol yr Eglwys yng Nghymru sydd, yn ei hanfod, yn gwasanaethu cymuned Pont Fadlen ac ardal fugeiliol Hwlffordd. Mae’r polisi derbyn yn adlewyrchu hyn yn ei restr flaenoriaethol o feini prawf gordanysgrifio:

  1. Plant sy’n Derbyn Gofal ar hyn o bryd, ac a fu’n derbyn gofal yn y gorffennol (plant sy’n derbyn gofal gan Awdurdod Lleol yn unol ag Adran 22 Deddf Plant 1989).
  2. Brodyr neu chwiorydd plant sydd eisoes yn yr ysgol adeg derbyn. Bydd hyn yn cynnwys unrhyw frodyr neu chwiorydd llawn, hanner brodyr neu chwiorydd neu lys frodyr neu chwiorydd sy’n byw yn yr un cyfeiriad â phlentyn sydd eisoes yn yr ysgol.
  3. Plant sy’n byw yng nghymuned Pont Fadlen. (Gweler y map ar ddiwedd y ddogfen hon y gellir ei ddefnyddio fel canllaw.)
  4. Plant aelodau gweithredol o’r Eglwys yng Nghymru (dylid cynnwys datganiad gan eu Hoffeiriad Plwyf i gefnogi’r cais).
  5. Plant i rieni o enwadau Cristnogol eraill sy’n dymuno i’w plentyn gael addysg mewn ysgol eglwysig (dylid cynnwys datganiad gan eu Harweinydd Ffydd i gefnogi’r cais).
  6. Plant i rieni sy’n arddel mathau eraill o ffydd sy’n dymuno i’w plentyn gael addysg mewn ysgol yr Eglwys Anglicanaidd.

 

Os bydd plant sy’n deillio o enedigaeth luosog yn gwneud cais am leoedd yn ein hysgol, byddant yn cael eu hystyried fel uned, a bydd lle yn cael ei gynnig naill ai i bob un neu ddim un ohonynt, yn dibynnu ar b’un a fyddai eu derbyn yn achosi i ni fynd y tu hwnt i’r nifer derbyn. Os yw’r plentyn olaf i gael ei dderbyn i fyny i’r nifer derbyn yn un o enedigaeth luosog, yna byddai brawd/chwaer neu frodyr/chwiorydd yr enedigaeth luosog honno yn cael eu derbyn hefyd.

Bydd plant i staff y lluoedd arfog yn cael eu derbyn y tu allan i’r rownd dderbyn arferol, hyd yn oed os byddai eu derbyn yn achosi i ni fynd y tu hwnt i’r terfyn ym maint y dosbarth babanod. (Yn amodol ar y meini prawf gordanysgrifio uchod).

Wedi iddynt gael eu derbyn i’r ysgol, caiff y plant eu cofnodi ar Gofrestr yr Ysgol. Caiff eu manylion, ynghyd ag unrhyw wybodaeth a ddarparwyd gan eu rhieni, eu cynnwys ar gofnodion cyfrifiadur sy’n destun rheoliadau diogelu data.

Ni fydd pob dosbarth yn cynnwys mwy na 30 o ddisgyblion ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. Os bydd plentyn yn symud i’r ardal yn ystod y flwyddyn ysgol, gallai’r nifer o fewn y dosbarth hwnnw godi i dros 30 ar gyfer y flwyddyn ysgol honno yn unig.

Gall y Corff Llywodraethol wrthod derbyn plentyn i ysgol pan gyrhaeddir y nifer derbyn.

 

Apeliadau

Os gwrthodir lle, mae gan rieni hawl i apelio. Dylai rhieni sy’n aflwyddiannus apelio’n ysgrifenedig i gadeirydd y corff llywodraethu, drwy Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir San Marc, Pontfadlen, Hwlffordd, SA61 1JX. Caniateir i rieni 14 diwrnod (10 niwrnod gwaith), o'r dyddiad y cawsant eu hysbysu bod eu cais yn aflwyddiannus, i baratoi a chyflwyno eu hapeliadau ysgrifenedig. Caiff ceisiadau am apêl sy'n dod i law eu cydnabod.  Rhoddir o leiaf 14 diwrnod (10 niwrnod gwaith) o rybudd ysgrifenedig i apelwyr o ddyddiad eu gwrandawiad apêl. Dim ond rhieni plant o oedran ysgol statudol all apelio yn erbyn gwrthod cais. 

 

Dewis rhieni

Bydd yr Awdurdod Derbyn yn dangos ystyriaeth am yr egwyddor gyffredinol y dylid addysgu disgyblion yn unol â dymuniadau eu rhieni, oni bai y byddai derbyn y plentyn hwnnw’n niweidio darpariaeth addysg effeithlon, neu ddefnydd effeithlon o adnoddau.

Os yw plentyn wedi cael ei wahardd yn barhaol o ddwy ysgol neu fwy, caiff y gofyniad i gydymffurfio â dewis y rhieni ei ddatgymhwyso am gyfnod o ddwy flynedd ar ôl yr ail waharddiad.

 

Datglwm ar gyfer pob categori

Os bydd datglwm wrth ystyried y meini prawf gordanysgrifio, bydd y llywodraethwyr yn derbyn yr ymgeiswyr hynny sy’n byw agosaf at yr ysgol. Yn achos plentyn y mae gan ei rieni gyfrifoldeb ar y cyd / rhannu cyfrifoldeb amdano, cartref y rhiant sydd â’r cyfrifoldeb mwyaf yn ystod yr wythnos ysgol fydd y cyfeiriad a bennir. Bydd angen prawf o breswylfa (wedi’i ddyddio o fewn y tri mis diwethaf) ar ffurf un o’r canlynol:

 

  • Cyfriflen y Dreth Gyngor
  • Bil Cyfleustod
  • Cyfriflen Budd-daliadau, e.e. Lwfans Plant, Pensiwn
  • Cyfriflen Morgais
  • Cyfriflen Banc / Cymdeithas Adeiladu
  • Cyfriflen Cerdyn Credyd

 

Bydd y Corff Llywodraethol yn defnyddio’r llwybr cerdded byrraf, wedi’i gyfrifo gan ddefnyddio data llwybr teilwredig Arolwg Ordnans o ddrws ffrynt yr ysgol i ddrws ffrynt cartref yr ymgeisydd. Os oes angen, bydd y llywodraethwyr yn gofyn am gymorth gan yr awdurdod lleol i bennu’r llwybr byrraf.

 

Rhestr aros

Cedwir rhestr aros o geisiadau aflwyddiannus hyd nes y cyrhaeddir y dyddiad derbyn arferol.  Os daw lle ar gael, bydd y llywodraethwyr yn ystyried y rheiny ar y rhestr aros ar sail y meini prawf gordanysgrifio cyhoeddedig. Os bydd y llywodraethwyr yn rhoi cais ar y rhestr aros, ni fydd yn effeithio ar hawl rhiant i apelio.  Yn achos ceisiadau a dderbynnir y tu allan i'r cylchoedd derbyn arferol (ee disgyblion nad ydynt o oed ysgol orfodol sy'n dymuno ymuno â'r meithrin), cedwir rhestrau aros hyd nes diwedd y flwyddyn academaidd. 

 

Trosglwyddiadau rhwng ysgolion

Gall rhieni ofyn i drosglwyddo'u plant i'r ysgol unrhyw bryd.  Os yw'r cais am drosglwyddo o ganlyniad i newid cyfeiriad, a bod lle i'r disgybl yn Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir San Marc, bydd y broses o drosglwyddo yn digwydd cyn gynted ag sy'n gyfleus i'r ddwy ochr. 

Os nad yw'r cais am drosglwyddo o ganlyniad i newid cyfeiriad, gofynnir am gyngor gan y Gwasanaeth Lles Addysg.  Gwahoddir rhieni i drafod y cais am drosglwyddo gyda'r pennaeth, a fydd yn penderfynu a ddylid caniatáu trosglwyddiad ar unwaith.

Gall newid ysgol fod yn gythryblus i ddisgyblion a gall darfu ar drefniadaeth dosbarth. Dylai fod yn ddewis olaf un, a’i ystyried dim ond pan fydd yr holl opsiynau eraill ar gyfer datrys problemau wedi’u harchwilio.  Os yw eich cais am drosglwyddiad o ganlyniad i bryderon am gynnydd eich plentyn neu os oes unrhyw broblemau yn ysgol eich plentyn, dylech, fel cam cyntaf, drafod y mater gyda phennaeth yr ysgol bresennol. 

 

Pa drefniadau diogelu sydd ar waith?

Mae gofal a lles disgyblion yn holl bwysig i bob ysgol. Mae pob aelod o staff ysgol yn glynu at Weithdrefnau Diogelu Cymru 2019 er mwyn diogelu a hyrwyddo lles plant. Mae gan bob ysgol bolisi diogelu, a bydd ganddi Uwch Unigolyn Dynodedig wedi’i enwi sy’n gyfrifol am faterion diogelu ac am ddelio â honiadau unigol o gam-drin.

Mae gan ysgolion ddyletswydd statudol i weithredu er lles pennaf y plentyn, ac felly, mae ganddynt ddyletswydd i wneud atgyfeiriad diogelu i’r Tîm Asesu Gofal Plant (CCAT) o fewn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol os oes pryderon am les plentyn neu os oes honiad am gam-drin. Fel arfer, gofynnir am ganiatâd i atgyfeirio plentyn gan riant. Fodd bynnag, er mwyn gwarchod plentyn, weithiau, bydd angen atgyfeirio heb roi gwybod i’r rhieni. Mae hwn yn faes gwaith sensitif, ac mae cael cefnogaeth rhieni yn bwysig pan fydd ysgolion yn rhoi protocolau diogelu ar waith. Hoffem eich sicrhau bod staff ysgolion yn gweithio gan roi sylw cadarn i les eich plentyn. Mae ysgolion Sir Benfro yn gweithredu Polisi Atal Eithafiaeth a Radicaleiddio, y bwriedir iddo ddarparu fframwaith ar gyfer delio â materion yn ymwneud â bregusrwydd, radicaleiddio ac amlygrwydd i safbwyntiau eithafol.

Mae holl ysgolion Sir Benfro yn cymryd rhan mewn prosiect gyda Heddlu Dyfed-Powys o’r enw Operation Encompass. Trwy Operation Encompass, rhoddir gwybod i ysgolion cyn dechrau’r diwrnod ysgol canlynol pan fydd plentyn neu berson ifanc wedi cael ei amlygu i unrhyw ddigwyddiad domestig, neu wedi bod yn gysylltiedig ag ef. Mae’r Pennaeth a’r Uwch Unigolyn Dynodedig wedi cael eu hyfforddi i ddefnyddio’r wybodaeth am y digwyddiad domestig i sicrhau bod plentyn a/neu’i deulu yn cael cefnogaeth ddigonol pan fydd wedi bod yn gysylltiedig â digwyddiad cam-drin domestig, neu wedi cael ei amlygu i hyn. 

 



Ysgol Wirfoddol a Gwynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Sant Oswald, Jeffreyston

Polisi Derbyniadau

Bydd y polisi hwn yn benodol i dderbyniadau yn ystod 2026 – 2027

 

Rhagymadrodd

Mae'r polisi a'r trefniadau a nodir isod yn cael eu llywodraethu gan y rhannau perthnasol o ddeddfwriaeth addysg a darpariaeth gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol.

 

Hawliau rhieni

Mae'r ysgol yn ceisio darparu lleoedd ar gyfer pob plentyn sy'n byw o fewn y dalgylch yr oedd disgyblion yn dod ohono i fynychu hen Ysgol WR Jeffreyston ac Ysgol Gynradd Loveston hyd at 31 Awst 2001. Fodd bynnag, gall unrhyw riant wneud cais i'w blentyn/phlentyn gael ei dderbyn i'r ysgol. Gellir cael ffurflen gais o swyddfa’r ysgol a rhaid ei dychwelyd at Gadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Sant Oswallt. Rhaid i rieni hefyd wneud cais trwy wefan Cyngor Sir Penfro.

Os na fydd plentyn yn cael cynnig lle, gall y rhiant, o fewn 14 diwrnod, apelio yn erbyn y penderfyniad i Banel sy'n cael ei drefnu at y diben hwnnw yn unol â darpariaethau'r Deddfau Addysg. Bydd y Pennaeth yn rhoi gwybodaeth am sut i apelio ar adeg y penderfyniad gwreiddiol. Rhaid cyflwyno pob apêl i Gadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Sant Oswallt. Nid oes hawl i apelio am geisiadau i’r feithrinfa.

 

Nifer y disgyblion i'w derbyn

  1. Nifer derbyniadau’r ysgol, a sefydlwyd ar sail y ddeddfwriaeth berthnasol, yw y bydd 17 o ddisgyblion yn cael eu derbyn i’r dosbarth meithrin neu hyd at y nifer hwnnw. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i’r dosbarth meithrin yw 30 Ebrill cyn y flwyddyn galendr y mae angen y lle yn yr ysgol. Rhoddir gwybod i rieni os ydyw eu cais yn llwyddiannus erbyn 31 Gorffennaf.
  2. Yn unol â pholisïau derbyn i ysgolion yr awdurdod lleol, gwneir ceisiadau am le yn Ysgol Gynradd Wirfoddol Sant Oswald yn unol â dewisiadau’r rhieni. Mae ceisiadau i’w gwneud ar-lein drwy system derbyniadau ar-lein Cyngor Sir Penfro (CSP).
  3. Mae CSP yn anfon y cais ymlaen ar ffurf PDF i’r ysgol i’w ystyried. Bydd yr ysgol yn cadarnhau gydag CSP statws nifer y grŵp blwyddyn / dosbarth neu ddosbarthiadau y gwneir cais amdanynt.
  4. Lle nad yw’r nifer derbyniadau yn cael ei ragori, byddai’r ysgol yn cysylltu â rhiant/rhieni’r plentyn sydd wedi gwneud cais am le. Gofynnir i’r rhiant/rhieni lenwi ffurflen dderbyn i’r ysgol (rhaid cwblhau hon). Mae’r ysgol yn annog ymweliad â’r ysgol i gyfarfod â’r rhiant/rhieni a’r plentyn cyn i’r plentyn ddechrau yn yr ysgol.
  5. Pan eir dros y nifer derbyniadau, mae’r un trefniadau ag uchod yn berthnasol. Bydd y rhieni’n cael gwybod am restr aros yr ysgol a’r gweithdrefnau ynghylch hyn.
  6. Gwneud cais y tu allan i’r cylch derbyn arferol neu symud i’r ardal. Ni ddylai rhieni sy’n bwriadu symud i’r ardal wneud cais yn gynharach na thymor cyn dyddiad cychwyn disgwyliedig eu plant. Caiff ceisiadau a dderbynnir fwy na thymor ymlaen llaw eu cadw tan yr amser priodol. Gall oedi wrth symud i’r ardal arwain at dynnu cynigion yn ôl, oni bai y rhoddir rheswm da. Mae angen ystyriaeth ddifrifol i newid ysgol a dylid, yn y lle cyntaf, ei drafod yn llawn gyda phennaeth ysgol bresennol eich plentyn. Os bydd angen i rieni drosglwyddo eu plentyn o un ysgol i ysgol arall o hyd, yna rhaid iddynt wneud cais trwy gyflwyno cais ar-lein, a fydd yn cael ei drin yn yr un modd ag unrhyw gais arall am le.
  7.  Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am le mewn dosbarth meithrin ar gyfer Medi 2026 yw 30 Ebrill 2026. Rhaid gwneud cais ar gyfer y dosbarth derbyn ym mis Medi 2026 erbyn 31 Ionawr 2026.
  8.  Rhestrau aros – rydym yn cadw enwau plant ar y rhestr aros am le yn y dosbarth derbyn tan 30 Medi ac yna’n gofyn i rieni a hoffent i enw eu plentyn aros ar y rhestr aros tan ddiwedd y flwyddyn academaidd. Mae pawb arall yn aros ar y rhestr aros tan ddiwedd y flwyddyn academaidd y maent wedi gwneud cais amdani.
  9. Mae plant yn gymwys i fynychu’r ysgol yn rhan amser o’r tymor cyntaf ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed a gallant fynychu’n llawn amser o’r tymor cyntaf ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed. Sylwch fod addysg orfodol yn cychwyn o’r tymor cyntaf sy’n dilyn eu pumed pen-blwydd. Dyddiad pen-blwydd eich plentyn sy’n pennu pryd y gall ef neu hi ddechrau’r ysgol, ni waeth beth fo’r dyddiad y mae’r tymor yn dechrau, ac mae’r tabl isod yn dangos pryd y gellir derbyn eich plentyn i’r ysgol. Gall rhieni ddewis gohirio dyddiad cychwyn eu plentyn unrhyw bryd hyd nes y bydd y plentyn o oedran ysgol gorfodol; am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r ysgol.

 

Mae pen-blwydd y plentyn rhwng
  • 1 Ebrill - 31 Awst: Tim derbyn i'r meithrin - Hydref
  • 1 Medi - 31 Rhagfyr: Tim derbyn i'r meithrin - Gwanwyn
  • 1 Ionawr - 31 Mawrth: Tim derbyn i'r meithrin - Haf

 

Gall plant fynychu Ysgol Sant Oswallt yn llawn amser ar ddechrau'r tymor yn dilyn eu pedwerydd pen-blwydd.

 

Meini prawf ar gyfer penderfynu ar dderbyniadau

Os bydd nifer y plant y mae eu rhieni yn ceisio eu derbyn i’r ysgol yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, gwneir cynigion yn y drefn flaenoriaeth ganlynol:

a) Plant sy'n Derbyn Gofal neu blant a oedd gynt yn derbyn gofal.

b) Plant â rhieni / gofalwyr sy’n aelodau gweithredol o'r lluoedd arfog neu a oedd yn aelodau o’r lluoedd arfog dim mwy na chwe blynedd cyn dyddiad y cais am dderbyniad.

c) Plant â brodyr neu chwiorydd, y penderfynir eu bod yn rhai maeth, wedi'u mabwysiadu neu'n byw'n barhaol yn yr un cyfeiriad, sy'n mynychu'r ysgol ar ddyddiad y derbyniad arfaethedig.

ch) Plant sy'n byw yn nalgylch yr ysgol fel y disgrifir yn 2 uchod.

d) Plant o deuluoedd sy'n byw y tu allan i'r ardal sy'n gymunwyr rheolaidd mewn Eglwys Anglicanaidd.

dd) Plant o deuluoedd o enwadau Cristnogol eraill o'r tu allan i'r ardal fel y'i diffinnir yn 2 uchod y mae eu rhieni'n dymuno iddynt gael eu haddysgu mewn Ysgol Eglwys Anglicanaidd.

e) Plant o deuluoedd y tu allan i'r ardal fel y'i diffinnir yn 2 uchod nad ydynt yn addolwyr Cristnogol gweithredol ond y mae eu rhieni yn dymuno i'w plant gael eu haddysgu mewn Ysgol Eglwys Anglicanaidd.

 

Os caiff yr ysgol ei henwi mewn datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig, mae'n ddyletswydd ar y Corff Llywodraethu i dderbyn y plentyn i'r ysgol.

 

Ym mhob achos mae 'hawl i apelio' yn erbyn penderfyniad sydd wedi'i wneud ynghylch gwrthod cais am le, y mae'n rhaid ei wneud i Gadeirydd y Corff Llywodraethu.

Adolygir y polisi hwn yn flynyddol ac ymgynghorir â hi rhwng yr holl ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir a gwirfoddol a reolir yn Sir Benfro, y Cyfarwyddwr Esgobaethol a rhwng awdurdodau lleol Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion fel rhan o’r broses ymgynghori.

  



Ysgol a Gynorthwyir yn Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru St Aidan

 

Bydd y polisi hwn yn benodol i dderbyniadau yn ystod 2026-2027

 

Yr awdurdod derbyniadau ar gyfer yr ysgol hon yw'r Corff Llywodraethu. Caiff y polisi hwn ei adolygu'n flynyddol gyda holl ysgolion cam cynradd Sir Benfro - ac ymgynghorir ag ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol, a reolir yn wirfoddol, cymunedol 3-11 ac ysgolion 3-16, y Cyfarwyddwr Esgobaethol ac Awdurdodau Lleol Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Mae ein polisi derbyniadau wedi cael ei ddatblygu i sicrhau system gyson a theg ar gyfer derbyn disgyblion i’n hysgol, yn enwedig os yw lleoedd yn debygol o fod yn gyfyngedig gan ein bod wedi derbyn uchafswm ein disgyblion, sef 13.

Mae Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir Aeddan Sant yn ysgol yr Eglwys yng Nghymru sy’n gwasanaethu’r gymuned o fewn ardal weinidogaeth leol a bywoliaeth unedig Anglicanaidd Daugleddau, yn enwedig plwyfi hanesyddol Llanhuadain, Dwyrain Waltwn, Clarbeston, Slebets a Chas-wis.

 

Ceisiadau

Dylai ceisiadau am le yn Ysgol  a Gynorthwyir yn Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru St Aidan gael eu gwneud ar-lein drwy Gyngor Sir Penfro. Os nad oes cyfeiriad e-bost gan rieni, mae ffurflen gais ar gael o'r ysgol. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i'r meithrin yw 30 Ebrill cyn y flwyddyn galendr y mae angen y lle yn yr ysgol. Bydd rhieni'n cael gwybod am lwyddiant eu cais drwy lythyr.

 

Meini prawf gordanysgrifio

Os bydd yna ordanysgrifio, rhoddir blaenoriaeth i dderbyn disgyblion yn y drefn ganlynol:

 

  1. Plant sy’n derbyn gofal ar hyn o bryd ac a dderbyniodd ofal yn y gorffennol (plant sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn unol â Rhan 22 Deddf Plant 1989).
  2. Plant o ardal weinidogaeth leol a bywoliaeth unedig Anglicanaidd Daugleddau, yn enwedig plwyfi hanesyddol Llanhuadain, Dwyrain Waltwn, Clarbeston, Slebets a Chas-wis.
  3. Plant fydd â brawd neu chwaer o oedran ysgol statudol yn yr ysgol ar adeg cyflwyno’r cais. Bydd hyn yn cynnwys unrhyw frodyr neu chwiorydd llawn neu hanner, neu lysfrodyr a llyschwiorydd, neu blentyn sydd wedi’i fabwysiadu neu sy’n cael ei faethu yn yr un cyfeiriad â’r plentyn sydd eisoes yn yr ysgol.
  4. Plant o deuluoedd y mae eu rhieni yn dymuno iddynt dderbyn addysg mewn ysgol yr Eglwys Anglicanaidd.
  5. Plant o deuluoedd enwadau Cristnogol eraill y mae eu rhieni’n dymuno i’w plant dderbyn addysg mewn ysgol yr Eglwys Anglicanaidd.
  6. Plant o deuluoedd y mae eu rhieni’n nodi eu bod yn well ganddynt i’w plentyn gael ei addysgu drwy gyfrwng y Saesneg.

 

Os bydd dau gais yn gydradd gyntaf, cynigir lleoedd i ddisgyblion sy'n byw agosaf at yr ysgol, wedi'i fesur yn ôl y pellter byrraf o'r giât ysgol agosaf sydd ar gael i bwynt lle mae cartref  preifat y disgybl yn ymuno â'r briffordd gyhoeddus. (Defnyddir Google maps i fesur y pellteroedd)

Mae'r llywodraeth wedi nodi dyddiadau lle mae'n rhaid i blant 5 oed fod o oedran ysgol gorfodol yn y tymor ysgol dilynol: y dyddiadau hyn yw 31 Awst, 31 Rhagfyr a 31 Mawrth. Mae gan St Aidan ddarpariaeth feithrin a gall plant ymuno'n rhan-amser o ddechrau'r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed. Mae'r dyddiadau cymhwysedd uchod hefyd yn gymwys i'r derbyniadau hyn a byddant yn penderfynu ar y tymor y gall y plentyn ddechrau. Gall y plant hynny a anwyd rhwng 1 Medi a 31 Mawrth fynychu darpariaeth feithrin amser llawn yn y tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed. Os bydd cais yn cael ei gyflwyno am le yn y dosbarth meithrin, mae angen cyflwyno cais arall am le yn y dosbarth derbyn hefyd.

Mae'r terfynau amser yn cadw at yr amserlen derbyniadau a gyhoeddir gan awdurdod derbyniadau Cyngor Sir Penfro.

 

Apeliadau

Os na fydd plentyn yn cael cynnig  lle, yna gall y rhiant, o fewn 14 diwrnod, apelio yn erbyn y penderfyniad i Banel sy'n cael ei drefnu at y diben hwnnw yn unol â darpariaethau'r Deddfau Addysg. Bydd y Pennaeth yn rhoi gwybodaeth am sut i apelio  ar adeg y penderfyniad gwreiddiol. Mae'n rhaid i'r holl apeliadau gael eu cyflwyno i Gadeirydd Corff Llywodraethu St Aidan.  Nid oes hawl i apelio mewn perthynas â derbyniadau meithrin.

 

Rhestr aros

Caiff rhestr aros o ymgeiswyr aflwyddiannus ei llunio. Os daw lle ar gael bydd y llywodraethwyr yn ystyried y rheiny ar y rhestr aros ar sail y meini prawf gordanysgrifio cyhoeddedig. Os bydd y  llywodraethwyr yn rhoi cais ar y rhestr aros, ni fydd yn effeithio ar hawl rhiant i apelio. Cynhelir y rhestr aros tan 30 Medi ar ddechrau'r flwyddyn academaidd berthnasol. Rhoddir blaenoriaeth i unrhyw leoedd sy'n dod yn wag yn ôl y meini prawf gordanysgrifio ac nid yn ôl y dyddiad y cyflwynwyd y cais gwreiddiol am le. Yn achos ceisiadau sy'n cael eu derbyn y tu allan i'r rownd derbyniadau arferol, bydd y rhestrau yn cael eu cadw tan ddiwedd tymor haf y flwyddyn academaidd y cyflwynwyd cais am le.

 



Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Penrhyn Dewi VA School, Tyddewi

 

Polisi Derbyniadau 2026/2027

 

Ein Hysgol Eglwysig

Fel Ysgol yr Eglwys, mae'r ethos Cristnogol yn ein calonnau yn pob peth sy’n cael ei wneud. Dylai yr ysgol fod yn le arbennig, lle diogel, a lle i ddysgu, maeth a morio. Mae rhaid i Ysgol yr Eglwys i arddangos i fod yn agored, dderbyniol a maddeugar, pethau pwysig i greu cymeriad gwerthfawr. Mae’r ysgol yn creu cymeriad Cristnogol trwy addysg grefyddol, ac i addoli ethos drwy chariad Duw au bresenoldeb ir byd.

  

Arwyddair

‘Byddwch Lawen, Cadwch y Ffydd a gwnewch y pethau bychain’.

 

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Mae’r ysgol wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau uchaf o ran Diogelu Data. Byddwn yn trin yr holl ddata personol fel y byddem yn disgwyl i’n data personol ein hunain gael ei drin, h.y. â pharch, uniondeb a chyfrinachedd, ac yn unol â’r GDPR a deddfau Diogelu Data eraill. Bydd ein holl bolisïau ysgol yn glynu at ganllawiau’r GDPR.

 

Trefniadau derbyn a meini prawf gordanysgrifio

Cyffredinol Mae’r ysgol yn creu diogelwch data or safon uchaf, fyddwn yn cadw'r data gyda phob parch ac yn gyfrinachol. Mae polisi’r ysgol yn ymlynu i gyfarwyddyd y rheoliad diogelu data cyffredinol.

 

Pryd gall fy mhlentyn ddechrau yn yr ysgol?

Yn Ysgol Penrhyn Dewi VA, fel Sir Benfro I gyd fydd plant yn medru dod i ysgol rhan amser y term ar ôl cael ei trydydd pen-blwydd, a llawn amser ar derm ar ôl troi yn bedwar. Mae dyddiad dechrau ysgol yn derbynu ar ddyddiad ei pen-blwydd. Mae amcan o hyn yma ac I gysylltu â’r ysgol ar 01437 809200 neu e-bost admin.penrhyndewi@pembrokeshire.gov.uk

 

Mae pen-blwydd y plentyn rhwng
  • 1 Ebrill - 31 Awst: Tim derbyn i'r meithrin - Hydref
  • 1 Medi - 31 Rhagfyr: Tim derbyn i'r meithrin - Gwanwyn
  • 1 Ionawr - 31 Mawrth: Tim derbyn i'r meithrin - Haf

 

Dwy'r gyfraith ddim yn dweud wrth blant ddechrau eu addysg llawn amser, nes ddechrau term ar ôl troi yn bump, bydd y plentyn yn cael safle llawn amser ar ôl troi yn bedwar blwydd oed, ac yn cael ei cefnogi i fod yn llawn amser i gael y gorau o addysg o agwedd sail a phrofiadau.

 

Plant oedran meithrin – 3 mlwydd oed
Dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd yr oedran priodol
  • 31 Rhagfyr: Tymor derbyn - Gwanwyn 2026
  • 31 Mawrth 2026: Tymor derbyn - Haf 2026
  • 31 Awst 2026: Tymor derbyn - Hydref 2026

 

Plant oedran cynradd – 4 blwydd oed
Dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd yr oedran priodol
  • 31 Rhagfyr: Tymor derbyn - Gwanwyn 2026
  • 31 Mawrth 2026: Tymor derbyn - Haf 2026
  • 31 Awst 2026: Tymor derbyn - Hydref 2026

 

 

Plant Oedran Uwchradd – 11 mlwydd oed

Ni fydd yn ofynnol i ddisgyblion ym Mlwyddyn 6 wneud cais i drosglwyddo i’r sector uwchradd

Dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd yr oedran priodol
  • 31 Awst 2026: Tymor derbyn: Hydref 2026

 

Amserlen Dderbyn– Rowndiau derbyn arferol
Darpariaeth
Oed
Dechrau Ysgol
Dyddiad cau am wneud cais
Dyddiad Cynnig /hysbysiad
Dyddiad cau apeliada

Meithrin

1af Medi 2023 – 31ain Awst 2024

Ionawr, Ebrill, Medi 2027

30ain Ebrill 2026

Erbyn diwedd Gorffennaf 2026

Dim amodau apello

Man Derbyn (Nid oes trosglwyddiadd automatig o’r Meithrin I’r Derbyn

 

1af Medi 2021 – 31ain Awst 2022

Tymor yr hydref 2026

31ain Ionawr 2026

16ed Ebrill 2026

10 diwrnod Gwaith o dderbyn llythyr gwrthod

Trosglwyddo ysgol uwchradd

1af Medi 2014 – 31ain Awst 2015

Tymor yr Hydref 2026

21 Rhagfyr 2025

2 Mawrth 2026

10 diwrnod Gwaith o dderbyn llythyr gwrthod

 

Cynhwysiad

Am gais am le yn Ysgol Penrhyn Dewi VA ewch ar lein trwy Gyngor Sir Benfro. Y dyddiad cau am gais i’r Ysgol Feithrin yw’r 30ain Ebrill, cewch wybod os fyddwch yn llwyddiannus erbyn 31ain Gorffennaf. Os bydd eich plentyn yn llwyddiannus i gael mynd i Ysgol Feithrin bydd rhaid cysylltu am le yn y Derbyniad, dyddiad cloi y ceisiadau yw’r 31ain Ionawr. Does dim rhaid i blant ym mlwyddyn chwech wneid cais am Ysgol Uwchradd.

 

Gordanysgrifio

Nifer derbyniad yr ysgol yw 27 ar gyfer y dosbarth derbyn i Flwyddyn 6 ac 80 ar gyfer blynyddoedd 7–11, a lle nad yw nifer y ceisiadau yn fwy na’r nifer hwn, yna bydd pob ymgeisydd yn cael ei dderbyn. Fodd bynnag, mae’r corff llywodraethu wedi gosod nifer derbyniadau dros dro o 29 o blant ar gyfer y dosbarth derbyn i Flwyddyn 6 ac 84 ar gyfer blynyddoedd 7–11. Os bydd mwy na’r nifer uchod o geisiadau yn cael eu derbyn ar gyfer un grŵp blwyddyn, bydd disgyblion yn cael eu derbyn ar sail y meini prawf gordanysgrifio canlynol, a gymhwysir yn nhrefn blaenoriaeth fel y rhestrir isod.

 

  1. Plant ar hyn o bryd sy’n cael ei gofalu am gan Awdurdodau Cymru a Lloger ran 22 o Ddeddf Plant 1989 Rheoliadau Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesant Cymru (2014).
  2. Plant sydd yn byw yn ardal nalgylch yr ysgol.
  3. Plant sydd a briodyr neu chwiorydd sydd eisoes yn yr ysgol. A phlant sy’n byw gyda llys frawd neu chwaer yn yr un cartref.
  4. Plant sydd wedi mynych i ysgol fwydo.
  5. Plant sydd a’i rhieni am addysg Eglwys Anglicanaidd.
  6. Plant o wahanol enwadau Cristnogol sydd yn byw tu allan i’r arwynebedd a’i rhieni am nhw gael addysg Gristnogol.

 

Yn y digwyddiad o gyfartal, bydd lleoedd yn cael eu cynnig i ddisgyblion sy’n byw agosaf i’r ysgol, wedi’i fesur gan gerdded buraf. Pellter o’r gât ysgol agosaf sydd ar gael i fan lle mae cartref y disgybl yn cwrdd â’r briffordd.

 

Apêl

Os gwrthodir mynediad yna mae gan rieni hawl i un apeliad fesur cais, fesur blwyddyn academaidd i’r panel apêl Derbyniadau Esgobaethol, corff annibynnol y mae’r Awdurdod addysg Esgobaethol wedi’i sefydlu ar gyfer y Corff Llywodraethu. (Efallai y bydd ail apêl os yw’n ymddangos bod diffygion wedi bod yn y gwrandawiad cyntaf neu os bydd newid sylweddol a pherthnasol yn yr amgylchiadau rhiant neu berson ifanc neu ysgol (h.y. rhesymau meddygol neu symud tŷ). Dylai rhieni sy’n aflwyddiannus apelio ac ysgrifennu i Brifathro Ysgol Penrhyn Dewi VA Campws Dewi Ty- Ddewi, Sir Benfro SA62 6QH neu drwy ebost I admin.penrhyndewi@pembrokeshire.gov.uk  I sylw y Pennaeth. Bydd y rheini yn cael 14 o ddiwrnodau (10 diwrnod gwaith) o rybudd ysgrifenedig o ddyddiad eu gwrandawiad apêl. Dim ond rhan o blant oedran ysgol statudol all apelio yn erbyn gwrthodiad.

 

Rhestr aros

Cadw’r rhestr aros o geisiadau aflwyddiannus os daw lle ar gael, bydd y llywodraethwyr yn ystyried y rhai sydd ar y rhestr ar sail y meini prawf gordanysgrifio gyhoeddedig. Os bydd y llywodraethwyr yn gwneud cais ar y rhestr aros ni fydd yn effeithio ar hawl y rhiant i apelio. Ar gyfer ceisiadau ar dderbyni’r tu allan I’r rowndiau derbyn arferol cedwi’r rhestr aros tan ddiwedd tymor yr Haf yn flwyddyn academaidd gofynnwyd am y lle.

 

Gwneud cais y tu allan i’r rownd dderbyn arferol
Symud i’r ardal

Ni ddylai rhieni sy’n bwriadu symud i’r ardal gwneud gais yn gynharach na thymor cyn dyddiad cychwyn ddisgwyliedig ei plant.

Gall oedi wrth symud i’r ardal arwain at dynnu cynhigion yn ôl. Oni bai rhoi rheswm da.

 

Trosglwyddiadau Ysgol yn ystod y flwyddyn

Mae angen rhoi ystyriaeth ddifrifol a dylai newid ysgolion a dylai, yn y lle cyntaf, cael ei drafod yn llawn gyda Phennaeth yr ysgol presennol eich plentyn. Os bydd angen i rhieni drosglwyddo ei plentyn o un ysgol i’r llall, yna rhaid iddynt wneud cais trwy gyflwyno cais ar lein a fydd yn cael ei drin yn yr un modd ag unrhyw gais arall am le.

 

 



Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Catholig Mair Ddihalog a Theilo Sant 

 

Polisi Derbyn 2026-27

 

Cynhelir Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Catholig Mair Ddihalog a Theilo Sant fel ysgol Gatholig yn unol â chyfraith ganon ac athrawiaethau’r Eglwys Gatholig ac yn unol â gweithred ymddiriedolaeth Archesgobaeth Caerdydd Mynyw. Wrth gymhwyso’r polisi hwn, bydd Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Catholig Mair Ddihalog a Theilo Sant yn ystyried, yn benodol, gyngor gan Archesgobaeth Caerdydd Mynyw.

Bydd Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Catholig Mair Ddihalog a Theilo Sant yn gweithredu yn unol â holl ddarpariaethau perthnasol y codau ymarfer statudol (cod derbyn i ysgolion Llywodraeth Cymru a chod apelau derbyn i ysgolion 2013) fel y maent yn berthnasol ar unrhyw adeg benodol i ysgolion a gynhelir ac â’r gyfraith ar dderbyniadau fel y mae’n berthnasol i ysgolion a gynhelir.  

Ystyrir bod cyfeiriadau yn y codau neu yn y polisi hwn at 'awdurdodau derbyn' neu 'y llywodraethwyr' yn gyfeiriadau at gorff llywodraethu gwirfoddol a gynorthwyir Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Catholig Mair Ddihalog a Theilo Sant. Bydd cyfeiriadau at 'yr awdurdod lleol' yn cael eu hystyried yn gyfeiriadau at Gyngor Sir Penfro. 

Ethos Catholig yw ethos yr ysgolion. Sefydlwyd yr ysgolion gan yr Eglwys Gatholig i ddarparu addysg i blant teuluoedd Catholig. Gofynnwn i bob rhiant neu warcheidwad sy’n gwneud cais am le yma gefnogi a pharchu’r ethos hwn a’i bwysigrwydd i gymuned yr ysgol a’r addysg a ddarperir ganddi. Nid yw hyn yn effeithio ar hawl rhiant/rhieni neu warcheidwad/gwarcheidwaid nad ydynt yn perthyn i’r ffydd Gatholig, neu nad yw eu plant yn perthyn i’r ffydd Gatholig, i wneud cais am le a chael eu hystyried am le yma.

Mae ein polisi derbyn wedi’i ddatblygu i sicrhau system gyson a theg ar gyfer derbyn disgyblion i’n hysgol, yn enwedig os yw lleoedd yn debygol o fod yn gyfyngedig oherwydd cyrraedd y nifer derbyn ar gyfer Medi 2026, sef 29.  

 

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) 

Mae’r ysgol wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau uchaf o ran diogelu data. Byddwn yn trin yr holl ddata personol fel y byddem yn disgwyl i’n data personol ein hunain gael ei drin, h.y. gyda pharch, uniondeb a chyfrinachedd ac yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a deddfau diogelu data eraill. Bydd ein holl bolisïau ysgol yn unol â chanllawiau y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. 

 

Trefniadau derbyn a meini prawf gordanysgrifio

Cyfrifoldeb y corff llywodraethu yw derbyn plant i’r ysgol a dylid gwneud ceisiadau ar-lein drwy wefan Cyngor Sir Penfro 

 

Pryd gall fy mhlentyn ddechrau yn yr ysgol?

Yn Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Catholig Mair Ddihalog a Theilo Sant, fel yng ngweddill Sir Benfro, mae plant yn gymwys i fynychu’r ysgol yn rhan amser o’r tymor cyntaf ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed ac yn llawn amser o’r tymor cyntaf ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed. Sylwch fod addysg orfodol yn cychwyn o’r tymor cyntaf sy’n dilyn eu pumed pen-blwydd. Dyddiad pen-blwydd eich plentyn sy’n pennu pryd y gall ef neu hi ddechrau’r ysgol, ni waeth beth fo’r dyddiad y mae’r tymor yn dechrau, ac mae’r tabl isod yn dangos pryd y gellir derbyn eich plentyn i’r ysgol. Gall rhieni ddewis gohirio dyddiad cychwyn eu plentyn unrhyw bryd hyd nes y bydd y plentyn o oedran ysgol gorfodol; am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r ysgol ar 01437 762324 neu e-bostiwch admin.maryimmaculate@pembrokeshire.gov.uk ar gyfer Ysgol Gatholig Mair Ddihalog neu ffoniwch 01834 843995 neu e-bostiwch emailadmin.stteilo’s@pembrokeshire.gov.uk ar gyfer Ysgol Gatholig Teilo Sant.

Yr oedran arferol ar gyfer derbyn i’r ysgol yn Sir Benfro, mewn ysgolion fel Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Catholig Mair Ddihalog a Theilo Sant sydd â darpariaeth feithrin, yw dechrau’r tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn dair oed. Yng nghyd-destun pryd y gall plentyn ddechrau’r ysgol, sylwer ar yr amserlenni isod:

 

Dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd yr oedran priodol
  • 1 Ebrill - 31 Awst: Tymor mynediad i'r dosbarth meithrin - Hydref
  • 1 Medi - 31 Rhagfyr: Tymor mynediad i'r dosbarth meithrin - Gwanwyn
  • 1 Ionawr - 31 Mawrth: Tymor mynediad i'r dosbarth meithrin - Haf

 

Nid yw’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i blentyn ddechrau addysg amser llawn hyd nes dechrau’r tymor ysgol cyntaf sy’n dilyn pen-blwydd y plentyn yn bump oed. Fodd bynnag, darperir lle amser llawn i ddisgyblion o’r tymor cyntaf ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed ac fe’u hanogir yn gryf i fynychu’n llawn amser er mwyn cael buddion llawn addysg a phrofiadau’r Cyfnod Sylfaen.

 

Plant oed meithrin – tair oed 
Dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd yr oedran priodol

 

  • 31 Rhagfyr 2025: Tymor derbyn - Gwanwyn 2026
  • 31 Mawrth 2026: Tymor derbyn - Haf 2026
  • 31 Awst 2026: Tymor derbyn - Hydref 2026
  • 31 Rhagfyr 2026: Tymor derbyn - Gwanwyn 2027
  • 31 Mawrth 2027: Tymor derbyn - Haf 2027
  • 31 Awst 2027: Tymor derbyn - Hydref 2027

 

Plant o oedran ysgol gynradd – pedair oed 
Dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd yr oedran priodol
  • 31 Rhagfyr 2025: Tymor derbyn - Gwanwyn 2026
  • 31 Mawrth 2026: Tymor derbyn - Haf 2026
  • 31 Awst 2026: Tymor derbyn - Hydref 2026
  • 31 Rhagfyr 2026: Tymor derbyn - Gwanwyn 2027
  • 31 Mawrth 2027: Tymor derbyn - Haf 2027
  • 31 Awst 2027: Tymor derbyn - Hydref 2027

 

 

Plant o oedran ysgol uwchradd – 11 oed 
Dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd yr oedran priodol
  • 31 Awst 2026: Tymor derbyn - Hydref 2026
  • 31 Awst 2027: Tymor derbyn - Hydref 2027

 

Ceisiadau

Yn unol â pholisïau derbyniadau ysgolion yr awdurdod lleol, bydd cais am fynediad i Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Catholig Mair Ddihalog a Theilo Sant yn cael ei wneud yn unol â dewis rhieni. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i’r dosbarth meithrin yw 30 Ebrill cyn y flwyddyn galendr y mae angen y lle yn yr ysgol. Rhoddir gwybod i rieni os ydyw eu cais yn llwyddiannus erbyn 31 Gorffennaf. Os caiff eich plentyn ei dderbyn i addysg feithrin, nid yw hyn yn gwarantu lle i’ch plentyn mewn ysgol gynradd (dosbarth derbyn). Rhaid i chi ailymgeisio am le mewn ysgol gynradd. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i’r dosbarth derbyn yw 31 Ionawr cyn dechrau tymor yr hydref yn yr un flwyddyn galendr. Bydd rhieni’n cael gwybod a yw eu cais yn llwyddiannus erbyn 16 Ebrill. Rhaid i ddisgyblion ym Mlwyddyn 6 wneud cais am leoedd yn eu hysgol uwchradd ddewisol erbyn 20 Rhagfyr yn y flwyddyn cyn dechrau tymor yr hydref yn y flwyddyn galendr ganlynol. Bydd rhieni’n cael gwybod a yw eu cais yn llwyddiannus erbyn 1 Mawrth.

  

Y broses o wneud cais
  • Mae ceisiadau i’w gwneud ar-lein drwy system derbyniadau ar-lein Cyngor Sir Penfro (CSP) 
  • Mae Cyngor Sir Penfro yn anfon y cais ymlaen i’r ysgol ei ystyried. 
  • Pan nad eir y tu hwnt i’r nifer derbyn, cynigir lle. 
  • Mae’r ysgol yn annog ymweliad â’r ysgol i gyfarfod â’r rhiant/rhieni neu’r gwarcheidwad/gwarcheidwaid a’r plentyn/plant cyn dechrau.
  • Pan eir y tu hwnt i’r nifer derbyn, gwrthodir y lle, a rhoddir gwybod i’r rhieni. Bydd y rhiant/rhieni neu warcheidwad/gwarcheidwaid yn cael gwybod am restr aros yr ysgol a’r gweithdrefnau ar gyfer hyn (gweler isod)       

 

Meini prawf derbyn
Diffiniadau
  • Plentyn neu berson ifanc sy’n derbyn gofal. Diffinnir plentyn neu berson ifanc sy’n derbyn gofal fel plentyn sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn unol ag adran 22 o Ddeddf Plant 1989. Bydd plant sy’n derbyn gofal yn cael blaenoriaeth ym mhob categori isod.
  • Brodyr a chwiorydd. At ddibenion derbyn, ystyr ‘brawd’ a ‘chwaer’ yw plentyn sy’n frawd/chwaer, hanner brawd/chwaer (plant sy’n rhannu un rhiant cyffredin), llysfrawd/llyschwaer (plant sy’n perthyn trwy briodas), neu blentyn mabwysiedig neu blentyn maeth sy’n byw yn yr un cyfeiriad. Bydd disgyblion sydd â brodyr a chwiorydd ym mhob categori yn cael blaenoriaeth yn y categori hwnnw.  Bydd y cysylltiad brodyr a chwiorydd yn berthnasol i’r plant hynny sydd â brawd neu chwaer ar y gofrestr yn Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Catholig Mair Ddihalog a Theilo Sant yn y mis Medi y byddai’r ymgeisydd yn dechrau yn yr ysgol. Rhaid i riant/rhieni neu warcheidwad/gwarcheidwaid nodi unrhyw gysylltiad brawd/chwaer yn eu cais. 
  • Pabydd. Mae Pabydd yn unigolyn sydd wedi’i fedyddio drwy ddefodau Lladin yr Eglwys Gatholig (‘Rufeinig’) neu un arall o’r 23 o eglwysi dwyreiniol mewn llawn gymundeb â’r Babaeth.  
  • Uniongred. Cristion Uniongred yw unigolyn sydd wedi’i fedyddio o fewn eglwys Uniongred mewn cymundeb rhannol â’r Babaeth, ac y mae gan ei eglwys strwythur sacramentaidd dilys a gydnabyddir gan y Babaeth. 
  • Plwyfolyn. Unigolyn sy’n byw yn ddaearyddol o fewn ffiniau plwyf penodol (nid yw addoli mewn adeilad eglwysig o fewn plwyf arall yn golygu bod yr unigolyn yn gymwys i fod yn aelod o’r plwyf arall hwnnw). 

 

Meini prawf derbyn a gordanysgrifio

Pan fo nifer y ceisiadau yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, bydd y llywodraethwyr yn defnyddio’r meini prawf gordanysgrifio. Bydd llywodraethwyr yn derbyn plant yn y categorïau canlynol ac yn y flaenoriaeth a restrir. Bydd angen tystiolaeth o fedydd ar ffurf tystysgrif bedydd a roddwyd gan y plwyf bedydd, neu dystysgrif derbyn i’r Eglwys Gatholig a roddwyd gan y plwyf lle cynhaliwyd y derbyniad. 

 

1. Plant Catholig wedi’u bedyddio rhiant/rhieni neu warcheidwad/gwarcheidwaid sy’n blwyfolion:

  • Dewi Sant a Sant Padrig, Hwlffordd
  • Yr Ymddŵyn Difrycheulyd, Arberth
  • Holyrood a Theilo Sant, Dinbych-y-pysgod
  • Eglwys Santes Ffraid, Saundersfoot

 

2. Plant wedi’u bedyddio o eglwysi Uniongred sy’n byw yn:

  • Dewi Sant a Sant Padrig, Hwlffordd
  • Yr Ymddŵyn Difrycheulyd, Arberth
  • Holyrood a Theilo Sant, Dinbych-y-pysgod
  • Eglwys Santes Ffraid, Saundersfoot
  • Plwyfi Catholig cyfagos

 

3. Plant sydd sydd heb eu bedyddio ond sydd â brodyr a chwiorydd yn yr ysgol.

4. Plant sydd wedi’u bedyddio o enwadau Cristnogol eraill sy’n byw yn yr ardaloedd y cyfeirir atynt yng Nghategori 2.

 

Mae hyn yn cynnwys aelodau o gymunedau eglwysig sy’n aelodau o Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru) a chymunedau eglwysig Cristnogol eraill. Ni roddir blaenoriaeth i geisiadau yn y categori hwn oni bai fod llythyr oddi wrth y gweinidog presennol yn cael ei ddarparu yn cadarnhau’r bedydd, neu oni bai fod datganiad o ymlyniad, wedi’i lofnodi gan y gweinidog, neu gynrychiolydd y gweinidog, yn cadarnhau aelodaeth yn y gymuned eglwysig Gristnogol honno.

5. Plant o ffydd arall y mae eu rhieni yn ceisio addysg Gatholig.

6. Plant y mae’r awdurdod lleol wedi gofyn yn benodol am le yn yr ysgol iddynt.

 

Ym mhob un o’r categorïau uchod, bydd plant ac unigolion ifanc sy’n derbyn gofal yn cael eu blaenoriaethu.

 

Maen prawf i benderfynu pwy caiff ei dderbyn ar gyfer pob categori

 

Os bydd angen penderfynu rhwng dau ymgeisydd mewn unrhyw un o’r categorïau uchod, bydd y llywodraethwyr yn derbyn yr ymgeiswyr hynny sy’n byw agosaf at yr ysgol. Yn achos plentyn y mae ei riant/rhieni neu warcheidwad/gwarcheidwaid â chyfrifoldeb ar y cyd / a rennir, y rhiant/gwarcheidwad sydd â’r cyfrifoldeb mwyaf yn ystod yr wythnos ysgol ac y mae ei cartref yn nes at yr ysgol fydd y ffactor penderfynu. Bydd angen prawf o breswyliad ar ffurf un o’r canlynol:

 

  • Llythyr hysbysu treth gyngor cyfredol ar gyfer y cyfeiriad a nodwyd ar y cais
  • Nodyn Credyd Treth Plant cyfredol
  • Llythyr hysbysu budd-dal plant cyfredol
  • Hysbysiad cymorth incwm cyfredol
  • Hysbysiad dyfarniad pensiwn cyfredol
  • Hysbysiad budd-dal tai cyfredol

 

Bydd y llywodraethwyr yn defnyddio’r llwybr cerdded byrraf a gyfrifir gan ddefnyddio data llwybr yr Arolwg Ordnans sydd wedi’u teilwra o ddrws ffrynt yr ysgol i ddrws ffrynt tŷ neu fflat yr ymgeisydd. Lle bo angen, bydd y llywodraethwyr yn gofyn am gymorth gan yr awdurdod lleol i benderfynu ar y llwybr byrraf.

 

Rhestr aros

Caiff rhestr aros o ymgeiswyr aflwyddiannus ei llunio. Os daw lle ar gael, bydd y llywodraethwyr yn ystyried y rheiny sydd ar y rhestr aros ar sail y meini prawf gordanysgrifio cyhoeddedig, nid ar sail y dyddiad y derbyniwyd y cais. Os bydd y llywodraethwyr yn rhoi cais ar y rhestr aros, ni fydd yn effeithio ar hawl rhieni neu warcheidwaid i apelio. Bydd y rhestr aros yn cael ei chynnal tan 31 Awst yn y flwyddyn ysgol y gwnaed y cais. Ar ôl y dyddiad hwnnw, rhaid i’r rhiant hysbysu’r ysgol y dylid mynd â’r cais ymlaen i’r flwyddyn academaidd nesaf.

 

Dyddiad

Os yw cais am le wedi’i wrthod gan y corff llywodraethu, gall rhieni apelio i banel apelio annibynnol. Rhaid anfon yr apêl hon yn ysgrifenedig at y clerc i’r llywodraethwyr yn yr ysgol cyn pen 14 diwrnod (deng niwrnod gwaith) o’r dyddiad pan gafodd y cais ei wrthod. Nid oes hawl i apelio am geisiadau i’r feithrinfa.   Bydd ymgeiswyr yn cael o leiaf 14 diwrnod (deng niwrnod gwaith) o rybudd ysgrifenedig o ddyddiad eu gwrandawiad apêl. 

 

Gwneud cais y tu allan i’r cylch derbyn arferol

 

Symud i’r ardal 

Ni ddylai rhieni sy’n bwriadu symud i’r ardal wneud cais yn gynharach na thymor cyn dyddiad cychwyn disgwyliedig eu plant. Caiff ceisiadau a dderbynnir fwy na thymor ymlaen llaw eu cadw tan yr amser priodol. Gall oedi wrth symud i’r ardal arwain at dynnu cynigion yn ôl, oni bai y rhoddir rheswm da. 

 

Trosglwyddiadau ysgol yn ystod y flwyddyn 

Mae angen ystyriaeth ddifrifol i newid ysgol a dylid, yn y lle cyntaf, ei drafod yn llawn gyda phennaeth ysgol bresennol eich plentyn. Os bydd angen i rieni drosglwyddo eu plentyn o un ysgol i ysgol arall o hyd, yna rhaid iddynt wneud cais trwy gyflwyno cais ar-lein, a fydd yn cael ei drin yn yr un modd ag unrhyw gais arall am le.

    



Ffederasiwn Ysgol yr Enw Sanctaidd ac Ysgol Sant Ffransis

 

Polisi Derbyn 2026-27

 

Y corff llywodraethu sy’n gyfrifol am bennu a gweinyddu’r polisi sy’n ymwneud â derbyn disgyblion i’r ddwy ysgol. Fe’i harweinir yn y cyfrifoldeb hwnnw gan:

a) gofyniad y gyfraith (Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998)

b) cyngor ymddiriedolwyr yr esgobaeth ar natur a phwrpas ei ddyletswyddau ac wrth gyflawni ei ddogfen ymddiriedolaeth a’i offeryn llywodraethu

c) ei ddyletswydd tuag at yr ysgol a’r gymuned Gatholig y mae’n ei gwasanaethu

ch) cymeriad Catholig yr ysgol a’i datganiad cenhadaeth

Ethos Catholig yw ethos y ddwy ysgol. Sefydlwyd yr ysgolion gan yr Eglwys Gatholig i ddarparu addysg i blant teuluoedd Catholig. Gofynnwn i bob rhiant sy’n gwneud cais am le yn y naill ysgol neu’r llall gefnogi a pharchu’r ethos hwn, a’i bwysigrwydd i gymuned yr ysgol a’r addysg y mae’n ei darparu. Nid yw hyn yn effeithio ar hawl rhieni nad ydynt yn perthyn i ffydd yr ysgolion hyn i wneud cais am le a chael eu hystyried ar ei gyfer.

 

Ceisiadau

Rhaid gwneud ceisiadau am le yn y naill ysgol neu’r llall gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein ar wefan Cyngor Sir Penfro 

 

Ysgol yr Enw Sanctaidd – Abergwaun

Nifer derbyn yr ysgol ar gyfer pob grŵp blwyddyn yw 18.

Yr oedran arferol ar gyfer derbyn i Ysgol yr Enw Sanctaidd yw dechrau’r tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn bedair oed. Yng nghyd-destun pryd y gall plentyn ddechrau’r ysgol, sylwer ar yr amserlenni isod:

 

Mae pen-blwydd y plentyn yn disgyn rhwng

 

  • 1 Ebrill - 31 Awst: Tymor derbyn - Hydref (dosbarth derbyn)
  • 1 Medi - 31 Rhagfyr: Tymor derbyn - Gwanwyn (dosbarth meithrin amser llawn yn y dosbarth derbyn)
  • 1 Ionawr - 31 Mawrth: Tymor derbyn - Haf (dosbarth meithrin amswer llawn yn y dosbarth derbyn)

  

Ysgol Sant Ffransis – Aberdaugleddau

Nifer derbyn yr ysgol ar gyfer pob grŵp blwyddyn yw 19.

Yr oedran arferol ar gyfer derbyniad i Ysgol Sant Ffransis yw dechrau’r tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn dair oed. Yng nghyd-destun pryd y gall plentyn ddechrau’r ysgol, sylwer ar yr amserlenni isod:

 

Mae pen-blwydd y plentyn yn disgyn rhwng

 

  • 1 Ebrill - 31 Awst: Tymor mynediad i'r dosbarth meithrin derbyn - Hydref (rhan amser)
  • 1 Medi - 31 Rhagfyr: Tymor mynediad i'r dosbarth meithrin derbyn - Gwanwyn (rhan amser)
  • 1 Ionawr - 31 Mawrth: Tymor mynediad i'r dosbarth meithrin derbyn - Haf (rhan amser)

 

 

Lle yn y dosbarth meithrin

  • Oedran: Pen-blwydd yn dair oed rhwng 1 Medi 2023 a 31 Awst 2024
  • Dechrau yn yr ysgol: Ionawr, Ebrill, Medi 2027
  • Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais: 30 Ebrill 2026
  • Dyddiad cynnig/hysbysu: Erbyn diwedd Gorffennaf 2026
  • Dyddiad cau ar gyfer apeliadau: Dim hawl apelio

 

Lle yn y dosbarth derbyn

(Nid oes trosglwyddiad awtomatig o’r ddarpariaeth oedran meithrin – bydd angen gwneud cais ar wahân.)

  • Oedran: Pen-blwydd yn bedair oed rhwng 1 Medi 2021 a 31 Awst 2022
  • Dechrau yn yr ysgol: Tymor yr hydref 2026
  • Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais: 31 Ionawr 2026
  • Dyddiad cynnig/hysbysu: 16 Ebrill 2026
  • Dyddiad cau ar gyfer apeliadau: 10 diwrnod gwaith o dderbyn y llythyr gwrthod

 

Bydd rhieni’n cael gwybod yn ysgrifenedig am y canlyniad yn dilyn cyfarfod o’r pwyllgor derbyniadau.

Mae’r corff llywodraethu wedi dirprwyo cyfrifoldeb am benderfynu ar dderbyniadau i’w Bwyllgor Derbyniadau, a fydd yn ystyried pob cais ar yr un pryd ac ar ôl y dyddiad cau ar gyfer derbyniadau a wneir yn unol â’r meini prawf derbyn.

Rhaid i bob rhiant ailymgeisio ar gyfer y dosbarth derbyn / grŵp blwyddyn cynradd – sef y flwyddyn academaidd y mae plentyn yn troi’n bump oed.

Gall rhieni ofyn i fynediad eu plentyn i’r ysgol gael ei ohirio nes bod y plentyn yn cyrraedd oedran ysgol statudol (h.y. y tymor ar ôl pen-blwydd y disgybl yn bump oed). Rhaid cadw’r lle ar agor yn y sefyllfa hon.

 

Ceisiadau hwyr

Ystyrir bod ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau yn hwyr (oni bai fod rhesymau eithriadol) a dim ond ar ôl y rhai a dderbynnir erbyn y dyddiad cau y cânt eu hystyried. Rheswm eithriadol fyddai unrhyw sefyllfa a oedd yn atal y teulu rhag gwneud cais mewn pryd. Yn yr achosion hyn, dylai’r teulu gynnwys dogfennau ategol gyda’r ceisiadau, e.e. pan symudodd teulu i’r awdurdod lleol rhwng y dyddiad cau a dyddiad y cynnig, yna byddai angen tystiolaeth o’r newid cyfeiriad.

 

Apeliadau

Os yw cais am le wedi’i wrthod gan y corff llywodraethu, gall rhieni apelio i banel apelio annibynnol. Rhaid anfon yr apêl hon yn ysgrifenedig at y Panel Apeliadau Derbyniadau Ysgol o fewn 14 diwrnod (10 diwrnod gwaith) i’r gwrthodiad. Nid oes hawl i apelio ar gyfer ceisiadau meithrin – dim ond ceisiadau i’r dosbarth derbyn (y cylch derbyn arferol) ac i fyny. 

Rhaid i rieni roi rhesymau dros apelio yn ysgrifenedig ac mae penderfyniad y panel apeliadau yn rhwymol ar y llywodraethwyr.

 

Rhestrau aros

Caiff rhestr aros o ymgeiswyr aflwyddiannus ei llunio. Os daw lle ar gael, bydd y llywodraethwyr yn ystyried y rhai ar y rhestr aros yn seiliedig ar y meini prawf gordanysgrifio cyhoeddedig, nid ar y dyddiad y derbyniwyd y cais. Os bydd y llywodraethwyr yn rhoi cais ar y rhestr aros, ni fydd yn effeithio ar hawl rhieni neu warcheidwaid i apelio. Bydd y rhestr aros yn cael ei chynnal tan 31 Awst yn y flwyddyn ysgol y gwnaed y cais. Ar ôl y dyddiad hwnnw, rhaid i riant disgyblion ym Mlwyddyn 1 y dosbarth meithrin hysbysu’r ysgol y dylid symud y cais ymlaen i’r flwyddyn academaidd nesaf, sef Blwyddyn 2 y dosbarth meithrin. Rhaid i rieni pawb arall wneud cais newydd gan ei fod ar gyfer blwyddyn academaidd wahanol.

Bydd rhestrau aros ar gyfer y dosbarth derbyn o dan y cylch derbyn arferol yn cael eu cynnal tan 30 Medi. Yna byddwn yn gofyn i rieni a hoffent aros ar y rhestr aros tan ddiwedd y flwyddyn academaidd neu gael eu tynnu oddi ar y rhestr.  

 

Meini prawf derbyn

Pan fo nifer y ceisiadau yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, bydd y corff llywodraethu yn cymhwyso’r meini prawf gordanysgrifio canlynol yn nhrefn blaenoriaeth:

  • Plant o’r ffydd Gatholig wedi’u bedyddio o fewn y plwyfi a wasanaethir gan yr ysgol.
  • Plant y mae’r awdurdod lleol wedi gofyn yn benodol am le yn yr ysgol iddynt.
  • Pob plentyn sydd wedi’i fedyddio yn yr Eglwys Uniongred sy’n byw yn nalgylch yr ysgol.
  • Plant Catholig eraill wedi’u bedyddio.
  • Plant sydd â brawd neu chwaer yn yr ysgol ar adeg eu derbyn.
  • Plant o enwadau Cristnogol eraill.
  • Plant o ffydd arall y mae eu rhieni yn ceisio addysg Gatholig.
  • Plant nad ydynt yn Gatholigion y mae eu rhieni’n ceisio addysg Gatholig i’w plentyn.
  • Ym mhob un o’r categorïau uchod, rhoddir blaenoriaeth i blant sy’n derbyn gofal. Mae gan bob ysgol ddyletswydd i dderbyn plant sydd â datganiad anghenion addysgol lle mae’r ysgol wedi’i henwi yn y datganiad.

 

Fel y nodwyd uchod, os bydd unrhyw ordanysgrifio, dylid defnyddio’r meini prawf gordanysgrifio i bennu lleoedd.

Pan fo mwy nag un plentyn yn bodloni’r meini prawf hyn ac mae ymgeiswyr yn parhau, yna’r plentyn sy’n byw agosaf at yr ysgol fydd yn cael ei dderbyn. Mesurir pob pellter yn ôl y pellter cerdded byrraf gan ddefnyddio priffyrdd cyhoeddus o ddrws ffrynt y plentyn i brif fynedfa’r ysgol.

Bydd gofyn i bob ymgeisydd Cristnogol gyflwyno tystysgrifau bedyddio.

Fel sy’n ofynnol gan y gyfraith, ni fydd y corff llywodraethu yn derbyn mwy na 30 o ddisgyblion i unrhyw un dosbarth derbyn neu ddosbarth yn y Cyfnod Sylfaen.

 

Gwneud cais y tu allan i’r cylch derbyn arferol

Symud i’r ardal – ni ddylai rhieni sy’n bwriadu symud i’r ardal wneud cais yn gynharach na thymor cyn dyddiad cychwyn disgwyliedig eu plant, e.e. os oes angen lle yn nhymor y gwanwyn, yna ni ddylid cyflwyno’r cais cyn dechrau tymor yr hydref blaenorol. Caiff ceisiadau a dderbynnir fwy na thymor ymlaen llaw eu cadw tan yr amser priodol. Gall oedi wrth symud i’r ardal arwain at dynnu cynigion yn ôl, oni bai y rhoddir rheswm da.

 

Trosglwyddiadau ysgol yn ystod y flwyddyn

Mae newid ysgolion yn gofyn am ystyriaeth ddifrifol a dylid yn y lle cyntaf drafod hyn yn llawn gyda phennaeth ysgol bresennol eich plentyn. Os bydd angen i rieni drosglwyddo eu plentyn o un ysgol i’r llall o hyd, yna rhaid iddynt wneud cais trwy gyflwyno cais ar-lein, a fydd yn cael ei drin yn yr un modd ag unrhyw ymgeisydd arall am le. 

 

ID: 10741, adolygwyd 20/08/2025