Derbyniadau i Ysgolion yn Sir Benfro Gwybodaeth i Rieni (y flwyddyn nesaf)
Rhan 3 – Trosglwyddo rhwng ysgolion (2026-2027)
Ar y dudalen hon:
Beth yw’r weithdrefn os ydw i am symud fy mhlentyn i ysgol arall?
Sut y gallaf ychwanegu enw fy mhlentyn at y Rhestr Aros?
Sut mae trefnu i’m plentyn drosglwyddo i ysgol uwchradd?
Beth yw’r weithdrefn os ydw i am symud fy mhlentyn i ysgol arall?
Mae’r Cyngor yn barod i ystyried ceisiadau am drosglwyddo rhwng ysgolion ar adegau ar wahân i amserau derbyn arferol. Fodd bynnag, os ydych yn ceisio trosglwyddo eich plentyn, rhaid ichi drafod hyn yn gyntaf gyda phennaeth presennol eich plentyn neu bennaeth y flwyddyn mewn ysgol uwchradd. Dylech hefyd gysylltu â phennaeth yr ysgol y dymunwch i’ch plentyn fynd iddi. Gan nad yw trosglwyddo yn ystod y tymor yn cael ei annog, trosglwyddir fel arfer ar ddechrau hanner tymor yn unig, ac eithrio pan fo’r sefyllfa’n codi am fod y teulu wedi newid cyfeiriad. Rhaid cwblhau'r ffurflen gais ar-lein ym mhob achos, ac mae hon ar gael ar wefan y Cyngor Sir.
Sylwch - bydd y ffurflen gais yn cael ei rhannu gyda'r ysgol bresennol a'r un y gofynnir amdani pan fydd plentyn yn trosglwyddo o'r naill ysgol yn Sir Benfro i'r llall. Fel arfer, ni fydd ceisiadau i drosglwyddo yn cael eu hystyried fwy nag 1 tymor cyn y trosglwyddo a dylid eu cyflwyno o leiaf 1 mis cyn y dyddiad trosglwyddo gofynnol er mwyn ei brosesu ar amser.
Os cyflwynir cais fwy na thymor ymlaen llaw, cewch e-bost yn cadarnhau bod y cais wedi dod i law, ynghyd â hysbysiad y bydd y cais yn cael ei ohirio tan y tymor cyn y dyddiad cychwyn y gofynnwyd amdano. Bydd eich cais yn cael ei brosesu o fewn 15 diwrnod ysgol o ddechrau’r tymor ysgol hwnnw. Dylid cyflwyno ceisiadau hefyd o leiaf un mis cyn y dyddiad trosglwyddo y gofynnir amdano er mwyn iddo gael ei brosesu mewn pryd.
Mae newid ysgolion yn gallu bod yn brofiad anodd i ddisgyblion a gall darfu ar drefniadaeth dosbarthiadau. Dylid gwneud hyn pan fydd popeth arall wedi methu, ac ni ddylid ei ystyried hyd nes y rhoddwyd sylw priodol i’r holl ffyrdd posibl eraill o ddatrys problemau. Os ydych yn gwneud cais am drosglwyddo oherwydd eich bod yn pryderu ynglŷn â chynnydd eich plentyn neu oherwydd bod unrhyw broblemau yn ysgol eich plentyn, fel cam cyntaf dylech drafod y mater gyda phennaeth yr ysgol bresennol.
Pan gytunir ar drosglwyddiad ysgol, bydd y Swyddog Derbyn yn hysbysu'r rhieni'n ysgrifenedig fel arfer ar ffurf e-bost awtomataidd (gwiriwch eich blwch post sothach os nad ydych yn ei dderbyn yn eich mewnflwch). Dylai i chi dderbyn ymateb i'ch cais o fewn 15 diwrnod ysgol neu 28 diwrnod calendr, pa un bynnag sy'n gyntaf. Bydd angen i rieni ddilyn dolen yn yr e-bost i dderbyn neu wrthod y lle. Os bydd amgylchiadau'n newid ar ôl i'r lle gael ei dderbyn a mae lle mewn ysgol wahanol, neu pan fydd yr ysgol flaenorol yn ofynnol, rhaid gwneud cais newydd. Dylai rhieni nodi bod y lle yn yr ysgol y mae eu plentyn yn ei adael eisoes wedi'i neilltuo i rywun arall.
Yn ei gyfarfod ar 13 Mehefin 2019, cytunodd y Fforwm Derbyn y gallai’r Nifer Derbyn gael ei dorri ym mhob achos o dderbyniadau i ysgolion uwchradd cymunedol a gwirfoddol a reolir o fis Medi 2019 yn achos ceisiadau a gafwyd oddi wrth ddisgyblion o fewn y dalgylch. Fodd bynnag, mae’n ofynnol i’r Swyddog Derbyn drafod pob achos gyda’r Pennaeth perthnasol a dim ond mewn achosion lle nad oes rhestr aros eisoes ar gyfer y grŵp blwyddyn y gall wneud hyn. Mae’r un trefniadau yn berthnasol i ddisgyblion oed cynradd ac mae’r Awdurdod Derbyn yn defnyddio ei ddisgresiwn arferol i ystyried pob cais.
Gellir tynnu’r cynnig am le mewn ysgol yn ôl os bydd rhiant yn rhoi gwybodaeth anghywir neu dwyllodrus wrth wneud cais am le. Efallai y bydd gofyn i chi ddarparu prawf o’ch cyfeiriad mewn cysylltiad â’ch cais am le mewn ysgol.
Sut y gallaf ychwanegu enw fy mhlentyn at y Rhestr Aros?
Nid ydym yn cynnal rhestrau aros ar gyfer ceisiadau i drosglwyddo ysgol yn ystod y flwyddyn.
Sut mae trefnu i’m plentyn drosglwyddo i ysgol uwchradd?
Mae ysgolion uwchradd yn Sir Benfro yn cynnig addysg gynhwysfawr i ddisgyblion o bob gallu. Fel arfer, mae’r trosglwyddiad o addysg gynradd i addysg uwchradd yn digwydd yn y mis Medi yn dilyn pen-blwydd plentyn yn un ar ddeg oed. Ar gyfer ysgolion 3-16 oed, bydd y disgyblion yn trosglwyddo’n awtomatig i Gyfnod Allweddol 3. Fodd bynnag, mae gan rieni ddewis i wneud cais am ysgol uwchradd arall yn ystod y broses cylch derbyn arferol. Gall pennaeth ysgol gynradd eich plentyn roi gwybodaeth i chi ynglŷn â’r ysgol uwchradd y dylai eich plentyn ei mynychu fel arfer. Mae manteision addysgol i’ch plentyn fynychu’r ysgol uwchradd sy’n gysylltiedig â’i ysgol gynradd fel rhan o’r ‘clwstwr o ysgolion’ – gweler Rhan 1xii.
Bydd gwybodaeth am drosglwyddo i’r ysgol uwchradd yn cael ei dosbarthu yn ystod tymor yr hydref trwy’r ysgolion cynradd, cyn bod eich plentyn i fod i fynd i’r ysgol uwchradd. Gofynnir i chi fynegi dewis am ysgol uwchradd erbyn diwedd tymor yr hydref drwy gyflwyno ffurflen gais ar-lein drwy wefan Cyngor Sir Penfro. Rydym yn eich annog yn gryf i restru hyd at dair ysgol yn nhrefn eich dewis ar eich ffurflen gais. Bydd pob cais a dderbynnir ar amser yn cael ei ystyried gyda’i gilydd a chewch wybod am y canlyniad ar ddyddiad y cynnig cyffredin. Mae gwybodaeth am sut rydym yn ystyried ceisiadau sy’n cael eu derbyn yn hwyr, ar ôl y dyddiad cau, ar gael yn Rhan 1x.
Rydym yn eich cynghori i beidio ag aros tan y funud olaf i gyflwyno’r cais rhag ofn y byddwch yn profi anawsterau technegol. Cofiwch hefyd, os nad ydych wedi derbyn e-bost yn cadarnhau eich cais, yna nid ydym wedi’i dderbyn ac felly nid yw wedi’i gyflwyno’n gywir.
Os oes mwy o geisiadau am leoedd nag sydd o leoedd ar gael, bydd y meini prawf gordanysgrifio yn cael eu cymhwyso.
Gellir tynnu’r cynnig am le mewn ysgol yn ôl os bydd rhiant yn rhoi gwybodaeth anghywir neu dwyllodrus wrth wneud cais am le. Efallai y bydd gofyn i chi ddarparu prawf o’ch cyfeiriad mewn cysylltiad â’ch cais am le ysgol, e.e. ar ffurf cytundeb tenantiaeth neu gytundeb prynu wedi’i lofnodi, biliau cyfleustodau diweddar, llythyr budd-dal plant neu gyfriflen banc (dyddiedig o fewn y tri mis diwethaf), wrth wneud cais am le ysgol.
Sylwch, os cyflwynir mwy nag un cais ar gyfer yr un disgybl, defnyddir y cais diweddaraf at ddibenion prosesu a bydd unrhyw geisiadau blaenorol yn cael eu canslo. Rydym yn annog rhieni i wirio gyda’r Tîm Derbyniadau cyn cyflwyno cais dyblyg oherwydd, os bydd cais newydd yn cael ei dderbyn ar ôl y dyddiad cau, bydd y cais newydd yn cael ei ystyried fel un hwyr a gall hyn effeithio ar y penderfyniad o ddyrannu lle i blentyn.
Gweler Rhan 2iii am ragor o wybodaeth am ddewisiadau rhieni.
Ni ddylech gymryd yn ganiataol y bydd mynychu unrhyw ddiwrnod neu noson agored/pontio ar gyfer darpar ddisgyblion uwchradd yn arwain at fynediad nac at ddarparu cludiant.
Cytunodd y Fforwm Derbyniadau, yn ei gyfarfod ar 13 Mehefin 2019, ym mhob achos o dderbyniadau i ysgolion uwchradd cymunedol a gwirfoddol a reolir o fis Medi 2019 ymlaen, y gellid torri amodau nifer y derbyniadau yn achos ceisiadau a dderbynnir gan ddisgyblion o fewn y dalgylch. Fodd bynnag, mae’n ofynnol i’r Swyddog Derbyniadau drafod pob achos gyda’r pennaeth perthnasol.