Dewis gwasanaethau gofal cartref

Gwasanaethau Eraill

Os nad oes arnoch angen gofal personol na gofal nyrsio, efallai y byddech yn hoffi cysylltu â sefydliadau sy’n cynnig gwasanaethau gofal cartref eraill. Nid yw’r gwasanaethau hyn yn gorfod cael eu cofrestru na’u harolygu ar hyn o bryd. Maent yn cynnwys cymorth domestig, siopa, cludiant / gyrwyr, cwmni, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau cadw cwmni, garddio a phrydau bwyd. Pan fyddwch yn cysylltu ag unrhyw sefydliad dylech holi beth yn union y gallant ei gynnig ac a allant ei ddarparu yn ardal eich cartref chi. Mae llawer o sefydliadau’n cynnig y gwasanaethau hyn fel rhan o becyn gofal, ond mae’n bosibl i chi hefyd gael gafael ar wasanaethau yn unigol – gweled Cynnal Annibyniaeth am ragor o fanylion.

ID: 2148, adolygwyd 14/07/2022