Iechyd a Diogelwch

Strwythurau Dros Dro y gellir eu Tynnu i Lawr (TDS)

Mae TDS yn cynnwys pebyll mawr, llwyfannau, rhwystrau, sgriniau, gantrïau goleuadau, llwyfannau seddi, tyrau sain, gosodiadau celf, teganau gwynt.

Dylai contractwyr / dylunwyr TDS a gyflogir i ddylunio, cyflenwi, adeiladu, rheoli a chymryd strwythur i lawr i chi, fod yn gymwys a chael digon o adnoddau.  Dylai eich contractwr TDS sicrhau bod y strwythur arfaethedig wedi'i ddylunio i ystyried y defnydd a'r amodau y bydd yn cael ei osod ynddynt. Dylai'r strwythur gael ei wirio i sicrhau ei fod wedi'i adeiladu yn ôl y dyluniad.

Dylid cael tystysgrif diogelwch gan y contractwyr fel cofnod bod pob TDS wedi'i wirio.

Am ganllawiau llawn a chynhwysfawr: Health and Safety Executive

ID: 4776, adolygwyd 08/03/2023