Derbyniadau i Ysgolion yn Sir Benfro - Gwybodaeth i Rieni

Atodiad 1 Cysylltiadau gwefan Cyngor Sir Penfro

Cynhwysiant ac Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae'r gwasanaeth cynhwysiant yn hybu cyflawniad a lles ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc.  Yn ei hanfod, mae'n golygu gwneud yn siŵr bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael mynediad at yr un cyfleoedd a gwasanaethau â phawb arall ac yn derbyn addysg o safon uchel, sy'n eang, yn gytbwys ac yn berthnasol i ddiwallu eu hanghenion unigol.  Mae'r strategaeth cynhwysiad yn nodi y gall ac y dylai'r rhan fwyaf o ddysgwyr oedran ysgol gael eu haddysgu gydag eraill o'u hoedran eu hunain yn eu hysgol gymunedol leol sydd wedi'i chyfarparu'n briodol ac yn addas i'r diben. Os hoffech rywfaint o gyngor ac arweiniad cyffredinol am angen ychwanegol eich plentyn, dylech gysylltu â'r Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni drwy ffonio 01437 776354.

 

Gwasanaeth prydau ysgol

Darperir prydau ysgol gan dîm arlwyo Cyngor Sir Penfro.

 

Trafnidiaeth Addysg  

Mae dyletswydd statudol ar Gyngor Sir Penfro (fel yr Awdurdod Lleol) i ddarparu cludiant am ddim ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol i’w hysgol ddalgylch neu eu hysgol a gynhelir agosaf sy’n addas os ydynt yn byw dros y pellter cerdded statudol.

Darperir cludiant am ddim yn ôl y Mesur Teithio gan ddysgwyr Cymru Mesur-Canllawiau Gweithredol a pholisi cludiant i'r ysgol Cyngor Sir Penfro gellir cael gwybodaeth bellach o'r dudalen tudalen cludiant ysgol ar wefan Cyngor Sir Penfro. 

 

Rhestrau ysgolion

Dyddiadau tymor a gwyliau

ID: 9117, adolygwyd 28/04/2023