Cwestiynau Cyffredin
Ble alla’ i gael cyngor ar farchnata a hyrwyddo?
Wrth farchnata'ch digwyddiad, meddyliwch am ddefnyddio e-bost, cyfryngau cymdeithasol neu'r Rhyngrwyd i gyfathrebu â'ch cynulleidfa darged.
Bydd cynhyrchu llai o ddeunydd marchnata papur yn gwella cynaliadwyedd eich digwyddiad a gallai leihau eich costau.
Efallai y byddwch hefyd am hyrwyddo opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy trwy roi gwybodaeth am fysiau lleol, mapiau llwybrau cerddwyr o'r gorsafoedd trên neu fysiau agosaf a /neu ddolenni i wefannau eraill sy'n rhoi'r wybodaeth hon.
Gallai nawdd gan gwmnïau lleol hyrwyddo eich digwyddiad hefyd oherwydd bod pobl yn hoffi’r wybodaeth ac oherwydd ei phoblogrwydd.
I gael sylw lleol i’ch digwyddiad yn Sir Benfro, ystyriwch hysbysebu ar Croeso Cymru (yn agor mewn tab newydd), Radio Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd), a What's on Pembs (yn agor mewn tab newydd), ynghyd â gwefannau cymunedol.