Iechyd a Diogelwch
Diogelwch Tan
Mae angen i chi wneud yn siŵr, yn seiliedig ar ganfyddiadau'r asesiad, eich bod yn cymryd mesurau diogelwch tân digonol a phriodol i leihau'r perygl o anaf neu golli bywyd os bydd tân. Bydd hyn yn cynnwys:
- Hyfforddiant ar gyfer personél perthnasol
- Dull o ganu larwm rhag ofn tân
- Gweithdrefn gwacáu
- Mynediad i wasanaethau brys
- Arwyddion a goleuadau argyfwng
- Llwybrau dianc ac allanfeydd tân addas
- Darparu offer diffodd tân addas
- Mesurau i reoli peryglon megis coginio, eitemau trydanol, silindrau nwy, eitemau llosgadwy a llosgi bwriadol
Dylai eich asesiad risg tân fod yn seiliedig ar ddogfen Ganllaw Llywodraeth EM: Asesiad Risg Diogelwch Tân, Digwyddiadau Awyr Agored a Lleoliadau
ID: 4784, adolygwyd 03/10/2023