Iechyd a Diogelwch
Iechyd a Diogelwch
Fel trefnydd digwyddiad, boed yn gwmni, unigolyn, elusen neu grŵp cymunedol, chi sydd â’r prif gyfrifoldeb a rhwymedigaeth yn ôl y gyfraith, am ddiogelu iechyd, diogelwch a lles pawb sy'n gweithio yn y digwyddiad, neu'n mynychu'r digwyddiad.
Mae Rhestr Wirio Trefnydd Digwyddiadau ESAG Sir Benfro yn offeryn defnyddiol a fydd yn mynd â chi trwy gyfres o gamau i helpu i sicrhau eich bod yn gwneud yr hyn y mae angen i chi ei wneud.
Os ydych chi'n cynnal gweithgaredd chwaraeon megis triathlon, digwyddiad nofio yn y môr, canŵio, digwyddiad yn ymwneud â rasio ceffylau neu rasio ceir modur yna mae'n rhaid i chi hefyd ddilyn canllawiau'r corff llywodraethu cenedlaethol perthnasol.
Rhoddir arweiniad ar iechyd a diogelwch mewn digwyddiadau ar wefan benodol yn ymwneud â diogelwch digwyddiadau yn Health and Safety Executive. Mae'r wefan hon yn rhoi gwybodaeth i helpu trefnwyr digwyddiadau ddeall eu dyletswyddau cyfreithiol ynghylch iechyd a diogelwch, cynllunio digwyddiad, adolygu digwyddiad ar ôl iddo orffen a chynllunio ar gyfer digwyddiadau ac argyfyngau. Mae HSE hefyd yn rhoi canllawiau manwl ar bynciau iechyd a diogelwch perthnasol i helpu trefnwyr digwyddiad gyda'r asesiad risg.
Ni fwriedir i'r deunydd manwl ar wefan HSE gael ei ddyblygu yma felly mae'n hanfodol fod pob trefnydd digwyddiad yn adolygu'r deunydd ar wefan HSE yn uniongyrchol.