Diogelu Oedolion a Phlant

Byrddau Diogelu

Sefydlir Byrddau Rhanbarthol ar gyfer Diogelu Plant ac Oedolion (yn agor mewn tab newydd) yn unol â rhan 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, i gymryd lle’r Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant. 

Amcan holl weithgarwch CYSUR a CWMPAS yw gwella canlyniadau i oedolion, plant a phobl ifanc a theuluoedd y rheini sy'n wynebu risg.

Beth yw CYSUR?

  • CYSUR yw Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Mae CYSUR yn acronym ar gyfer Diogelu Plant a Phobl Ifanc: Uno'r Rhanbarth yn Saesneg ac mae hefyd yn ffurfio'r gair Cymraeg sy'n adlewyrchu nod y Bwrdd.
  • Mae CYSUR yn gyfuniad o'r Byrddau Diogelu Plant Lleol blaenorol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

e-bost: cysur@pembrokeshire.gov.uk

Beth yw CWMPAS?

  • CWMPAS yw Bwrdd Diogelu Oedolion Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru.
  • Mae CWMPAS yn acronym am Gydweithio a Chynnal Partneriaeth wrth Ddiogelu Plant yn Saesneg ac mae hefyd yn ffurfio'r gair Cymraeg sy'n adlewyrchu nod y Bwrdd.
  • Mae cylch gwaith CWMPAS hefyd yn ymestyn ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

e-bost: CWMPAS@pembrokeshire.gov.uk

ID: 4810, adolygwyd 03/11/2023