Dewis gwasanaethau gofal cartref
Mathau o Ofal
Gofal personol
Yn golygu help â phethau fel codi yn y bore, mynd i’r gwely, gwisgo, dadwisgo, ymolchi, mynd i’r bath, glendid personol, bwyta ac yfed, defnyddio’r tŷ bach, rheoli anymataledd, gofal dannedd a dannedd gosod. Mae hefyd yn cynnwys help âthasgau sy’n gysylltiedig ag iechyd sy’n cael eu gwneud dan gyfarwyddyd meddyg neu nyrs gymunedol. Mae’n rhaid i bob sefydliad sy’n cynnig gofal personol gofrestru gydag AGGCC.
Gofal nyrsio
Gan nyrsys cymwysedig, a gall gynnwys tasgau fel newid gorchudd briw neu roi pigiadau yn ogystal â gofal nyrsio cyffredinol. Rhaid i bob sefydliad sy’n cynnig gofal nyrsio fod wedi ei gofrestru gydag AGGCC.
Gofal nos
Gall sefydliadau ddarparu gofal nos lle mae rhywun yn cysgu neu’n aros yn effro. Pan fyddwch yn cysylltu â sefydliad dylech nodi’n glir pa fath o ofal sydd ei angen arnoch. Os yw’n cynnwys unrhyw ofal personol neu ofal nyrsio, yna bydd angen i’r sefydliad fod wedi ei gofrestru gydag AGGCC.
Cymorth byw i mewn
Olygu pob math o bethau, o help am ychydig ddiwrnodau mewn argyfwng i help hirdymor. Os yw gofal personol neu ofal nyrsio’n cael ei gynnwys, bydd angen i sefydliadau sy’n cynnig cymorth byw i mewn fod wedi eu cofrestru gydag AGGCC.