Dewis gwasanaethau gofal cartref

Cwestiynau i'w gofyn wrth ddewis gwasanaeth gofal cartref

Trafodaethau cyntaf

  • A fyddwch yn dod i’m gweld yn fy nghartref fy hun i drafod pa gymorth sydd ei angen arnaf?
  • Beth fydd yn digwydd os bydd fy anghenion yn newid?

Gweithwyr cyflogedig

  • A yw pob un o’ch gofalwyr wedi cael ei sgrinio’n briodol a’i gyfweld, ac a ydych wedi cadarnhau eu geirdaon?
  • A oes gan bob un o’ch gofalwyr yr hyfforddiant a’r cymwysterau priodol?
  • A fydd gofal nyrsio bob amser yn cael ei roi gan nyrs gymwysedig?
  • A yw’r holl staff sy’n rhoi gofal personol neu ofal nyrsio wedi cael archwiliad gan yr heddlu?

Goruchwylio

  • Sut yr ydych yn goruchwylio eich gofalwyr er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn gwneud yr hyn y cytunwyd arno?

Argyfyngau

  • Pa gymorth allwch chi ei roi mewn argyfwng?
  • Gyda phwy y dylwn i gysylltu mewn argyfwng?

Cyfrinachedd

  • Pwy fydd â manylion amdanaf fi a’m gofal?
  • Pa wybodaeth bersonol y mae’n rhaid i mi ei darparu?

Trin arian

  • Pa gofnodion fyddwch chi’n gofyn i’ch gofalwyr eu cadw os byddant yn trin fy arian (er enghraifft, os bydd y gofalwr yn mynd i siopa ar fy rhan)?

Taliadau

  • Beth yw eich taliadau am ofal dyddiol, gyda’r nos, yn ystod y penwythnos a 24 awr?
  • A oes unrhyw daliadau ychwanegol?
  • A fyddaf yn cael cadarnhad ysgrifenedig o gost fy ngofal cyn iddo ddechrau?
  • A fyddaf yn cael fy hysbysu ymlaen llaw am unrhyw newidiadau mewn taliadau?
  • How do I pay you (for example, do you bill me each week)?

Yswiriant

  • A oes gennych yswiriant sy’n cynnwys yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ac yswiriant atebolrwydd cyflogwr a cholledion yn deillio o anonestrwydd?
  • A yw’n bosibl i mi weld cadarnhad ysgrifenedig o’ch yswiriant?
  • Pa yswiriant cartref sydd ei angen arnaf (rhag ofn i weithiwr anafu ei hun, neu rhag ofn i eitemau gael eu torri)?

Cyfarpar

  • A oes angen i mi ddarparu unrhyw gyfarpar?
  • Pa gyfarpar y mae eich gofalwyr yn eu darparu?

Cwynion

  • Beth y gallaf ei wneud os na fyddaf yn gallu cyd-dynnu â’m gofalwr neu os oes arnaf angen cwyno?
  • Beth yw eich trefn gwyno?

Newidiadau / canslo

  • Faint o rybudd y mae’n rhaid i mi ei roi os oes arnaf angen canslo sesiwn neu’r gwasanaeth yn gyfan gwbl?
  • A fyddwch yn codi tâl os bydd angen i mi ganslo’r gwasanaeth ar fyr rybudd?
  • A fyddwch yn rhoi gwybod i mi ymlaen llaw os na fydd fy ngofalwr yn gallu dod ar yr adeg arferol?
  • A fyddwch yn rhoi gwybod i mi ymlaen llaw os bydd gofalwr gwahanol yn dod?
  • A fyddwch yn rhoi gwybod i mi ymlaen llaw os byddwch yn gorfod canslo fy ngwasanaeth rywbryd?

Cwestiynau eraill

  • A allaf roi anrhegion i’m gofalwyr, er enghraifft, anrheg Nadolig?
  • A oes gan eich gofalwyr hawl i arwyddo ewyllys?
ID: 2152, adolygwyd 11/08/2022