Dinbych-y-Pysgod i Gerddwyr

Parth Cerddwyr Dinbych-Y-Pysgod

Pob haf mae canol Dinbych-y-pysgod yn barth rhydd o gerbydau’n bennaf.

Mae’r Dref Gaerog ar gyfer cerddwyr yn unig rhwng 11am – 5.30pm bob dydd o’r Dydd Llun 1 mis Gorffennaf i’r ddydd Gwener 13 ym mis Medi.

Bydd y cynllun yn gweithredu’n union fel y gwnaeth mewn blynyddoedd blaenorol gyda chyfyngiad ar symudiadau traffig o fewn parthau dwyreiniol, gorllewinol a chreiddiol y Dref Gaerog.

Ceisiadau am Hawlenni Mynediad

Mae’r ffordd y caiff ffurflenni gwneud cais am hawlen eu gweinyddu wedi newid a chânt eu cyflwyno ar-lein bellach. Mae’r ddolen i wneud cais am hawlen Ddwyreiniol, Orllewinol a Chreiddiol i’w gweld uchod. Dylid eu llenwi a’u dychwelyd i’w gweinydd. Fe gaiff yr hawlenni perthnasol eu postio’n ôl rhyw 7-10 diwrnod cyn dechrau’r cynllun.

Mae nodiadau esboniadol yn egluro beth yw ‘taith oddefedig’ a chynllun yn dangos y tri pharth i’w cael hefyd drwy’r dolenni isod.

Sylwch: os ydych yn meddu ar drwydded Aur Harbwr neu drwydded Parcio Arian ar gyfer y cynlluniau parcio i breswylwyr yn Lower Frog Street, St Julians Terrace, Ardal yr Harbwr neu Paragon, nid oes gofyniad i wneud cais am hawlen mynediad gan fod eich hawlen yn ddilys ar gyfer mynediad i'r Dref Gaerog yn ystod oriau'r cynllun.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Tenby.pedestrian@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch 01437 764551.

Nodiadau Cyfarwyddyd

Cyffredinol

Eleni bydd y cynllun yn dechrau Ddydd Llun 1 Gorffennaf ac yn dod i ben Ddydd Gwener 13 Medi 2024. Yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol, bydd y gorchymyn yn cyflwyno graddau amrywiol o reolaeth ar symudiad cerbydau yn nhair ardal y Dref Gaerog. Y rhain yw'r ardal graidd, yr ardal orllewinol a'r ardal ddwyreiniol.

Yr Ardal Graidd

Mae hyn yn perthyn i'r High Street (o'r gyffordd gyda Crackwell Street a Tudor Square), Tudor Square, Church Street a St Nicholas Lane.  Bydd yr ardal hon yn rhydd o draffig ac eithrio fel a ganlyn:

a) Mynediad i briodas ar gyfer hyd at dri char. Awdurdodiad i gerbydau ychwanegol o dan amgylchiadau eithriadol i gael ei bennu gan y Pennaeth Isadeiledd.

b) Mynediad i orymdaith o geir angladd a cherbydau perthnasau agos ac unigolion â symudedd cyfyngedig trwy oed neu  wendid sy'n mynychu'r angladd.

c) Symudiadau cerbydau fel y cytunwyd gan y Pennaeth Isadeiledd neu Swyddog wedi'i awdurdodi ganddo ef yn y cyswllt hwnnw.

Yr Ardal Orllewinol

Mae hyn yn perthyn i Lower Frog Street, Upper Frog Street, St Georges Street, St Marys Street, Paragon, Cresswell Street, Cob a Tor Lane. Bydd symudiad ceir a ganiateir yn unol â'r hyn sydd yn y 'Mynediad a Ganiateir yn Gyffredinol' ac fel a ganlyn:

a) Mynediad gan berchnogion busnes a phreswylwyr i eiddo ac ardaloedd parcio oddi ar y ffordd ar y strydoedd uchod, yn amodol ar rifau cofrestru cerbydau yn cael eu rhoi i'r Cyngor.

b) Mynediad gan ffrindiau a pherthnasau i ymweld â phreswylwyr ble mae lle parcio ceir priodol ar gael.

c) Mynediad gan dacsis.

d) Mynediad ar gyfer dosbarthu nwyddau darfodus.

Yr Ardal Ddwyreiniol

Mae hyn yn perthyn i Bridge Street, Crackwell Street, High Street (o'r gyffordd gyda Crackwell Street â'r gyffordd gyda White Lion Street). St Julian Street, Sergeants Lane, Lexden Terrace, ffyrdd ac ardaloedd parcio yn ardal yr Harbwr. Bydd symudiad ceir a ganiateir fel sydd yn y 'Mynediad a Ganiateir yn Gyffredinol' ac fel a ganlyn yn amodol ar hysbysu'r Cyngor o rifau cofrestru'r cerbyd.

a) Mynediad gan berchnogion busnes a phreswylwyr i eiddo ac ardaloedd parcio oddi ar y ffordd ar y strydoedd uchod.

b) Mynediad gan ddeiliaid trwydded harbwr i fannau parcio penodol yn yr harbwr.

c) Mynediad i breswylwyr Ynys Bŷr

d) Mynediad i'r Harbwr i ddosbarthu / casglu nwyddau swmpus neu ddarfodus sydd ar eu ffordd draw at/oddi ar Ynys Bŷr.

e) Mynediad i'r Harbwr i gasglu symiau sylweddol o bysgod neu ddalfeydd morol eraill na ellir disgwyl yn rhesymol iddynt aros i'w casglu hyd at 5.30pm.

f) Mynediad i'r Harbwr i gyflwyno cyfeintiau mawr o danwydd ar gyfer hwyliadau llanw ble ceir storfa danwydd amgen annigonol.

g) Mynediad graddol i'r Harbwr mewn cysylltiad â digwyddiadau arfaethedig mawr megis priodasau ac angladdau yng Nghapel St Julian.

h) Mynediad trwy'r Harbwr at draethau ar gyfer faniau gwerthu symudol cymeradwy a gyfyngir fel arall am fwy na dwy awr gan y llanw. Faniau gwerthu symudol yn gadael yr Harbwr pan fydd amodau'r tywydd yn symud cwsmeriaid o'r traethau.

i) Mynediad gan bersonél gwylwyr y glannau a bad achub sy'n ymateb i argyfwng.

j) Mynediad gan thacsis.

k) Mynediad ar gyfer dosbarthu nwyddau darfodus.

l) Mynediad gan ffrindiau a pherthnasau i ymweld â phreswylwyr ble ceir parcio priodol 

Mynediad a Ganiateir yn Gyffredinol

Bydd mynediad yn cael ei gynnal ar gyfer yr isod:- Mynediad ar gyfer cerbydau brys; meddygon sy'n ymateb i argyfyngau meddygol; mynediad gan bersonél meddygol gyda chyfarpar trwm; crefftwyr gyda chyfarpar trwm sy'n ymgymryd â gwaith atgyweirio brys; cyfarpar i glirio carthffosydd, draeniau neu rigolau wedi'u rhwystro; dosbarthu pryd ar glud; gofalwyr sy'n cludo'r unigolyn sy'n derbyn y gofal i mewn neu allan o'r dref ar gyfer adferiad neu hamdden; tynnu neu atgyweirio cerbydau i symud cerbydau sydd wedi torri; dosbarthu cerbydau sydd wedi'u hoedi gan fethiannau neu amodau traffig eithriadol; symud dodrefn; y cerbyd trydanol ar gyfer casglu sbwriel neu wastraff; a symudiadau cerbydau fel y cytunwyd gan y Pennaeth Isadeiledd neu Swyddog wedi'i awdurdodi ganddo ef yn y cyswllt hwnnw.

Am ymholiadau pellach cysylltwch â:

Adran Draffig,

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

Sir Benfro,

SA611TP

e-bost:Tenby.pedestrian@pembrokeshire.gov.uk

Hysbysiad Preifatrwydd

 

 

 

 

 

ID: 6388, revised 01/05/2024