Diogelu Oedolion a Phlant
Beth yw cam-drin?
Mae cam-drin yn rhywbeth sy’n cael ei wneud i rywun arall, heb iddo fod yn cydsynio ac yn deall yn iawn, ac sy’n peri niwed iddo mewn rhyw ffordd. Gallai fod yn weithred unigol neu’n gyfres o weithredoedd sy’n cael eu hailadrodd.
Gall cam-drin gynnwys un neu ragor o’r canlynol:
Cam-drin corfforal
yn cynnwys taro, pinsio, rhoi gormod o feddyginiaeth yn fwriadol neu atal rhywun yn gorfforol mewn ffordd amhriodol. Er enghraifft, cloi rhywun i mewn neu ei orfodi i fwyta.
Cam-drin ariannol
yn cynnwys cymryd arian neu eiddo rhywun arall. Er enghraifft, dwyn arian neu eiddo, rhoi pwysau ar rywun i roi arian i bobl neu i newid ewyllys, camddefnyddio budd-daliadau, atal mynediad at arian.
Cam-drin rhywiol
yn cynnwys unrhyw weithred rywiol nad yw’r oedolyn agored i niwed wedi cydsynio iddi neu nad yw o bosibl yn ei deall. Er enghraifft, cael ei gyffwrdd neu ei gusanu pan nad oes arno eisiau hynny, gwneud i rywun gyffwrdd neu gusanu rhywun arall, trais rhywiol, gorfodi rhywun i wrando ar sylwadau rhywiol neu i edrych ar weithredoedd neu ddeunydd rhywiol.
Cam-drin seicolegol
cgall ddigwydd pan fo rhywun wedi ei ynysu, yn cael ei gam-drin yn eiriol neu’n cael ei fygwth.
Cam-drin sy'n gwahaniaethu
yn cynnwys unrhyw fath o gamdriniaeth sydd wedi ei hanelu at oedolion agored i niwed oherwydd eu lliw, crefydd, ymddangosiad neu rywioldeb. Er enghraifft, anwybyddu daliadau ysbrydol neu grefyddol, sylwadau neu jôcs am anabledd, oedran, hil, cyfeiriadedd rhywiol, neu rywedd/ hunaniaeth o ran rhywedd, anwybyddu anghenion diwylliannol, er enghraifft deiet neu ddillad.
Cam-drin sefydliadol
cam-drin sy’n digwydd mewn sefydliad gofal cymdeithasol neu ofal iechyd a all amrywio o arferion gwael i drin yn wael a chamymddwyn difrifol. Er enghraifft, diffyg gofal unigol, dim hyblygrwydd gydag amser mynd i’r gwely, neu amser deffro, amgylchedd digalon a diffyg ysgogiad.
Cam-drin yn y Cartref
yn cyfeirio at unrhyw ddigwyddiad(au) o ymddygiad bygythiol, trais neu gam-drin (seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol neu emosiynol) rhwng oedolion sydd, neu sydd wedi bod, yn gymheiriaid mynwesol neu sy’n perthyn i deulu, ni waeth beth yw eu rhywedd na’u rhywioldeb.
Camfanteisio ar ymddiriedaeth
Yn cyfeirio at y rhai sy'n cael eu hystyried yn arbennig o agored i gael eu hecsbloetio gan y rhai sy'n dal safle o ymddiriedaeth neu awdurdod yn eu bywydau.
Os oes gennych chi neu eraill bryderon ynghylch llesiant plentyn, unigolyn ifanc neu oedolyn, rhaid i chi roi gwybod amdano ar unwaith. Am wybodaeth, cyngor neu gymorth, cysylltwch â'r Tîm Asesu Gofal Plant (CCAT) neu'r Tîm Diogelu Oedolion.
Cysylltwch â ni
Tîm Asesu Gofal Plant: 01437 776444
Tîm Diogelu Oedolion: 01437 776056
Rhif ffôn y Gwasanaethau Cymdeithasol y tu allan i oriau: 0300 333 2222
Heddlu
Mewn argyfwng galwch 999
Ddim yn argyfwng: 101
Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd) yw'r lle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall