Dewis gwasanaethau gofal cartref
Dewis gwasanaeth gofal cartref
Pan fyddwch yn cysylltu â sefydliad sy’n darparu gofal yn y cartref mae angen i chi fod yn sicr ei fod yn cynnig gwasanaeth o safon uchel, gyda staff sydd wedi'u hyfforddi sy'n gallu darparu’r gofal sydd ei angen arnoch. Dylech fod yn benodol ynglŷn â’r math o gymorth y mae arnoch ei eisiau, a pheidiwch â bod ag ofn gofyn cwestiynau.
Mae’n bwysig eich bod yn gwybod beth yn union i’w ddisgwyl, faint y byddwch yn ei dalu, ac am beth y byddwch yn talu, a’ch bod yn ffyddiog y bydd y rhai sy’n dod i’ch cartref yn gallu darparu’r hyn ymae arnoch ei angen.
Os oes gennych nam ar eich golwg neu eich clyw, gofynnwch a yw’r staff gofal wedi cael hyfforddiant mewn gofalu am bobl sydd â nam ar eu synhwyrau.
Os nad oes angen i’r sefydliad fod wedi ei gofrestru gallech ofyn i’r rheolwr am eirda gan gleientiaid bodlon.
Gofynnwch am gael gweld taflen y sefydliad a chopi o unrhyw god ymddygiad sydd ganddynt ar gyfer eu staff. Efallai y byddwch yn canfod bod angen help gan fwy nag un sefydliad er mwyn darparu popeth sydd ei angen arnoch.
Mae angen i’r holl staff sy’n rhoi gofal personol neu ofal nyrsio gael eu harchwilio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a rhaid sicrhau nad yw eu henwau ar y gofrestr Diogelu Oedolion sy’n Agored i Niwed (POVA) (neu POCA os ydynt yn gweithio gyda phlant).