Diogelu Oedolion a Phlant

Diogelu

Os oes gennych chi neu eraill bryderon ynghylch llesiant plentyn, unigolyn ifanc neu oedolyn, rhaid i chi roi gwybod amdano ar unwaith i'r Tîm Asesu Gofal Plant neu i'r Tîm Diogelu Oedolion.

Peidiwch byth â chymryd yn ganiataol y bydd rhywun arall yn rhoi gwybod am eich pryderon.Dylech gymryd camau cadarnhaol a rhoi gwybod i rywun ar unwaith. Ni ddylid disgwyl i blant nac oedolion sydd mewn perygl gymryd cyfrifoldeb amdanynt eu hunain neu eraill.

Derbyn

  • Gwrandewch yn ofalus ar yr hyn sy'n cael ei ddweud, heb arddangos syfrdandod nac anghrediniaeth. Derbyniwch yr hyn a ddywedir ac er y gall y plentyn, yr unigolyn ifanc neu'r oedolyn sydd mewn perygl ac yn gwneud yr honiad fod yn hysbys i chi fel rhywun nad yw bob amser yn dweud y gwir, ni ddylai hyn ddylanwadu ar eich dyfarniad nac annilysu eu honiad. Peidiwch â cheisio ymchwilio i'r honaid.

Cysuro

  • Rhowch sicrwydd, byddwch yn onest a pheidiwch â gwneud addewidion na allwch eu cadw, e.e. 'Mi wna' i aros gyda chi, neu 'Bydd popeth yn iawn nawr'
  • Ceisiwch leddfu euogrwydd, os yw'r unigolyn yn cyfeirio at hynny e.e. 'Nid chi sydd ar fai. Nid eich bai chi yw hyn'
  • Peidiwch ag addo cyfrinachedd oherwydd bydd angen i chi drosglwyddo'r wybodaeth ymlaen ac mae angen i'r plentyn, yr unigolyn ifanc neu'r oedlyn sydd mewn perygl wybod hyn

 Ymateb

  • Gallwch ofyn cwestiynau ofyn cwestiynau ond ni ddyliad casglu mwy o wybodaeth nag sy'n angenrheidiol i egluro'r honiad, ac fel rheol dim ond siarad â'r unigolyn dan sylw yn uniongyrchol sydd ei angen. Mae'n well os gall yr unigolyn roi adroddiad heb ymyrraeth, ac heb i unrhyw gwestiynau gael eu gofyn. Gallwch annog yr unigolyn i ddweud wrthych beth ddigwyddodd yn ei eiriau ei hun trwy ddefnyddio awgrymiadau amhenodol a chwestiynau penagored fel 'esboniwch beth ddigwyddodd', 'disgrifiwch beth ddigwyddodd; 'a oes unrhyw beth arall rydych eisiau  ei ddweud?'
  • Y cwestiynau penagored mwyaf cyffredin yw'r rhai canlynol: Beth ddigwyddodd? Pryd ddigwydodd hyn? Pwy oedd yno? Peidiwch byth â gofyn 'pam', gan y gall hyn awgrymu eich bod yn trosglwyddo'r bai
  • Peidiwch â chasglu datganiadau 'tyst' oni bai fod y Tîm Asesu Gofal PLant/Tîm Diogelu Oedolion yn gofyn amdanynt a pheidiwch â gofyn i'r unigolyn ailadrodd ei honaid wrth rywun arall oherwydd efallai ei fod yn teimlo nad yw'n cael gredu a gall ei atgof o'r hyn a ddigwyddodd newid. Peidiwch â beirniadau'r troseddwr oherwydd gall fod gan y plentyn, yr unigolyn ifanc neu'r oedolyn sydd mewn perygl gysylltiad emosiynol cadaranhaol â'r unigolyn hwn o hyd

Cofnod

  • Cadwch gofnod cywir o'r hyn y mae'r unigolyn wedi'i ddweud yn ei eiriau ei hun, gan nodi unrhyw gwestiynau rydych wedi'u gofyn. Nodwch y dyddiad/blwyddyn a'r amser a chadwch eich nodiadau. Peidiwch â digio gyda defnydd o unrhyw iaith neu eiriau ymsodol a ddefnyddir i ddisgrifio'r cam-drin. Os ydych wedi gweld unrhyw glesio gweladwy, mae'n ddefnyddiol nodi'r lleoliad ond peidiwch â gofyn i'r unigolyn dynnu unrhyw ddilledyn at y diben hwn. Cofnodwch ddatganiadau ac gweladwy yn hytrach na'ch dehongliadau neu'ch rhagdybiaethau 

Cysylltwch â ni

Tîm Asesu Gofal Plant: 01437 776444

Tîm Diogelu Oedolion: 01437 776056

Rhif ffôn y Gwasanaethau Cymdeithasol y tu allan i oriau: 0300 333 2222

Heddlu

Mewn argyfwng galwch 999

Ddim yn argyfwng: 101

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (yn agor mewn tab newydd)

Cydweithio i ddiogelu plant (yn agor mewn tab newydd)

Gweithdrefnau Diogelu Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd) yw’r lle i fynd os ydych eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch helpu rhywun arall

ID: 2559, adolygwyd 06/08/2024