Derbyniadau i Ysgolion yn Sir Benfro Gwybodaeth i Rieni (y flwyddyn nesaf)

Atodiad 5: Addysgur Gymraeg ar Saesneg yn ysgolion Cynradd a Uwchradd Sir Benfro (2026-2027)

Ar y dudalen hon:

 

Ysgolion Cynradd

Categori iaith (1): Ysgol Cyfrwng Saesneg

Categori iaith (TR2): Ysgol drosiannol

Categori iaith (2): Dwy iaith

Categori iaith (3): Ysgol Cyfrwng Cymraeg

 

Ysgolion Uwchradd

Categori iaith (1): Ysgol Cyfrwng Saesneg

Categori iaith (2): Dwy iaith

Categori iaith (3) Cyfrwng Cymraeg

Categori iaith (3P): Cyfrwng Cymraeg Dynodedig

Categori iaith: (T2 a T3): Is-gategorïau trosiannol

 

Ysgolion Cynradd

 

Categori iaith (1): Ysgol Cyfrwng Saesneg

 

Cwricwlwm
  • Mae pob disgybl yn cael profiad o feysydd dysgu trwy gyfrwng y Saesneg.
  • Bydd o leiaf 15% o weithgareddau ysgol y dysgwyr (yn gwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg.
  • Bydd dysgwr mewn ysgol o’r categori hwn yn gallu darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando yn Saesneg yn ôl oedran a gallu, a bydd ganddo beth dealltwriaeth o’r Gymraeg. Bydd y Gymraeg yn cael ei haddysgu a’i hasesu fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) ar gyfer ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu.

 

Iaith yr Ygsol
  • Saesneg yw prif iaith cyfathrebu mewnol yr ysgol yn ogystal â gyda rhieni a gofalwyr. Cydnabyddir y bydd creu naws Gymraeg o fewn yr ysgol yn cefnogi ac yn annog agweddau cadarnhaol tuag at ddefnyddio’r Gymraeg. Defnyddir peth Cymraeg fel iaith cyfathrebu â disgyblion i wella’r gallu i ddefnyddio Cymraeg bob dydd.
  • Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni naill ai yn Saesneg neu yn y ddwy iaith

 

Canlyniadau
  • Y disgwyliad arferol yw y bydd disgyblion yn trosglwyddo i ddarpariaeth uwchradd cyfrwng Saesneg ac yn parhau i ddysgu trwy gyfrwng y Saesneg yn bennaf, gan ddysgu Cymraeg fel ail iaith.

 

Categori iaith (TR2): Ysgol drosiannol

 

Cwricwlwm
  • Ysgol/darpariaeth cyfrwng Saesneg neu’r rhai sydd â chyfran uchel o ddarpariaeth Gymraeg yn trosglwyddo i fod yn ysgol/darpariaeth dwy iaith dros amser.

 

Iaith yr Ygsol
  • Bydd darpariaeth y cwricwlwm a gweithgareddau ysgol dysgwyr yn adlewyrchu cynnydd yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser.
  • Byddai’r cynnydd yn y ddarpariaeth Gymraeg dros amser yn adlewyrchu’r defnydd beunyddiol o’r Gymraeg.
  • Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni yn y ddwy iaith

 

Canlyniadau
  • Mae hwn yn gategori pontio rhwng dau brif gategori iaith. Mae’r trefniadau pontio hyn yn galluogi ysgolion i gynllunio sut y byddant yn gwireddu cynnydd yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser. Cynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, er mwyn symud i’r categori nesaf, Categori 2 fyddai’r canlyniad.

 

Categori iaith (2): Dwy iaith

 

Cwricwlwm
  • Bydd o leiaf 50% o weithgareddau ysgol dysgwyr (cwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg. Gellid cyflawni hyn mewn gwahanol ffyrdd yn dibynnu ar gyd-destun yr ysgol. Gallai fod trwy ddefnyddio addysg drochi llawn cyfrwng Cymraeg hyd at 7 oed gyda dewis yn cael ei gynnig yn y grwpiau blwyddyn eraill, neu fod 50% o weithgareddau’r ysgol yn Gymraeg drwyddi draw.
  • Bydd dysgwr mewn ysgol o'r categori hwn yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn Gymraeg a Saesneg yn ôl oedran a gallu. Bydd sgiliau iaith Gymraeg yn cael eu cryfhau ymhellach trwy gynyddu nifer y cyfleoedd dysgu (cwricwlaidd yn ogystal ag allgyrsiol) a gynigir trwy gyfrwng y Gymraeg. Lle defnyddir y Gymraeg fel cyfrwng dysgu, defnyddir Saesneg yn achlysurol i atgyfnerthu dealltwriaeth y dysgwyr.

 

Iaith yr Ygsol
  • Defnyddir y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer cyfathrebu mewnol yn ogystal â gyda rhieni a gofalwyr. Mae dealltwriaeth glir y bydd cynnal ethos Cymraeg o fewn yr ysgol yn cefnogi agweddau cadarnhaol tuag at ddefnyddio’r Gymraeg.
  • Defnyddir y Gymraeg a'r Saesneg yng ngwaith dydd-i-ddydd yr ysgol.
  • Mae iaith cyfathrebu yn cael ei phennu gan natur y ddarpariaeth gwricwlaidd. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni yn y ddwy iaith.

 

Canlyniadau
  • Gyda’r cymorth cywir, gallai dysgwyr symud ymlaen i ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg Categori 3.

 

 Categori iaith (TR3): Ysgol drosiannol

 

Cwricwlwm
  • Ysgol/darpariaeth dwy iaith (Cymraeg a Saesneg) yn trosglwyddo i fod yn ysgol/darpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser
  • Bydd darpariaeth y cwricwlwm a gweithgareddau ysgol dysgwyr yn adlewyrchu cynnydd yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser.

 

Iaith yr Ygsol
  • Byddai’r cynnydd yn y ddarpariaeth Gymraeg dros amser yn adlewyrchu’r defnydd beunyddiol o’r Gymraeg.
  • Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni yn y ddwy iaith

 

Canlyniadau
  • Mae hwn yn gategori pontio rhwng dau brif gategori iaith. Mae’r trefniadau pontio hyn yn galluogi ysgolion i gynllunio sut y byddant yn gwireddu cynnydd yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser. Cynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, er mwyn symud i’r categori nesaf, Categori 3 fyddai’r canlyniad.



 Categori iaith (3): Ysgol Cyfrwng Cymraeg

 

Cwricwlwm
  • Addysgir yr holl ddysgwyr yn llawn yn Gymraeg, gyda Saesneg yn cael ei defnyddio ar adegau i sicrhau dealltwriaeth yn ystod trochi cynnar. O 7 oed ymlaen bydd o leiaf 80% o weithgareddau ysgol dysgwyr (cwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg.
  • Cyfnod Sylfaen – cyfrwng Cymraeg.
  • Cyfnod Allweddol 2 (CA2) – o leiaf 80% o’r addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Iaith yr Ygsol
  • Cymraeg yw prif iaith cyfathrebu mewnol yr ysgol. Mae cyfathrebu â rhieni a gofalwyr naill ai yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog yn ôl yr angen. Mae hon yn ysgol ag ethos Cymraeg cryf yn greiddiol iddi, gan gefnogi a galluogi dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob cyd-destun cymdeithasol yn yr ysgol a thu allan iddi. 

 

Canlyniadau
  • Bydd disgyblion, waeth beth fo iaith y cartref, yn gallu trosglwyddo i ddarpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg ac erbyn diwedd CA2 byddant wedi cyrraedd safon Saesneg gyfatebol i'r hyn a gyrhaeddir gan ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn bennaf.

 

 

Ysgolion Uwchradd

 

 

Categori iaith (1): Ysgol Cyfrwng Saesneg

 

Cwricwlwm
  • Mae pob disgybl yn cael profiad o feysydd dysgu trwy gyfrwng y Saesneg.
  • Bydd o leiaf 15% o weithgareddau ysgol y dysgwyr (yn gwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg.
  • Bydd y Gymraeg yn cael ei haddysgu a’i hasesu fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) ar gyfer ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu. Bydd dysgwr mewn ysgol o'r categori hwn yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn Saesneg yn ôl oedran a gallu.

 

Iaith yr Ysgol
  • Saesneg yw prif iaith cyfathrebu mewnol yr ysgol yn ogystal â gyda rhieni a gofalwyr. Cydnabyddir y bydd creu naws Gymraeg o fewn yr ysgol yn cefnogi ac yn annog agweddau cadarnhaol tuag at ddefnyddio’r Gymraeg. Defnyddir peth Cymraeg fel iaith cyfathrebu â disgyblion i wella’r gallu i ddefnyddio Cymraeg bob dydd.
  • Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni naill ai yn Saesneg neu yn y ddwy iaith

 

Canlyniadau
  • Gallai unrhyw ddisgyblion sy'n dewis opsiynau cyfrwng Cymraeg, os ydynt ar gael, gael eu hasesu trwy gyfrwng y Gymraeg yn y pynciau hynny ar bob lefel. Byddai’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn cael eu hasesu yn Saesneg ac yn symud ymlaen i astudiaeth ôl-16 cyfrwng Saesneg.

 

Categori iaith (2): Dwy iaith

 

Cwricwlwm
  • Bydd dysgwr mewn ysgol o’r categori hwn yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ôl ei oed a’i allu. Bydd sgiliau iaith Gymraeg yn cael eu cryfhau ymhellach trwy gynyddu nifer y cyfleoedd dysgu (cwricwlaidd yn ogystal ag allgyrsiol) a gynigir trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn dibynnu ar faint o amser a neilltuir i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a defnydd o’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth, byddai dysgwyr yn gallu cymhwyso eu sgiliau Cymraeg mewn ystod o wahanol Feysydd Dysgu a Phrofiad.
  • O leiaf 40% o ddysgwyr yn ymgymryd ag o leiaf 40% o weithgareddau ysgol (cwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg.

 

Iaith yr Ysgol
  • Defnyddir y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer cyfathrebu mewnol yn ogystal â gyda rhieni a gofalwyr. Mae dealltwriaeth glir y bydd cynnal ethos Cymraeg o fewn yr ysgol yn cefnogi agweddau cadarnhaol tuag at ddefnyddio’r Gymraeg.

 

Canlyniadau

 

  • Gallai unrhyw ddisgyblion sy’n dewis opsiynau cyfrwng Cymraeg gael eu hasesu trwy gyfrwng y Gymraeg yn y pynciau hynny ar bob lefel ac o bosibl symud ymlaen i astudio ôl-16 trwy gyfrwng y Gymraeg yn y pynciau hynny. Byddai’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn cael eu hasesu yn y Gymraeg a’r Saesneg ac yn symud ymlaen i astudiaeth ôl-16 cyfrwng Saesneg neu Gymraeg.

 

Categori iaith (3) Cyfrwng Cymraeg

 

Cwricwlwm
  • Mae Ysgol cyfrwng Cymraeg yn cynnig ystod eang o’u Meysydd Dysgu a Phrofiad trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Bydd o leiaf 60% o ddysgwyr sy'n ymgymryd ag o leiaf 70% o'u gweithgareddau ysgol (cwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg.
  • Disgwylir i ysgolion Categori 3 barhau i adlewyrchu cyd-destun ieithyddol yr ardal wrth weithio tuag at gynyddu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser.

 

Iaith yr Ysgol
  • Cymraeg yw prif iaith cyfathrebu mewnol.
  • Bydd yr ysgol yn cyfathrebu â rhieni a gofalwyr yn Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog yn ôl yr angen.
  • Ceir ethos Cymreig cadarn, sy’n cefnogi ac yn galluogi dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob cyd-destun cymdeithasol o fewn a thu allan i’r ysgol.
  • Bydd dysgwyr yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn Gymraeg a Saesneg yn ôl oedran a gallu.

 

Canlyniadau
  • Asesir Cyfnod Allweddol 3 (CA3) a Chyfnod Allweddol 4 (CA4) drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob pwnc heblaw Saesneg neu ieithoedd eraill.
  • Bydd disgyblion yn gallu symud ymlaen i ddarpariaeth ôl-16 cyfrwng Cymraeg

 

Categori iaith (3P): Cyfrwng Cymraeg Dynodedig

 

Cwricwlwm
  • Mae ysgol cyfrwng Cymraeg dynodedig yn darparu pob Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Bydd 100% o ddysgwyr yn ymgymryd ag o leiaf 90% o weithgareddau eu hysgol (cwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg.

 

Iaith yr Ysgol
  • Cymraeg yw prif iaith cyfathrebu mewnol.
  • Bydd yr ysgol yn cyfathrebu â rhieni a gofalwyr yn Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog yn ôl yr angen.
  • Ceir ethos Cymreig cadarn, sy’n cefnogi ac yn galluogi dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob cyd-destun cymdeithasol o fewn a thu allan i’r ysgol.
  • Bydd dysgwyr yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn Gymraeg a Saesneg yn ôl oedran a gallu

 

Canlyniadau
  • Asesir Cyfnod Allweddol 3 (CA3) a Chyfnod Allweddol 4 (CA4) drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob pwnc heblaw Saesneg neu ieithoedd eraill.
  • Bydd disgyblion yn gallu symud ymlaen i ddarpariaeth ôl-16 cyfrwng Cymraeg.

 

Categori iaith: (T2 a T3): Is-gategorïau trosiannol

 

Cwricwlwm
  • Mae'r rhain yn gategorïau pontio rhwng dau brif gategori iaith fel ar gyfer ysgolion cynradd uchod.
  • Mae’r trefniadau pontio hyn yn galluogi ysgolion i gynllunio sut y byddant yn gwireddu cynnydd yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser.
  • Cynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, er mwyn symud i’r categori nesaf, yw nod yr is-gategorïau trosiannol. Felly, mae T2 yn pontio ysgol categori 1 a 2, gyda’r nod o ddod yn ysgol categori 2 dros amser a T3 yn pontio ysgol categori 2 a 3 gyda’r nod o ddod yn ysgol categori 3 dros amser.

 

Iaith yr Ysgol
  • Byddai’r cynnydd yn y ddarpariaeth Gymraeg dros amser yn adlewyrchu’r defnydd beunyddiol o’r Gymraeg.
  • Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni yn y ddwy iaith.

 

Canlyniadau
  • Byddai'r asesiad yn cyd-fynd â'r cynnydd yn y ddarpariaeth Gymraeg ac yn unol â'r categorïau pontio fel uchod.

 

 

 

 

 

ID: 10743, adolygwyd 19/08/2025