Dewis gwasanaethau gofal cartref
Pwy all ddarparu cymorth yn eich cartref?
Cymorth gan sefydliadau preifat a gwirfoddol
Mae llawer o ddarparwyr gwasanaethau gofal yn Sir Benfro y gallwch brynu gofal ganddynt.
Cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt am restr o ddarparwyr sy’n cyflawni’r fframwaith. Ffôn: 01437 764551
Gallwch hefyd gysylltu â AGC am restr o ddarparwyr cofrestredig.
Ffôn: 0300 7900 126
I gael manylion am fudiadau gwirfoddol a all eich helpu, cysylltwch â PAVS.
Ffôn: 01437 769422
Cymorth gan Wasanaethau Oedolion Cyngor Sir Penfro
Bydd yr adran Gwasanaethau Oedolion yn helpu pobl, sy’n gymwys i gael cymorth ganddi, i nodi pa adnoddau a chefnogaeth y gallant eu cael er mwyn eu galluogi i gadw neu gynnal eu hannibyniaeth lle bo modd. Dim ond i bobl sydd angen llawer iawn o gymorth y bydd cymorth yn y cartref yn cael ei drefnu; er enghraiff, pobl sydd angen cymorth â’u gofal personol a phobl sydd newydd ddod o’r ysbyty.
Ail-alluogi
Cefnogaeth tymor byr yw ailalluogi sy’n cyflawni anghenion unigol ac sy’n helpu adfer annibyniaeth yn y gymuned ar ôl cyfnod byr o salwch, cyfnod yn yr ysbyty neu ar ôl colli hyder, er mwyn rhwystro cleifion rhag gorfod mynd yn ôl i’r ysbyty yn ddiangen. Y nod yw sicrhau bod y sgiliau a’r hyder angenrheidiol gennych i fyw’n ddiogel yn eich cartref eich hun, heb fod angen gofal tymor hir. Mae cefnogaeth ailalluogi yn gallu cynnwys defnyddio cyfarpar a chymhorthion sy’n eich galluogi i wneud pethau eich hunan. Gallai’r cymorth cychwynnol ddod gan y Gwasanaethau Oedolion, â gofal hirdymor parhaus yn cael ei ddarparu gan ddarparwyr gwasanaethau eraill.
Ffôn: 01437 764551
E-bost: ymholiadau@sir-benfro.gov.uk