Diogelu Oedolion a Phlant

Camfanteisio ar ymddiriedaeth

Prif bwrpas y darpariaethau camfanteisio ar ymddiriedaeth yw amddiffyn pobl ifanc 16 a 17 oed, sy'n cael eu hystyried yn arbennig o agored i gael eu hecsbloetio gan y rhai sydd mewn safle o ymddiriedaeth neu awdurdod yn eu bywydau.

Yn ddarostyngedig i nifer o ddiffiniadau cyfyngedig, mae'n drosedd i berson, mewn safle o ymddiriedaeth, gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd rhywiol gyda pherson o dan 18 oed y mae ganddo berthynas o ymddiriedaeth ag ef/hi, waeth beth yw'r oedran cydsynio, hyd yn oed os yw sail eu perthynas yn gydsyniol. Mae perthynas yn bodoli lle mae aelod o staff neu wirfoddolwr mewn sefyllfa o rym neu ddylanwad dros bobl ifanc 16 neu 17 oed yn rhinwedd y gwaith neu natur y gweithgaredd sy'n cael ei wneud. 

Mae'r egwyddorion yn berthnasol waeth beth yw eu cyfeiriadedd rhywiol: nid yw cydberthnasau cyfunrywiol na heterorywiol yn dderbyniol o fewn sefyllfa o ymddiriedaeth. Maent yr un mor berthnasol i bawb, heb ystyried rhyw, hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol nac anabledd. Mae hwn yn faes lle mae'n bwysig iawn osgoi unrhyw stereoteipio rhywiol neu stereoteipio arall. Yn ogystal â hyn, mae'n bwysig cydnabod y gall menywod a dynion ddefnyddio eu safle o ymddiriedaeth i gam-drin eraill.

Os oes gennych chi neu eraill bryderon ynghylch llesiant plentyn, unigolyn ifanc neu oedolyn, rhaid i chi roi gwybod amdano ar unwaith. Am wybodaeth, cyngor neu gymorth, cysylltwch â'r Tîm Asesu Gofal Plant (CCAT) neu'r Tîm Diogelu Oedolion.

Cysylltwch â ni

Tîm Asesu Gofal Plant: 01437 776444

Tîm Diogelu Oedolion: 01437 776056

Rhif ffôn y Gwasanaethau Cymdeithasol y tu allan i oriau: 0300 333 2222

Heddlu

Mewn argyfwng galwch 999

Ddim yn argyfwng: 101

Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd) yw’r lle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall

 

 

ID: 7685, adolygwyd 03/11/2023