Iechyd a Diogelwch
Clefyd Coed
Beth yw clefyd coed ynn?
Ffwng yw clefyd coed ynn (Hymenoscyphus fraxineus) a darddodd yn Asia. Nid yw’n achosi llawer o niwed i goed ynn ei ranbarth brodorol, sef yr ynn Manchurian (Fraxinus mandshurica) a’r ynn Tsieineaidd (Fraxinus chinensis). Fodd bynnag, mae’r clefyd wedi cael effaith andwyol ar goed ynn Ewropeaidd (Fraxinus excelsior) ar ôl iddo gael ei gyflwyno i Ewrop oddeutu 30 mlynedd yn ôl, oherwydd ni wnaeth coed ynn Ewropeaidd esblygu gyda’r ffwng, gan olygu nad oes ganddynt amddiffyniad naturiol yn ei erbyn.
Sut olwg sydd ar glefyd coed ynn?
Mae clefyd coed ynn yn gallu effeithio ar goed ynn o bob oed. Yn gyffredinol, mae coed iau yn ildio’n gynt i’r clefyd a bydd gan bob coeden sy’n cael ei heffeithio y symtomau canlynol:
- Bydd y dail yn datblygu smotiau tywyll yn ystod yr haf
- Bydd y dail yn gwywo ac yn troi’n ddu. Efallai bydd y dail yn cwympo’n gynnar
- Bydd y clefyd yn amlwg ar y blagur a’r dail yn ystod yr haf
- Bydd creithiau’n datblygu lle mae’r brigau’n cwrdd â’r boncyff. Yn aml, bydd siâp diemwnt ar y creithiau a byddant yn frown tywyll
- Bydd lliw brown-lwyd ar risgl mewnol y coed, o dan y creithiau
- Bydd blagur segur yn dechrau tyfu ymhellach i lawr y boncyff. Gelwir hyn yn dyfiant epicormig, ac mae’n ymateb cyffredin i straen mewn coed.
Beth fydd yn digwydd i’r goeden?
Bydd y clefyd yn effeithio ar goed ynn trwy rwystro’r systemau cludo dŵr, gan achosi i’r coed golli dail, a bydd creithiau’n ymddangos ar y pren a’r rhisgl. Yn y pen draw, bydd hynny’n achosi i gorun y goeden farw.
Dros gyfnod, bydd y coed yn mynd yn fregus a bydd y brigau’n torri i ffwrdd o brif gorff y goeden. Os nad yw’r coed yn cael eu trin, efallai y byddant yn cwympo, gan achosi perygl uniongyrchol i’r ardal gyfagos.
Mae’r coed yn gallu brwydro’n ôl, ond byddant yn marw yn y pen draw os bydd y clefyd yn dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Beth i’w wneud os byddwch yn gweld clefyd coed ynn
Gwiriwch y map rhyngweithiol i weld a ydych mewn ardal sy’n rhydd o glefyd coed ynn. Os ydych chi ac yn meddwl eich bod wedi gweld yr arwyddion a’r symptomau, rhowch wybod amdanynt trwy TreeAlert.
Gall garddwyr a rheolwyr parciau a safleoedd eraill sydd â choed ynn helpu i atal y clefyd rhag lledaenu’n lleol trwy gasglu a llosgi’r dail ynn sydd wedi cwympo, a’u claddu neu’u compostio nhw’n ddwfn. Mae hyn yn amharu ar gylch oes y ffwng.
Os ydych chi’n rheoli coetir, mae mwy o arweiniad ar gael gan y Comisiwn Coedwigaeth.
Os oes gennych chi goed ynn ar eich tir a allai gwympo ar dir, ffyrdd neu eiddo cyfagos, mae’n bwysig bod y coed yn cael eu hasesu gan goedyddiwr cymwys neu brofiadol, er mwyn sefydlu eu cyflwr a lefel y risg.
Sut gallwch chi helpu
- Golchwch eich esgidiau cyn ac ar ôl ymweld â choedwig.
- Peidiwch â chymryd toriadau neu ddeunydd planhigion o gefn gwlad.
- Golchwch olwynion eich car neu feic er mwyn gwaredu llaid neu ddeunydd planhigion.
Cwestiynau Cyffredin
Pa asesiad y mae’r Cyngor wedi’i wneud o effaith bosibl clefyd coed ynn yn Sir Benfro a pha strategaeth sydd ar waith i ymdopi?
Mae Cyngor Sir Penfro’n mynd i’r afael â chlefyd coed ynn yn y rhanbarth gyda’r bwriad o baratoi ‘Strategaeth Clefyd Coed Ynn’ er mwyn cyfrifo nifer y coed sydd o dan ein cyfrifoldeb ni ac i ddatblygu strategaeth ar gyfer eu trin.