Diogelu Oedolion a Phlant
Atodiad 5 - Fframwaith Gwerthuso ar gyfer Archwiliad o Ddiogelu yn Sir Benfro
Yn unol â Pholisi Diogelu Corfforaethol Sir Benfro, mae disgwyl i bob sefydliad sy'n darparu gwasanaethau i oedolion sy’n wynebu risg, plant, pobl ifanc a theuluoedd, neu sy'n gweithio gyda hwy, gynnal archwiliad o'u harferion diogelu, yn seiliedig ar broses hunanwerthuso.
Mae'r fframwaith archwilio canlynol wedi'i rannu’n adrannau sy'n gysylltiedig â safonau gwahanol ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i chi feddwl am eich arferion a'ch gweithdrefnau eich hun o fewn eich cyfarwyddiaeth. Y bwriad yw rhoi dealltwriaeth i chi am ddiogelu yn eich maes gwasanaeth eich hun a sut y gellid datblygu'r rhain. Hefyd, mae'r archwiliadau’n rhoi trosolwg i Gyngor Sir Penfro dros arferion diogelu ar draws yr awdurdod lleol.
Mae'r offeryn archwilio wedi'i seilio ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.
Cwblhewch yr archwiliad canlynol a'i ddychwelyd i'r swyddog a enwir isod ar gyfer eich Cyfarwyddiaeth:
Meddyliwch yn ofalus am eich arferion a'ch gweithdrefnau eich hun yn eich lleoliad; cwblhewch yr archwiliad hyd eithaf eich gwybodaeth a meddyliwch sut y byddwch yn dangos tystiolaeth o'ch ymatebion. Cwblhewch y System CAG (Coch, Ambr, Gwyrdd – gweler isod) a lluniwch gynllun gweithredu gydag unrhyw gamau y mae eu hangen i wella diogelu yn eich maes gwasanaeth.
Rydym yn adolygu'r wybodaeth yr ydych yn ei rhoi i ni a byddwn yn darparu cyngor a chymorth ddilynol lle y bo'n briodol. Mae ein hadolygiad o'r wybodaeth yn helpu i hysbysu'r Cyngor wrth ddatblygu arferion diogelu ar lefel ehangach.
Bydd angen diweddaru'r archwiliad bob blwyddyn. Ceisiwch fod mor realistig a gonest ag y gallwch fod a defnyddiwch y ddogfen hon i'ch helpu i nodi eich sefyllfa bresennol o ran diogelu a gosod targedau/camau i wella.
Enw'r sefydliad/maes gwasanaeth:
Y sawl sy'n cwblhau'r archwiliad hwn:
Rôl/swydd:
Dyddiad cwblhau:
Dyddiad dychwelyd i'r all:
Rhestrwch isod yr Holl wasanaethau / sefydliadau unigol yr ydych yn gyfrifol amdanynt ac yn adrodd arnynt yn yr archwiliad hwn. Lle y bo’n berthnasol nodwch yn benodol yn eich archwiliad pa wasanaeth yr ydych yn gwneud sylwadau amdano. (er enghraifft ar y Ganolfan Hamdden, Canolfan Ddydd, Cartref Gofal, Tîm Gwaith Cymdeithasol, Meithrinfa, Clwb Brecwast, Clwb Ar Ôl Ysgol, Gweithgareddau Chwaraeon a.y.b.)
Safon 1. Arweinwyr Diogelu Dynodedig
Mae Arweinwyr Diogelu Dynodedig yn cyflawni rôl hanfodol o ran datblygu a gweithredu polisïau sy'n helpu i amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg o bob math o gam-drin a chreu amgylchedd diogel. Mae Arweinwyr Diogelu Dynodedig yn cymryd cyfrifoldeb yn eu lleoliad am reoli materion a phryderon am oedolion a phlant sy’n wynebu risg.
1.1: Mae Arweinydd Diogelu Dynodedig (ADD) ar gyfer Diogelu ac mae’r holl staff yn gwybod pwy yw’r unigolyn hwnnw
- Tystiolaeth:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
1.2: Mae Dirprwy Arweinydd Diogelu Dynodedig (i weithredu pan fydd yr ADD oddi ar y safle) ac mae’r holl staff yn gwybod pwy yw’r unigolyn hwnnw
- Tystiolaeth:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
1.3: Mae rôl yr Arweinydd Diogelu Dynodedig wedi’i diffinio'n glir mewn swydd-ddisgrifiad sy'n nodi eu cyfrifoldebau ym maes diogelu.
- Tystiolaeth:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
1.4: Mae'r ADD a'r dirprwy ADD wedi'u hyfforddi'n ddigonol ac yn cael eu cefnogi i gyflawni eu swyddi.
- Tystiolaeth: Rhowch fanylion y cyrsiau diogelu a fynychwyd gyda dyddiadau:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
Safon 2. Polisïau a Gweithdrefnau
2.1: Mae eich lleoliad wedi mabwysiadu Polisi Diogelu Sir Benfro yn ffurfiol (drwy'r corff llywodraethu / corff ymddiriedolwyr / corff rheoli perthnasol os yw'n briodol).
- Tystiolaeth: Rhowch y Dyddiad pan y’i mabwysiadwyd:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
2.2: Mae'r polisi diogelu wedi cael ei gyfleu i'r holl aelodau o staff ac mae'n cael ei weithredu yn eich lleoliad/sefydliad
- Tystiolaeth:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
2.3: Mae gan eich lleoliad ei bolisïau a gweithdrefnau diogelu ysgrifenedig ei hun sy'n cael eu hadolygu'n rheolaidd (o leiaf bob 3 blynedd)
- Tystiolaeth: Rhestrwch unrhyw bolisïau perthnasol gyda dyddiadau gan gynnwys dyddiadau adolygiadau a dyddiad yr adolygiad nesaf:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
2.4: Mae pob aelod o staff a gwirfoddolwr yn cael eu gwneud yn ymwybodol o’r holl bolisïau a gweithdrefnau diogelu a sut y caiff y rhain eu cymhwyso yn y lleoliad
- Tystiolaeth:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
2.5: Mae pawb sy'n defnyddio eich gwasanaeth yn cael eu gwneud yn ymwybodol o’r holl bolisïau a gweithdrefnau diogelu a sut y caiff y rhain eu cymhwyso o fewn y lleoliad
- Tystiolaeth:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
2.6: Rydyn ni'n hyderus bod pob gwasanaeth rydyn ni'n ei gomisiynu yn darparu safon ddiogelu sy'n gyson â'n gwasanaeth.
- Tystiolaeth:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
Safon 3. Atebolrwydd
3.1: Mae pob aelod o staff yn deall i bwy maen nhw'n uniongyrchol atebol ynghylch llesiant oedolion sy’n wynebu risg a phlant, a lefel yr atebolrwydd sydd ganddynt.
- Tystiolaeth: A yw hyn yn cael ei drafod mewn cyfarfodydd tîm ac arfarniadau staff? Sut mae hyn yn cael ei gofnodi?
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
3.2: Mae pob swydd-ddisgrifiad yn eglur ac yn cydnabod cyfrifoldebau am ddiogelu a hybu llesiant plant ac oedolion sy’n wynebu risg.
- Tystiolaeth:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
Safon 4: Gwrando ac Ymateb
4.1: Mae plant ac oedolion sy’n wynebu risg yn cael eu hannog i fynegi eu dymuniadau a'u teimladau gan gynnwys unrhyw bryderon a all fod ganddynt ynghylch niwed a chael eu cam-drin
- Tystiolaeth:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
4.2: Gwneir penderfyniadau priodol er mwyn amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n wynebu risg rhag niwed
- Tystiolaeth:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
4.3: Mae plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n wynebu risg yn teimlo'n ddiogel yn eich lleoliad a bod eu llesiant yn cael ei hybu
- Tystiolaeth:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
4.4: Rydym yn myfyrio ar yr hyn sydd wedi mynd yn dda a meysydd i'w gwella, ac yn sicrhau bod gwersi newydd yn cael eu gwreiddio
- Tystiolaeth: Sut y cyflawnir hyn?
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
Safon 5: Gweithio rhyngasiantaeth effeithiol i ddiogelu a hybu lles plant ac oedolion sy’n wynebu risg
5.1: Mae staff yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd a fforymau amlasiantaeth i ystyried anghenion a rhoi cymorth i blant unigol a'u teuluoedd ac oedolion sy’n wynebu risg.
- Tystiolaeth: Rhestrwch y cyfarfodydd perthnasol y mae eich lleoliad yn cymryd rhan ynddynt:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
5.2: Mae staff yn gallu adnabod pan fo angen cymorth ychwanegol ar blant ac oedolion sy’n wynebu risg, ac maent yn gallu gwneud yr atgyfeiriad priodol e.e. atgyfeiriadau at asiantaethau unigol eraill, atgyfeirio at y Tim Cymorth i Deuluoedd (y Tîm o Amgylch y Teulu yn y gorffennol), atgyfeirio at Wasanaethau Oedolion neu Wasanaethau Plant
- Tystiolaeth: Darparwch niferoedd yr atgyfeiriadau a wnaed at e.e. wasanaethau oedolion / plant
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
5.3: Mae unrhyw benderfyniadau a wneir neu gamau a gymerir mewn perthynas ag amddiffyn neu ddiogelu unigolion yn cael eu cofnodi’n briodol a'u cadw’n gyfrinachol.
- Tystiolaeth:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
5.4: Mae trefniadau yn eu lle i sicrhau bod gwybodaeth bersonol a chyfrinachol yn cael ei rhannu'n briodol ar draws lleoliadau /gwasanaethau.
- Tystiolaeth: A yw gwybodaeth ar gael yn ddiogel ar draws lefelau amrywiol o angen? Sut ydych chi'n gwybod y cydymffurfir â hyn?
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
Safon 6: Hyfforddiant Staff a Gwirfoddolwyr
6.1: Mae pob aelod o staff a gwirfoddolwr yn cael hyfforddiant priodol (ar y lefelau perthnasol) i'w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau diogelu.
- Tystiolaeth: Disgrifiwch eich trefniadau cadw cofnodion a sut mae eich lleoliad yn monitro hyn. Pa drefniadau sydd ar waith ar gyfer diweddariadau ac adnewyddu?
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
6.2: Mae'r holl staff a Gwirfoddolwyr yn cael eu hasesu mewn perthynas ag anghenion o ran hyfforddiant diogelu.
- Tystiolaeth: Sut y cyflawnir hyn?
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
6.3: Cedwir cofnod o'r holl hyfforddiant amddiffyn a diogelu oedolion/plant, ac mae hwn yn cael ei ddiweddaru fel y bo'n briodol.
- Tystiolaeth: Darparwch gopi o’ch cofnod hyfforddiant
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
6.4: Mae trefniadau ar waith i werthuso effaith ac effeithiolrwydd hyfforddiant a’r modd yr adnabyddir hyfforddiant amddiffyn a diogelu oedolion/plant.
- Tystiolaeth:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
Safon 7: Recriwtio Diogel
7.1: Mae pob aelod o staff a gwirfoddolwr yn cael gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn cael eu cyflogi os ydynt yn cymryd rhan mewn gweithgaredd a reoleiddir.
- Tystiolaeth: Disgrifiwch sut yr ydych yn monitro trefniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
7.2: Mae pob aelod o staff sy’n dod i gysylltiad â phlant, pobl ifanc ac oedolion sy’n wynebu risg yn cael eu dethol yn unol â'r Polisi Recriwtio Diogel ac yn cael gwiriadau priodol yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau presennol:
-
Gofynnir am eirdaon bob amser cyn penodi.
-
Mae hunaniaeth a chymwysterau'n cael eu gwirio.
-
Mae cofrestriad proffesiynol ar waith
-
Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb.
-
Mae hanes cyflogaeth flaenorol yn cael ei wirio.
-
Ymchwilir i unrhyw anghysonderau.
-
Cynhelir gwiriadau angenrheidiol cyn i'r cyflogai ymgymryd â'r swydd (e.e. y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd os ydynt yn cymryd rhan mewn gweithgaredd a reoleiddir).
- Tystiolaeth: Darparwch wybodaeth am unrhyw asesiadau risg mewn perthynas â’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yr ydych wedi’u cynnal ers yr archwiliad diwethaf: sut allwch chi fod yn hyderus bod penderfyniadau cadarn yn cael eu gwneud?
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
7.3: Mae polisi Recriwtio Diogel ar waith.
- Tystiolaeth:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
7.4: Mae'r bobl hynny sy'n ymwneud â recriwtio yn eich lleoliad wedi cwblhau Hyfforddiant Recriwtio Diogel
- Tystiolaeth: Darparwch fanylion unrhyw hyfforddiant a wnaed:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
Safon 8: Ymdrin â Honiadau yn Erbyn Gweithwyr a Gwirfoddolwyr
8.1: Ceir uwch swyddog penodol sydd â chyfrifoldeb mewn perthynas â honiadau yn erbyn staff a gwirfoddolwyr. Mae'r staff i gyd yn gwybod pwy yw’r person yma.
- Tystiolaeth:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
8.2: Mae trefn ysgrifenedig ar gyfer ymdrin â honiadau yn erbyn staff a gwirfoddolwyr yn ei lle.
- Tystiolaeth:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
8.3: Mae digwyddiadau a honiadau o gam-drin proffesiynol yn cael eu cofnodi’n briodol a’r wybodaeth yn cael ei chadw’n gyfrinachol.
- Tystiolaeth: Darparwch niferoedd y pryderon proffesiynol ac unrhyw faterion a atgyfeiriwyd:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
Safon 9: Diogelu yn yr Adeilad
9.1: Ydych chi'n adnabod ac yn monitro pwyntiau mynediad cyhoeddus yn yr adeilad(au) fel eich bod chi'n gwybod os yw pobl yn mynd i mewn i’r adeilad neu'n gadael yr adeilad?
- Tystiolaeth:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
9.2: A yw Rhieni / Gofalwyr / Ymwelwyr yn cael eu monitro tra’u bod yn yr adeilad gan gynnwys gweithdrefnau mewnlofnodi ac all-lofnodi os yw'n briodol? A roddir bathodynnau i ymwelwyr?
- Tystiolaeth:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
9.3: A oes gennych bolisïau a gweithdrefnau ar waith i gynnal trefniadau diogelu pan fydd pobl/cerbydau eraill nad ydynt yn gysylltiedig â'ch sefydliad yn defnyddio/ymweld â'r safle ar yr un pryd â'ch sefydliad chi?
- Tystiolaeth:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
9.4: A yw materion diogelu yn cael eu gwneud yn hysbys i'r swyddog arweiniol perthnasol a rheolwyr yr adeilad, fel y bo'n briodol?
- Tystiolaeth:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
9.5: A ydych yn asesu risg o ran diogelu a diogelwch cyffredinol wrth ddefnyddio safle ar wahân i'ch un chi ac a oes gennych system hysbysu ar gyfer materion a ganfyddir?
- Tystiolaeth:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
Safon 10: e-Diogelwch
10.1: Gall plant, pobl ifanc, neu oedolion sy’n wynebu risg sydd â mynediad at y rhyngrwyd drwy unrhyw fodd yn eich lleoliad wneud hynny'n ddiogel.
- Tystiolaeth: Rhowch fanylion unrhyw ymwybyddiaeth o e-ddiogelwch a gynhelir yn eich lleoliad:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
10.2: Oes gennych chi ac a ydych yn gweithredu polisi ar gyfer defnydd diogel o fynediad at y rhyngrwyd gan ddefnyddwyr gwasanaethau, staff a gwirfoddolwyr?
- Tystiolaeth: Dywedwch wrthym ble y mae'r polisi hwn ar gael:
- Sgor CAG:
- Camau pellach sy'n ofynnol:
Adroddiad Cryno’r Arweinydd Diogelu Dynodedig
Disgrifiwch unrhyw heriau a llwyddiannau allweddol rydych chi wedi eu profi dros y flwyddyn ddiwethaf. Nodwch hyn mewn perthynas â’ch rôl unigol chi a’r lleoliad ehangach.
Cwblhewch yn ôl yr angen
Nodwch pa gefnogaeth a allai fod o gymorth i chi yn eich rôl fel Arweinydd Diogelu Dynodedig neu i gynorthwyo gyda datblygu diogelu yn eich lleoliad.
Cwblhewch yn ôl yr angen
Sgôr CAG
- Gwyrdd: Mae’n dynodi bod popeth yn ei le, wedi’i ddiweddaru ac yn ateb y gofynion lleiaf
- Ambr: Mae’n dynodi ei bod yn ofynnol adolygu neu wella rhywbeth
- Coch: Mae’n dynodi bod angen datblygu rhywbeth fel mater o frys
Rhan 2: Cynllun Gweithredu
Rhowch eich cynllun gweithredu wedi'i gwblhau/diweddaru o'ch archwiliad blaenorol
Sicrhewch fod unrhyw gamau o'ch cynllun gweithredu blaenorol sydd heb eu cwblhau wedi eu hymgorffori yn eich cynllun presennol isod.
Rhif |
Safon a Nodwyd |
Sgôr CAG |
Cam Gweithredu y Mae Ei Angen / Tystiolaeth o’i Gwblhau |
Graddfa Amser / Dyddiad Cwblhau |
Swyddog Arweiniol a Manylion Cyswllt |
Nodwch y rhif safonol |
Nodwch y safon |
Coch Melyn Gwyrdd |
Tystiolaeth |
Dyddiad |
Enw |
Nodwch y rhif safonol |
Nodwch y safon |
Coch Melyn Gwyrdd |
Tystiolaeth |
Dyddiad |
Enw |