Diogelu Oedolion a Phlant
Diogelu Oedolion
Oedolyn mewn perygl yw rhywun sydd:
- Yn profi neu mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso,
- Gyda'r anghenion am ofal a chymorth (p'un a yw'r awdurdod yn diwallu unrhyw un o'r anghenion hynny ai peidio), ac
- o ganlyniad i'r anghenion hynny, ni all ei amddiffyn ei hun rhag y cam-drin neu'r esgeulustod na'r risg ohono.
Mae'n bwysig nodi'r canlynol:
- mae defnyddio’r term ‘mewn perygl’ yn golygu nad oes angen i'r camdriniaeth neu esgeulustod ei hun ddigwydd cyn ymyrraeth, yn hytrach dylid ystyried ymyriadau cynnar i amddiffyn oedolyn sydd mewn perygl i atal gwir gamdriniaeth ac esgeulustod;
- mae'r tri chyflwr sy'n angenrheidiol i ddangos bod oedolyn mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso yn sicrhau bod amddiffyniad yn cael ei ddarparu i'r rheini ag anghenion gofal a chymorth sydd hefyd angen camau i sicrhau diogelwch yr unigolyn yn y dyfodol oherwydd nad yw'n gallu ei amddiffyn ei hun;
- bod cam-drin oedolion y bernir eu bod ‘mewn perygl’ yn aml yn gysylltiedig â’u hamgylchiadau yn hytrach na nodweddion y bobl sy’n profi niwed;
- gall risg o gam-drin neu esgeulustod ddigwydd o ganlyniad i un pryder neu ffactorau cronnol.
Niwed Cudd – Oedolion hŷn a chamdriniaeth ddomestig (yn agor mewn tab newydd)
Cam-drin
gall fod yn gorfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol (yn cynnwys lladrad, twyll, pwysau ynglŷn ag arian, camddefnyddio arian) digwydd mewn unrhyw leoliad, p'un ai mewn annedd preifat, mewn sefydliad neu mewn unrhyw le arall.
Esgeulustod
Mae hyn yn disgrifio methiant i fodloni anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol sylfaenol unigolyn, sy'n debygol o arwain at amhariad ar lesiant yr unigolyn (er enghraifft, amharu ar iechyd yr unigolyn).
Gall ddigwydd mewn ystod o leoliadau, fel annedd preifat, darpariaeth gofal preswyl neu ofal dydd. Gallai'r ymddygiadau canlynol roi'r oedolyn mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso:
- Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV), sy'n cynnwys anffurfio organau cenhedlu benywod
- Caethwasiaeth fodern
- Cam-drin domestig a thrais yn erbyn dynion
- Ecsbloetio troseddol
Hunan-esgeuluso
Mae pobl sy'n eu hesgeuluso eu hunain yn aml yn gwrthod cymorth gan eraill; mewn llawer o achosion, nid ydynt yn teimlo eu bod angen unrhyw help. Bydd dyletswyddau diogelu yn berthnasol lle mae gan yr oedolyn anghenion gofal a chymorth a'u bod mewn perygl o hunan-esgeuluso ac na allant eu hamddiffyn eu hunain oherwydd eu hanghenion gofal a chymorth. Yn y rhan fwyaf o achosion, dylai'r ymyrraeth geisio lleihau'r risg wrth barchu dewisiadau'r unigolyn. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod strategaeth ar gyfer arfer da ar waith.
Mae'n bwysig nodi NAD yw hon yn rhestr gynhwysfawr. Yn hytrach, fe'u darperir i gynnig rhai awgrymiadau a allai rybuddio am gamdriniaeth neu esgeulustod posibl i'r oedolyn.
Os oes gennych chi neu eraill bryderon ynghylch llesiant oedolyn, rhaid i chi roi gwybod amdanynt ar unwaith. Am wybodaeth, cyngor neu gymorth, cysylltwch â'r Tîm Diogelu Oedolion.
Cysylltwch â ni:-
Tîm Diogelu Oedolion: 01437 776056
Rhif ffôn y Gwasanaethau Cymdeithasol y tu allan i oriau: 0300 333 2222
Heddlu
Mewn argyfwng galwch 999
Ddim yn argyfwng: 101
Rhifau ffôn defnyddiol eraill/ cysylltiadau
NSPCC (yn agor mewn tab newydd) - 0808 800 5000
Childline (yn agor mewn tab newydd) - 0800 1111
Care Inspectorate Wales (yn agor mewn tab newydd) - 0300 790 0126
Action on Elder Abuse (yn agor mewn tab newydd) - 0808 808 8141
Age UK (yn agor mewn tab newydd) - 0800 169 6565
Ann Craft Trust (yn agor mewn tab newydd) - 0115 951 5400
Respond (yn agor mewn tab newydd) - 0808 808 0700
Victim Support (yn agor mewn tab newydd) - 0808 168 9111
Pobl (yn agor mewn tab newydd) - 01646 698 820
Domestic Abuse / Live Fear Free / Welsh Women’s Aid / VAWDASV (yn agor mewn tab newydd) - 0808 801 0800
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (yn agor mewn tab newydd)
Gweithdrefnau Diogelu Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd) yw’r lle i fynd os ydych eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall