Dewis gwasanaethau gofal cartref

Gofal Cartref Yn Sir Benfro - Beth allwch ei ddisgwyl?

 Mae'r daflen hon ar gyfer pobl sy'n cael gofal cartref wedi'i drefnu ar eu cyfer gan Gyngor Sir Penfro. Mae'n darparu gwybodaeth am y gwasanaeth a'r hyn y gallwch ei ddisgwyl ganddo. 

Beth yw gofal cartref?
Sut bydd gofal cartref yn fy helpu i aros yn annibynnol?
Sut byddaf yn cael gwybod pwy fydd fy narparwr gofal?
Pwy fydd fy ngweithwyr gofal?
Faint o weithwyr gofal fydd yn ymweld â mi?
Pryd bydd fy ngweithiwr gofal yn galw?
Beth fydd yn digwydd os na fydd fy ngweithiwr gofal yn cyrraedd mewn pryd?
Beth yw Monitro Galwadau Electronig?
Mae fy anghenion gofal a chymorth wedi newid – beth ddylwn i ei wneud?
Sut telir am ofal cartref?
Mae yna bethau eraill mae arnaf angen cymorth gyda nhw na fydd y Cyngor yn talu amdanyn nhw. Gyda phwy y dylwn i siarad?
Dydw i ddim yn hapus gyda fy ngofal cartref – beth ddylwn i ei wneud?
Gwybodaeth ychwanegol

 

Beth yw gofal cartref?

Gofal cartref, a elwir weithiau’n ofal yn y cartref, yw pan fydd gweithiwr gofal yn ymweld â chi yn eich cartref eich hun i’ch cefnogi gyda’ch gofal personol a thasgau ymarferol fel eich bod yn aros mor annibynnol â phosibl.

Mae gwasanaethau gofal cartref wedi'u cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru, sy'n rheoleiddio ansawdd gwasanaethau gofal ledled Cymru.

Sut bydd gofal cartref yn fy helpu i aros yn annibynnol?

Nod gofal cartref yw eich cefnogi i ddod ac aros mor annibynnol â phosibl. Bydd gweithwyr gofal yn eich cefnogi i wneud cymaint ag y gallwch chi eich hun, gan gynnwys gofalu am eich iechyd a'ch llesiant eich hun. Mae hyn yn golygu y gallant eich helpu i gwblhau gweithgareddau yn hytrach na'u gwneud ar eich rhan ac ni fyddwch yn cael cynnig cymorth mewn meysydd lle gallwch wneud pethau drosoch eich hun. 

Mae pawb yn wahanol ac rydym yn gweithio mewn ffordd sy'n caniatáu i ofal a chymorth fod mor bersonol â phosibl. Os oes gennych weithiwr cymdeithasol, bydd yn siarad â chi i ganfod pa gymorth sydd ei angen arnoch, yn ogystal â beth sy'n bwysig i chi. Byddwch chi a’ch gweithiwr cymdeithasol yn cytuno pa ofal a chymorth a ddarperir a bydd hyn yn cael ei ysgrifennu yn eich cynllun gofal a chymorth.

Sut byddaf yn cael gwybod pwy fydd fy narparwr gofal?

Pan fyddwn yn gwybod pa gymorth sydd ei angen arnoch, byddwn yn cysylltu â darparwyr gofal lleol ac yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i’ch gofal a’ch cymorth cyn gynted ag y gallwn. Pan fyddwn yn dod o hyd i'r darparwr cywir i chi, bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn cysylltu â chi ac yn dweud wrthych pryd a sut y bydd y darparwr yn cysylltu.

Yn anffodus, weithiau gall fod oedi cyn i weithwyr gofal ddod ar gael lle rydych chi'n byw. Pan fydd pethau'n cymryd mwy o amser, bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Efallai y bydd hefyd yn siarad â chi ynghylch p'un a oes opsiynau eraill a allai fod o gymorth ichi yn y tymor byr tra byddwn yn dod o hyd i’r gofal a chymorth hirdymor cywir i chi.
 

Pwy fydd fy ngweithwyr gofal?

Bydd eich gweithwyr gofal wedi'u hyfforddi ac yn meddu ar y sgiliau i'ch cefnogi. Byddant hefyd wedi'u cofrestru'n unigol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, sy'n goruchwylio ymarfer proffesiynol yng Nghymru.

Mae eich gweithwyr gofal yn debygol o fod yn bobl o amrywiaeth o oedrannau, rhyweddau, cefndiroedd, diwylliannau ac ethnigrwydd.

Mae Cyngor Sir Penfro wedi ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth a gofynnwn i bawb drin pobl eraill gyda'r un parch ac urddas ag y byddent yn dymuno cael eu trin eu hunain. Os oes gennych unrhyw bryderon, siaradwch â'ch darparwr gofal neu weithiwr cymdeithasol.

Faint o weithwyr gofal fydd yn ymweld â mi?

Mae darparwyr gofal yn gwybod ei bod yn bwysig cadw nifer y gweithwyr gofal sy’n ymweld â chi mor isel â phosibl a byddant yn siarad â chi cyn i’ch gofal ddechrau er mwyn i chi ddeall faint o weithwyr fydd yn eich tîm.

Bydd maint eich tîm yn dibynnu ar bethau fel nifer yr ymweliadau a gewch a faint o weithwyr gofal sydd eu hangen ar gyfer pob ymweliad. Yn gyffredinol, po fwyaf o ofal a gewch, yr uchaf fydd nifer y gweithwyr.

Pryd bydd fy ngweithiwr gofal yn galw?

Er ein bod yn gwybod ei bod yn bwysig iawn i bobl gael gofal ar yr amser sydd fwyaf addas iddynt, nid yw hyn bob amser yn bosibl am nifer o resymau.

Pan fyddwch chi’n siarad â’ch gweithiwr cymdeithasol, bydd yn gofyn i chi ddewis ym mha fand amser yr hoffech chi dderbyn eich gofal. Mae'r rhain isod:

  • Band 1 – 6:30am – 8:30am
  • Band 2 – 8:30am – 10:30am
  • Band 3 – 10:30am – 12:00pm
  • Band 4 – 12:00pm – 2:00pm
  • Band 5 – 2:30pm – 4:30pm
  • Band 6 – 4:30pm – 6:30pm
  • Band 7 – 6:30pm – 8:30pm
  • Band 8 – 8:30pm – 10:30pm

Mae pob band amser yn rhoi dewis i chi o'r amser o'r dydd yr hoffech chi dderbyn gofal. Yna byddwn yn dod o hyd i ddarparwyr gofal sy'n gallu darparu amser galw o fewn y band hwn. Yna bydd y darparwr gofal a ddewisir yn rhoi amcangyfrif o amser galw cynlluniedig i chi.

Weithiau efallai na fydd gofal ar gael yn eich bandiau amser dewisol. Os bydd hyn yn digwydd, gofynnir i chi p'un a fyddech yn fodlon derbyn galwadau ar adeg arall am gyfnod byr (oni bai fod risg amlwg i'ch iechyd). Yna bydd eich darparwr gofal yn gweithio i symud eich amserau galw i'ch dewis delfrydol cyn gynted â phosibl.

Beth fydd yn digwydd os na fydd fy ngweithiwr gofal yn cyrraedd mewn pryd?

Bydd gweithwyr gofal bob amser yn gwneud eu gorau i fod gyda chi ar yr amser y cytunwyd arno, ond weithiau byddant yn wynebu oedi na ellir ei osgoi, megis tarfu ar deithio neu angen treulio ychydig mwy o amser gyda rhywun sydd angen cymorth. Mae hyn yn golygu y gall fod adegau pan fydd eich gweithiwr gofal yn cyrraedd ychydig yn gynt neu'n hwyrach na'r disgwyl.

Bydd eich darparwr gofal yn cysylltu â chi os bydd newid sylweddol i'ch ymweliad.

Beth yw Monitro Galwadau Electronig?

Mae Monitro Galwadau Electronig yn system sy'n cofnodi pryd mae ymweliadau gofal wedi dechrau ac wedi gorffen a pha alwadau sydd wedi'u gohirio neu eu methu. Gellir ei defnyddio i sicrhau bod unigolion a gweithwyr gofal yn ddiogel.

Gyda'ch caniatâd, efallai y bydd angen i weithwyr gofal ddefnyddio'ch ffôn am amser byr pan fyddant yn cyrraedd a gadael pob galwad. Mae'r galwadau hyn am ddim ac ni chodir tâl arnoch amdanynt.

Mae Cyngor Sir Penfro yn defnyddio'r wybodaeth y mae'r system Monitro Galwadau Electronig yn ei chasglu i wella gwasanaethau gofal felly mae'n bwysig ei bod yn cael ei defnyddio lle bynnag y bo modd.

Mae fy anghenion gofal a chymorth wedi newid – beth ddylwn i ei wneud?

Os bydd eich anghenion gofal a chymorth yn newid, siaradwch â’ch darparwr gofal yn y lle cyntaf. Gall wedyn gytuno ar unrhyw newidiadau gyda'ch gweithiwr cymdeithasol. Os hoffech siarad am unrhyw newidiadau gyda gweithiwr cymdeithasol yn uniongyrchol, cysylltwch â Chyngor Sir Penfro drwy ffonio 01437 764551.

Sut telir am ofal cartref? 

Gallwch chi drefnu a thalu am ofal cartref eich hun. Os byddwch yn prynu cymorth yn breifat, gallwch ddewis y math o gymorth a gewch a'r swm yr ydych ei eisiau.

Os oes gennych chi anghenion gofal a chymorth cymwys y mae’r Cyngor yn gyfrifol amdanynt, yna bydd yn trefnu i ddarparwr gofal ddarparu’r gwasanaeth hwn. Mae hwn yn wasanaeth y codir tâl amdano, sy'n golygu efallai y gofynnir i chi wneud cyfraniad tuag at gost eich gofal. Mae’r taliad hwn yn seiliedig ar brawf modd ac mae uchafswm cyfraniad wythnosol y gellid gofyn i chi ei wneud. 

Cyfrifir taliadau ar sail y gofal a gewch. Gall canslo galwadau gofal gyda llai na 24 awr o rybudd olygu y codir tâl arnoch. Lle bynnag y bo modd, ceisiwch roi cymaint o rybudd ag y gallwch i'ch darparwr os ydych am ganslo unrhyw ymweliadau gofal. Gall hyn helpu darparwyr gofal i gynllunio'n well a bydd yn golygu llai o darfu ar eich gweithwyr gofal.  

Os ydych yn newydd i ofal cartref, byddwch yn cael ffurflen asesiad ariannol a thaflen ffeithiau drwy'r post. Bydd y rhain hefyd yn cynnwys rhagor o fanylion am yr holl faterion ariannol sy'n ymwneud â gofal cartref. Unwaith y byddwch wedi ei chwblhau a'i dychwelyd atom, byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd angen i chi wneud unrhyw gyfraniad.

Os bydd eich sefyllfa ariannol yn newid ar unrhyw adeg, rhowch wybod i ni a gallwn drefnu i asesiad newydd gael ei gwblhau.

Os ydych chi'n poeni na fyddech chi'n gallu fforddio talu am gymorth yn y cartref, mae'n bwysig sicrhau eich bod chi'n derbyn yr holl fudd-daliadau rydych chi'n gymwys i'w cael. Mae yna nifer o sefydliadau lleol sy'n gallu darparu cyngor ar fudd-daliadau a hawliadau. Os ydych eisiau mwy o wybodaeth, siaradwch â'ch gweithiwr cymdeithasol.

Mae yna bethau eraill mae arnaf angen cymorth gyda nhw na fydd y Cyngor yn talu amdanyn nhw. Gyda phwy y dylwn i siarad?

Weithiau efallai y byddwch am gael cymorth gyda thasgau o gwmpas y tŷ nad ydynt yn gymwys i gael cyllid gan y Cyngor. Mae’n bosibl y gall eich darparwr gofal, neu wasanaeth arall, eich helpu gyda’r rhain fel rhan o drefniant preifat yr ydych yn talu amdano.

Mae yna hefyd ystod anhygoel o grwpiau cymunedol, gweithgareddau a chefnogaeth ar gael yn Sir Benfro a all eich helpu i gwrdd â phobl eraill, mynd allan, aros yn iach a heini, neu gymryd rhan mewn pethau fel gwirfoddoli. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Hwb Cymunedol Sir Benfro ar:

Ffôn: 01437 723 660

E-bostenquiries@pembrokeshirecommunityhub.org 

Dydw i ddim yn hapus gyda fy ngofal cartref – beth ddylwn i ei wneud?

Os nad ydych yn hapus â’ch gofal a chymorth, yn y lle cyntaf dylech gysylltu â’ch darparwr gofal a mynegi eich pryderon. Gallwch wneud hyn yn anffurfiol neu fel cwyn ffurfiol.

Os nad yw hynny’n datrys y mater, gallwch gysylltu â’r Cyngor drwy eich gweithiwr cymdeithasol neu gysylltu â Thîm Cwynion Cyngor Sir Penfro ar:

Ffôn: 01437 764551

E-bost: socialcarecomplaints@pembrokeshire.gov.uk neu drwy’r

Post: Swyddog Cwynion, Ystafell 2G, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP

Os oes angen cymorth arnoch i leisio’ch barn ac i gael rhywun i wrando arnoch, gallwch gysylltu â 3CEPA, sy’n darparu gwasanaeth Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol am ddim.

Gallwch gysylltu â nhw ar:

Ffôn: 0800 206 1387

E-bostinfo@cipawales.org.uk  

 

Gwybodaeth ychwanegol

ID: 9874, adolygwyd 11/09/2023