Iechyd a Diogelwch

Ydych chi wedi cynllunio ar gyfer digwyddiadau ac argyfyngau?

Rhaid i chi fod â chynlluniau ar waith i ymateb yn effeithiol i ddigwyddiadau iechyd a diogelwch ac argyfyngau eraill a allai ddigwydd mewn digwyddiad. 

Dylai'r cynllun argyfwng hwn fod yn gymesur â lefel y risg a gyflwynir gan weithgareddau'r digwyddiad a maint a difrifoldeb posibl y digwyddiad

Dylid paratoi gweithdrefnau argyfwng i staff a gwirfoddolwyr eu dilyn os bydd digwyddiad / argyfwng sylweddol yn codi, ee tywydd gwael sydyn, tân neu fethiant strwythurol.

Dylai gynnwys mesurau wrth gefn i ddelio â digwyddiadau a sefyllfaoedd mor amrywiol ag act adloniant sy'n canslo ar fyr rybudd, tywydd garw, plant ar goll neu’r ffaith nad yw staff allweddol yn eich tîm ar gael.

Bydd angen i chi hefyd ystyried eich ymateb i argyfyngau mwy difrifol, gan gynnwys digwyddiadau mawr a fydd angen help gan y gwasanaethau brys a gweithredu eu cynlluniau argyfwng rhanbarthol.

Mae'r Swyddfa Ddiogelwch Gwrthderfysgaeth Genedlaethol wedi cynhyrchu cyngor penodol i helpu i liniaru'r bygythiad o ymosodiad terfysgol mewn mannau llawn pobl.

Gofalwch y bydd gennych ddigon o gymorth meddygol ac ambiwlansys ar y safle a chysylltwch â'ch gwasanaeth GIG a’ch gwasanaeth ambiwlans lleol er mwyn iddynt allu cydbwyso'ch anghenion yn erbyn eu capasiti lleol ac egluro sut y bydd cleifion yn cael eu cludo i'r ysbyty.  Mae ‘purple guide’ Fforwm y Diwydiant Digwyddiadau  yn cynnwys enghreifftiau cymorth cyntaf ac asesiadau meddygol ar gyfer cynulleidfa mewn digwyddiad.

Os bydd unrhyw ddamwain neu ddigwyddiad peryglus yn digwydd, rhaid cymryd camau i atal unrhyw ddigwyddiadau pellach rhag digwydd; dylai'r digwyddiad gael ei gofnodi a dylid rhoi gwybod amdano yn unol â RIDDOR; a dylid cael enwau a chyfeiriadau tystion, dylid tynnu ffotograffau a dylai trefnydd y digwyddiad lunio adroddiad.  Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i'ch cwmni yswiriant eich hun.

Cynlluniwch lwybrau dianc, arwyddion ymadael a golau i helpu gyda gwacáu adeiladau ac ati ynghyd â dulliau cyfathrebu. I gael canllawiau pellach ar lwybrau dianc a strategaethau gweler y Canllaw i ddiogelwch ar diroedd chwaraeon  a chanllawiau asesu risg diogelwch tân

ID: 4774, adolygwyd 08/03/2023