Iechyd a Diogelwch
Defnyddio rhwystrau mewn digwyddiadau
Os penderfynwch ddefnyddio rhwystrau a ffensys fel teclyn rheoli torfeydd, dylent gael asesiad risg. Gan ddibynnu ar gymhlethdod y risg a’r rhwystr/au, efallai y bydd angen ffynhonnell sy’n rhoi cyngor cymwys i chi i'ch helpu. Gellir defnyddio rhwystrau i:
- reoli'r dorf i sicrhau bod y llwybrau'n glir i'r cyfranogwyr
- wahanu'r dorf oddi wrth berfformwyr neu gyfranogwyr
- amddiffyn y cyhoedd yn erbyn peryglon penodol megis symud peiriannau, barbeciws, cerbydau ac unrhyw arddangosfeydd peryglus eraill.
Am ganllawiau llawn a chynhwysfawr: Health and Safety Executive
ID: 4779, adolygwyd 08/03/2023