Derbyniadau i Ysgolion yn Sir Benfro - Gwybodaeth i Rieni
Atodiad 5 Addysgu’r Gymraeg a’r Saesneg yn ysgolion Cynradd/Uwchradd Sir Benfro
Addysgu’r Gymraeg a’r Saesneg yn ysgolion Cynradd Sir Benfro
|
Cwricwlwm |
Iaith yr Ygsol |
Canlyniadau |
1 (Ysgol cyfrwng Saesneg) |
Mae pob disgybl yn cael profiad o feysydd dysgu trwy gyfrwng y Saesneg. Bydd o leiaf 15% o weithgareddau ysgol y dysgwyr (yn gwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg. Bydd dysgwr mewn ysgol o’r categori hwn yn gallu darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando yn Saesneg yn ôl oedran a gallu, a bydd ganddo beth dealltwriaeth o’r Gymraeg. Bydd y Gymraeg yn cael ei haddysgu a’i hasesu fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) ar gyfer ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu. |
Saesneg yw prif iaith cyfathrebu mewnol yr ysgol yn ogystal â gyda rhieni a gofalwyr. Cydnabyddir y bydd creu naws Gymraeg o fewn yr ysgol yn cefnogi ac yn annog agweddau cadarnhaol tuag at ddefnyddio’r Gymraeg. Defnyddir peth Cymraeg fel iaith cyfathrebu â disgyblion i wella’r gallu i ddefnyddio Cymraeg bob dydd. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni naill ai yn Saesneg neu yn y ddwy iaith
|
Y disgwyliad arferol yw y bydd disgyblion yn trosglwyddo i ddarpariaeth uwchradd cyfrwng Saesneg ac yn parhau i ddysgu trwy gyfrwng y Saesneg yn bennaf, gan ddysgu Cymraeg fel ail iaith. |
TR2 (Ysgol drosiannol) |
Ysgol/darpariaeth cyfrwng Saesneg neu’r rhai sydd â chyfran uchel o ddarpariaeth Gymraeg yn trosglwyddo i fod yn ysgol/darpariaeth dwy iaith dros amser. Bydd darpariaeth y cwricwlwm a gweithgareddau ysgol dysgwyr yn adlewyrchu cynnydd yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser. |
Byddai’r cynnydd yn y ddarpariaeth Gymraeg dros amser yn adlewyrchu’r defnydd beunyddiol o’r Gymraeg. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni yn y ddwy iaith
|
Mae hwn yn gategori pontio rhwng dau brif gategori iaith. Mae’r trefniadau pontio hyn yn galluogi ysgolion i gynllunio sut y byddant yn gwireddu cynnydd yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser. Cynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, er mwyn symud i’r categori nesaf, Categori 2 fyddai’r canlyniad. |
2 (Dwy iaith) |
Bydd o leiaf 50% o weithgareddau ysgol dysgwyr (cwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg. Gellid cyflawni hyn mewn gwahanol ffyrdd yn dibynnu ar gyd-destun yr ysgol. Gallai fod trwy ddefnyddio addysg drochi llawn cyfrwng Cymraeg hyd at 7 oed gyda dewis yn cael ei gynnig yn y grwpiau blwyddyn eraill, neu fod 50% o weithgareddau’r ysgol yn Gymraeg drwyddi draw.
Bydd dysgwr mewn ysgol o'r categori hwn yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn Gymraeg a Saesneg yn ôl oedran a gallu. Bydd sgiliau iaith Gymraeg yn cael eu cryfhau ymhellach trwy gynyddu nifer y cyfleoedd dysgu (cwricwlaidd yn ogystal ag allgyrsiol) a gynigir trwy gyfrwng y Gymraeg. Lle defnyddir y Gymraeg fel cyfrwng dysgu, defnyddir Saesneg yn achlysurol i atgyfnerthu dealltwriaeth y dysgwyr.
|
Defnyddir y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer cyfathrebu mewnol yn ogystal â gyda rhieni a gofalwyr. Mae dealltwriaeth glir y bydd cynnal ethos Cymraeg o fewn yr ysgol yn cefnogi agweddau cadarnhaol tuag at ddefnyddio’r Gymraeg. Defnyddir y Gymraeg a'r Saesneg yng ngwaith dydd-i-ddydd yr ysgol. Mae iaith cyfathrebu yn cael ei phennu gan natur y ddarpariaeth gwricwlaidd. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni yn y ddwy iaith. |
Gyda’r cymorth cywir, gallai dysgwyr symud ymlaen i ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg Categori 3. |
TR3 (Ysgol drosiannol) |
Ysgol/darpariaeth dwy iaith (Cymraeg a Saesneg) yn trosglwyddo i fod yn ysgol/darpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser Bydd darpariaeth y cwricwlwm a gweithgareddau ysgol dysgwyr yn adlewyrchu cynnydd yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser. |
Byddai’r cynnydd yn y ddarpariaeth Gymraeg dros amser yn adlewyrchu’r defnydd beunyddiol o’r Gymraeg. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni yn y ddwy iaith
|
Mae hwn yn gategori pontio rhwng dau brif gategori iaith. Mae’r trefniadau pontio hyn yn galluogi ysgolion i gynllunio sut y byddant yn gwireddu cynnydd yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser. Cynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, er mwyn symud i’r categori nesaf, Categori 3 fyddai’r canlyniad. |
3 (Ysgol cyfrwng Cymraeg) |
Addysgir yr holl ddysgwyr yn llawn yn Gymraeg, gyda Saesneg yn cael ei defnyddio ar adegau i sicrhau dealltwriaeth yn ystod trochi cynnar. O 7 oed ymlaen bydd o leiaf 80% o weithgareddau ysgol dysgwyr (cwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg. Cyfnod Sylfaen – cyfrwng Cymraeg. Cyfnod Allweddol 2 (CA2) – o leiaf 80% o’r addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. |
Cymraeg yw prif iaith cyfathrebu mewnol yr ysgol. Mae cyfathrebu â rhieni a gofalwyr naill ai yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog yn ôl yr angen. Mae hon yn ysgol ag ethos Cymraeg cryf yn greiddiol iddi, gan gefnogi a galluogi dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob cyd-destun cymdeithasol yn yr ysgol a thu allan iddi. |
Bydd disgyblion, waeth beth fo iaith y cartref, yn gallu trosglwyddo i ddarpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg ac erbyn diwedd CA2 byddant wedi cyrraedd safon Saesneg gyfatebol i'r hyn a gyrhaeddir gan ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn bennaf.
|
Addysgu Cymraeg a Saesneg mewn Ysgolion Uwchradd Sir Benfro
|
Cwricwlwm |
Laith yr Ysgol |
Canlyniadau |
1 Ysgol cyfrwng Saesneg
|
Mae pob disgybl yn cael profiad o feysydd dysgu trwy gyfrwng y Saesneg. Bydd o leiaf 15% o weithgareddau ysgol y dysgwyr (yn gwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg. Bydd y Gymraeg yn cael ei haddysgu a’i hasesu fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) ar gyfer ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu. Bydd dysgwr mewn ysgol o'r categori hwn yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn Saesneg yn ôl oedran a gallu. |
Saesneg yw prif iaith cyfathrebu mewnol yr ysgol yn ogystal â gyda rhieni a gofalwyr. Cydnabyddir y bydd creu naws Gymraeg o fewn yr ysgol yn cefnogi ac yn annog agweddau cadarnhaol tuag at ddefnyddio’r Gymraeg. Defnyddir peth Cymraeg fel iaith cyfathrebu â disgyblion i wella’r gallu i ddefnyddio Cymraeg bob dydd. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni naill ai yn Saesneg neu yn y ddwy iaith
|
Gallai unrhyw ddisgyblion sy'n dewis opsiynau cyfrwng Cymraeg, os ydynt ar gael, gael eu hasesu trwy gyfrwng y Gymraeg yn y pynciau hynny ar bob lefel. Byddai’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn cael eu hasesu yn Saesneg ac yn symud ymlaen i astudiaeth ôl-16 cyfrwng Saesneg.
|
2 (Dwy iaith)
|
Bydd dysgwr mewn ysgol o’r categori hwn yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ôl ei oed a’i allu. Bydd sgiliau iaith Gymraeg yn cael eu cryfhau ymhellach trwy gynyddu nifer y cyfleoedd dysgu (cwricwlaidd yn ogystal ag allgyrsiol) a gynigir trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn dibynnu ar faint o amser a neilltuir i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a defnydd o’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth, byddai dysgwyr yn gallu cymhwyso eu sgiliau Cymraeg mewn ystod o wahanol Feysydd Dysgu a Phrofiad. O leiaf 40% o ddysgwyr yn ymgymryd ag o leiaf 40% o weithgareddau ysgol (cwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg. |
Defnyddir y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer cyfathrebu mewnol yn ogystal â gyda rhieni a gofalwyr. Mae dealltwriaeth glir y bydd cynnal ethos Cymraeg o fewn yr ysgol yn cefnogi agweddau cadarnhaol tuag at ddefnyddio’r Gymraeg. |
Gallai unrhyw ddisgyblion sy’n dewis opsiynau cyfrwng Cymraeg gael eu hasesu trwy gyfrwng y Gymraeg yn y pynciau hynny ar bob lefel ac o bosibl symud ymlaen i astudio ôl-16 trwy gyfrwng y Gymraeg yn y pynciau hynny. Byddai’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn cael eu hasesu yn y Gymraeg a’r Saesneg ac yn symud ymlaen i astudiaeth ôl-16 cyfrwng Saesneg neu Gymraeg. .
|
3 Cyfrwng Cymraeg |
Mae Ysgol cyfrwng Cymraeg yn cynnig ystod eang o’u Meysydd Dysgu a Phrofiad trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd o leiaf 60% o ddysgwyr sy'n ymgymryd ag o leiaf 70% o'u gweithgareddau ysgol (cwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg. Disgwylir i ysgolion Categori 3 barhau i adlewyrchu cyd-destun ieithyddol yr ardal wrth weithio tuag at gynyddu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser. |
Cymraeg yw prif iaith cyfathrebu mewnol. Bydd yr ysgol yn cyfathrebu â rhieni a gofalwyr yn Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog yn ôl yr angen. Ceir ethos Cymreig cadarn, sy’n cefnogi ac yn galluogi dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob cyd-destun cymdeithasol o fewn a thu allan i’r ysgol. Bydd dysgwyr yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn Gymraeg a Saesneg yn ôl oedran a gallu. |
Asesir Cyfnod Allweddol 3 (CA3) a Chyfnod Allweddol 4 (CA4) drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob pwnc heblaw Saesneg neu ieithoedd eraill. Bydd disgyblion yn gallu symud ymlaen i ddarpariaeth ôl-16 cyfrwng Cymraeg. |
3P Cyfrwng Cymraeg Dynodedig
|
Mae ysgol cyfrwng Cymraeg dynodedig yn darparu pob Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd 100% o ddysgwyr yn ymgymryd ag o leiaf 90% o weithgareddau eu hysgol (cwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg. |
Cymraeg yw prif iaith cyfathrebu mewnol. Bydd yr ysgol yn cyfathrebu â rhieni a gofalwyr yn Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog yn ôl yr angen. Ceir ethos Cymreig cadarn, sy’n cefnogi ac yn galluogi dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob cyd-destun cymdeithasol o fewn a thu allan i’r ysgol. Bydd dysgwyr yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn Gymraeg a Saesneg yn ôl oedran a gallu. |
Asesir Cyfnod Allweddol 3 (CA3) a Chyfnod Allweddol 4 (CA4) drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob pwnc heblaw Saesneg neu ieithoedd eraill. Bydd disgyblion yn gallu symud ymlaen i ddarpariaeth ôl-16 cyfrwng Cymraeg. |
T2 a T3 Is-gategorïau trosiannol |
Mae'r rhain yn gategorïau pontio rhwng dau brif gategori iaith fel ar gyfer ysgolion cynradd uchod. Mae’r trefniadau pontio hyn yn galluogi ysgolion i gynllunio sut y byddant yn gwireddu cynnydd yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser. Cynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, er mwyn symud i’r categori nesaf, yw nod yr is-gategorïau trosiannol. Felly, mae T2 yn pontio ysgol categori 1 a 2, gyda’r nod o ddod yn ysgol categori 2 dros amser a T3 yn pontio ysgol categori 2 a 3 gyda’r nod o ddod yn ysgol categori 3 dros amser. |
Byddai’r cynnydd yn y ddarpariaeth Gymraeg dros amser yn adlewyrchu’r defnydd beunyddiol o’r Gymraeg. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni yn y ddwy iaith.
|
Byddai'r asesiad yn cyd-fynd â'r cynnydd yn y ddarpariaeth Gymraeg ac yn unol â'r categorïau pontio fel uchod. |