Iechyd a Diogelwch

Rheoli Torfeyd

Fel blaenoriaeth gynnar, dylai trefnwyr sefydlu eu bod yn gallu rheoli torf yn ddiogel ar gyfer y math o ddigwyddiad ac yn y lleoliad a ddewiswyd. Hyd yn oed os yw'r digwyddiad yn rhad ac am ddim neu'n digwydd ar strydoedd neu mewn mannau agored, dylech barhau i ddefnyddio'r un egwyddorion rheoli torfeydd er mwyn helpu i’w wneud mor ddiogel â phosib. Unwaith y byddwch wedi asesu'r risgiau, dylech greu cynllun rheoli torfeydd. Defnyddiwch unrhyw luniadau dylunio lleoliad / safle  i'ch helpu gyda hyn.

Dylid ystyried trefniadau stiwardio a diogelwch hefyd fel rhan o'ch cynllun rheoli torfeydd.

Am ganllawiau llawn a chynhwysfawr: Health and Safety Executive

ID: 4777, adolygwyd 08/03/2023