Diogelu Oedolion a Phlant
Polisi Diogelu Corfforaethol
Cyflwyniad
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Mae'r Polisi Diogelu Corfforaethol hwn yn darparu fframwaith ar gyfer pob aelod o staff a Gwasanaeth o fewn y Cyngor gan nodi cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg yn ogystal â'r dulliau y bydd y Cyngor yn eu defnyddio i gael sicrwydd ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi yma'n berthnasol i holl gyflogeion a gweithlu'r Cyngor, cynghorwyr, gwirfoddolwyr a hefyd darparwyr gwasanaethau sy'n cael eu comisiynu gan y Cyngor. At ddibenion y polisi hwn diffinnir 'gweithlu' fel yr unigolion sy’n rhoi gwasanaeth i’r Cyngor, gan gynnwys gweithwyr parhaol a dros dro, myfyrwyr, gwirfoddolwyr, gweithwyr a gyflogir gan asiantaethau cyflogaeth, contractwyr ac ymgynghorwyr.
Mae diogelu’n fusnes i bawb boed hwy'n gweithio i'r Cyngor, neu ar ran y Cyngor.
Y bwriad yw y bydd y Polisi Diogelu Corfforaethol hwn yn ategu ac nid yn disodli unrhyw gyfrifoldebau sydd eisoes wedi'u nodi mewn deddfwriaeth, polisi neu ganllawiau.
Mae'r polisi corfforaethol yn ategu dogfennau diogelu eraill yr awdurdod lleol megis:
- Recriwtio Diogel
- Polisi Chwythu'r Chwiban
- Fetio Gwirfoddolwyr
- Strategaeth Gaffael
Amcanion y Polisi hwn
- Nodi sut y bydd yr Awdurdod Lleol yn cyflawni ei rwymedigaethau tuag at ddiogelu plant ac oedolion sy’n wynebu risg;
- Rhoi sicrwydd i'r cyhoedd, cynghorwyr, staff, gwirfoddolwyr a phobl sy’n gwneud gwaith ar ran y Cyngor bod trefniadau cadarn yn eu lle i ddiogelu plant ac oedolion sy’n wynebu risg.
Egwyddorion
- Mae gan bob plentyn ac oedolyn sy’n wynebu risg (beth bynnag fo'u cefndir, diwylliant, oedran, anabledd, rhywedd, ethnigrwydd, cred grefyddol) yr hawl i gymryd rhan mewn cymdeithas ddiogel heb unrhyw drais, ofn, camdriniaeth, bwlio neu wahaniaethu.
- Mae gan bob plentyn ac oedolyn sy’n wynebu risg yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag niwed, rhag cael eu hesgeuluso, rhag dioddef camfanteisio a rhag cael eu cam-drin.
- Mae gan bob cynghorydd, cyflogai a gwirfoddolwr sy'n gweithio i'r Cyngor neu gyda'r Cyngor gyfrifoldeb am amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin a’u hesgeuluso ac am weithio mewn ffordd sy'n hybu a chefnogi eu budd pennaf.
- Bydd y Cyngor yn buddsoddi mewn gwasanaethau ataliol ac ymyrryd yn gynnar ac yn ymdrechu i atal sefyllfaoedd rhag codi lle gall cam-drin, esgeuluso neu niwed ddigwydd.
Cwmpas
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi:-
- Mae plentyn sy’n wynebu risg yn blentyn sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed ac;
- y mae arno anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw un neu rai o’r anghenion hynny ai peidio).
- Mae oedolyn sy’n wynebu risg yn oedolyn sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso,
- y mae arno anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw un neu rai o’r anghenion hynny ai peidio), ac
- Nad yw’n gallu, o ganlyniad i’r anghenion hynny, amddiffyn ei hun rhag cael, neu’r risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso.
Diffinnir plant a phobl ifanc fel unrhyw un sydd heb gyrraedd eu pen-blwydd yn 18 oed eto. Nid yw hyn yn hepgor person ifanc sydd yn 16 oed mewn Addysg Bellach, neu’n aelod o'r Lluoedd Arfog, yn yr ysbyty, mewn sefydliad troseddwyr ifanc, neu yn y carchar.
Amlinellir eglurhad llawn o delerau cam-drin yn Atodiad 1.
Deddfwriaeth, polisi a chanllawiau cysylltiedig
Mae'r Cyngor yn dal i fod yn ymrwymedig i Ddatganiad Hawliau Dynol 1945, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, yn ogystal ag Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn.
Nod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014) (DGCaLl) yw cryfhau ac adeiladu ar yr arferion diogelu sy'n bodoli eisoes yng Nghymru er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu byw eu bywydau i'r eithaf. Mae dyletswydd drosfwaol newydd i hybu lles pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth ynghyd â phwyslais ar gydgyfrifoldeb a gweithio mewn partneriaeth.
‘Er mai’r Cyngor yw’r sefydliad sy’n gwneud ymholiadau i ganfod a yw unigolyn yn wynebu risg o nifer, o gael ei gam-drin, ac sy’n cydlynu ymateb dylai fod yn glir bod Diogelu’n fusnes i bawb ac i’r perwyl hwn ni all y cyfrifoldeb hwn gael ei gyflawni ar wahân a heb arweinyddiaeth glir ac atebol". Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (DGCaLl).
Yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, diffinnir llesiant trwy wyth agwedd, ac un ohonynt yw amddiffyn rhag cam-drin ac esgeuluso. Mewn perthynas â phlentyn, mae llesiant hefyd yn cynnwys eu datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol; a'u lles (sicrhau eu bod yn cael eu cadw'n ddiogel rhag niwed).
Mae Canllawiau Diogelu Corfforaethol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru 'yn disgrifio'r trefniadau sydd ar waith y mae Cyngor yn eu gwneud i sicrhau bod ei holl gyflogeion yn chwarae eu rhan i ddiogelu a hybu llesiant plant ac oedolion a allai fod yn wynebu risg o niwed. Dogfen gyfarwyddyd yw hon i helpu pawb sy'n gweithio i wasanaethau cynghorau ddeall sut y gallant gyflawni rôl hanfodol wrth ddiogelu plant ac i gyflawni eu cyfrifoldebau am atal plant ac oedolion rhag cael eu cam-drin, gan hybu eu llesiant.
Ym mis Ionawr 2020 pasiodd y Senedd Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 Llywodraeth Cymru ('y Ddeddf'). Y nod trosfwaol yw helpu i warchod hawliau plant a rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru. Nid yw'r newid yn y gyfraith yn creu trosedd newydd, yn hytrach mae'n dileu amddiffyniad cyfreithiol 160 oed - amddiffyniad cosb resymol - fel na ellir ei ddefnyddio gan unrhyw un sydd wedi ei gyhuddo o ymosodiad cyffredin yn erbyn plentyn.
Y man cychwyn cyfreithiol wrth gyflawni'r amcan hwn yw dyletswydd gweithwyr proffesiynol i hysbysu ynghylch honiadau am gam-drin ac esgeuluso. Mae'r gyfraith hefyd yn nodi mai'r Awdurdod Lleol yw'r sefydliad arweiniol o ran gwneud ymholiadau i ganfod a yw unigolyn yn wynebu risg ac o ran cydlynu'r ymateb i amddiffyn yr unigolyn. Yn ymarferol, nid yw hyn byth yn cael ei gyflawni ar wahân na heb arweinyddiaeth glir ac atebolrwydd am y gwaith a nodir hefyd mewn cyfraith, ynghyd â'r ddyletswydd i gydweithredu a chydweithio gydag eraill.
Mae'r Cyngor yn cydnabod bod arfer da o ran diogelu yn dwyn ynghyd yr holl weithgarwch sydd wedi’i fwriadu i hybu arfer diogel gyda grwpiau agored i niwed ac atal cam-drin ac esgeuluso.
Dylai cyflogeion a chynghorwyr weithredu yn unol â'r Cod Ymddygiad proffesiynol perthnasol.
Mae atodiad 2 yn rhoi deddfwriaeth, polisi a chanllawiau cysylltiedig pellach.
Cyd-destun strategol
Yn sail i'r polisi hwn mae gweledigaeth y Cyngor 'Gweithio gyda’n Gilydd, Gwella Bywydau'
Mae ein Cynllun Corfforaethol wedi'i strwythuro o amgylch ein pum amcan Llesiant:
- Codi safonau cyflawniad ar y cyfan
- Cymunedau iach: Cymunedau a gefnogir gan dai fforddiadwy a phriodol; Gwella gofal cymdeithasol
- Cynyddu cynhyrchiant yr economi a mynd i'r afael â materion adfywio
- Diogelu ein hamgylchedd
- Cymunedau hunangynhaliol a bywiog
Mae disgwyl bod yr holl weithlu, Cynghorwyr a phartneriaid yn rhannu amcan i helpu i gadw plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n wynebu risg yn ddiogel trwy gyfrannu at y canlynol:
- Creu a chynnal amgylchedd diogel
- Canfod lle ceir pryderon a chymryd camau i fynd i'r afael â hwy mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill
- Atal pobl anaddas rhag gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion sy’n wynebu risg
- Sicrhau bod y gweithlu cyfan yn deall diogelu a'u hatebolrwydd a'u cyfrifoldebau
- Hybu arfer diogel a herio arfer gwael ac anniogel
Mae'r polisi'n nodi dull ataliol sy'n sicrhau bod trefniadau diogelu’n cael eu rhoi ar waith yn rhagweithiol i atal cam-drin ac esgeuluso rhag digwydd.
Mae ar y Cyngor angen gweithlu cymwys o unigolion sy'n gallu adnabod achosion lle mae sail i bryderu ynghylch lles plentyn neu oedolyn a chychwyn neu gymryd camau priodol i'w cadw'n ddiogel.
Mae'r polisi’n galw am drefniadau effeithiol ar gyfer gweithio mewn partneriaeth rhwng pawb sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau i blant, pobl ifanc ac oedolion sy’n wynebu risg.
Llywodraethu
Bydd y Cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldebau diogelu statudol strategol trwy ei rôl fel un o'r Partner Arweiniol ac aelodaeth o Fwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol CYSUR a Bwrdd Diogelu Oedolion Rhanbarthol CWMPAS.
CYSUR
yw Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae'n acronym ar gyfer Child and Youth Safeguarding: Unifying the Region. Crëwyd CYSUR trwy uno'r hen Fyrddau Diogelu Plant Lleol yn Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. (Atodiad 3)
CWMPAS
yw Bwrdd Diogelu Oedolion Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae'n acronym ar gyfer Collaborative Working and Maintaining Partnership in Adult Safeguarding. Mae CWMPAS hefyd yn ymestyn ar draws Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.
Mae'r Byrddau ill dau yn bartneriaethau statudol amlasiantaeth sydd â chyfrifoldeb am y canlynol:-
- Diogelu plant sy'n cael, neu sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed ac atal plant rhag wynebu risg o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed.
- Amddiffyn oedolion y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw un neu rai o’r anghenion hynny ai peidio), ac sy'n cael, neu sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Atal yr oedolion hynny rhag wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.
Mae dyletswydd statudol ar y ddau Fwrdd i ddatblygu Cynlluniau Blynyddol ar sail ranbarthol ac mae ganddynt gyfrifoldeb cyffredinol am herio asiantaethau perthnasol mewn perthynas â'r mesurau sydd yn eu lle i amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg.
CADW
yw'r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Iau. Mae'n acronym ar gyfer Children taking Action Differently in Wales. Mae CADW yn cynnwys pobl ifanc o Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys i wneud y canlynol:
- Sicrhau bod gan bobl ifanc ddealltwriaeth am ddiogelu
- Codi ymwybyddiaeth a rhannu barn pobl ifanc
- Gweithio ar ran pobl ifanc ar draws y pedair sir
- Herio'r uwch fwrdd rhanbarthol am benderfyniadau
Sefydlwyd y Bwrdd Rhanbarthol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)
fel gofyniad statudol o fewn Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2015 i arwain yn strategol ar roi’r Ddeddf ar waith yn y rhanbarth.
Mae Cyngor Sir Penfro’n bartner statudol allweddol ar y Bwrdd, yn cyfrannu'n llawn at ei ffrydiau gwaith, ac yn sicrhau cysondeb da rhwng y Bwrdd a rhaglenni gwaith y Cyngor.
Grŵp Gweithredol Lleol Sir Benfro (GGLI)
Ac yntau’n atebol i Fwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru, y Grŵp Gweithredol Lleol (GGLl) yw'r corff amlasiantaeth strategol ar gyfer diogelu oedolion a phlant yn Sir Benfro.
Mae aelodaeth o'r GGLl yn cynnwys uwch reolwyr mewn Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, Addysg Bellach, Iechyd, Yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf a'r Sector Gwirfoddol.
Rhan o gylch gwaith y GGLl yw craffu ar bolisi ac arfer diogelu amlasiantaeth yn Sir Benfro.
Rôl yr Uwch Dîm Arwain
Proses Ddemocrataidd y Cyngor ar gyfer herio yw ei swyddogaeth Graffu. Bydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol yn cael adroddiad blynyddol mewn perthynas â chydymffurfio â'r polisi diogelu corfforaethol ar y cyfan.
Bydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Ysgolion a Dysgu hefyd yn cael gweld yr archwiliad SAFE blynyddol ar gyfer Plant ac Ysgolion.
Bydd y Prif Weithredwr yn sicrhau bod trefniadau diogelu effeithiol ar waith, gan gynnwys polisïau a gweithdrefnau, bod y polisïau a'r gweithdrefnau hynny'n cael eu gweithredu, bod trefniadau llywodraethu effeithiol ar waith a bod yr holl ofynion statudol yn cael eu hateb.
Mae gan y Cyfarwyddwr Statudol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol atebolrwydd cyfreithiol am sicrhau bod gan y Cyngor fesurau diogelu priodol i amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n wynebu risg. Mae'r Cyfarwyddwr yn gyfrifol am adrodd ar effeithiolrwydd y trefniadau hyn ar lefel gorfforaethol wrth y Prif Weithredwr, yr Uwch Dîm Arwain a'r Cabinet a'r Cyngor a dyma'r pwynt cyswllt i bob Prif Swyddog arall hysbysu ynghylch pryderon diogelu difrifol a all godi yn eu maes gwasanaeth.
Mae gan y Cyfarwyddwr Addysg gyfrifoldeb corfforaethol am ddiogelu ar draws yr awdurdod ac am ysgolion ac mae'n gyfrifol am sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd gan gynnwys adrodd wrth y Prif Weithredwr a’r Aelod Cabinet Arweiniol yn ôl yr angen.
Arweinydd y Cyngor sydd â chyfrifoldeb ar y cyfan am ddarparu arweinyddiaeth wleidyddol i sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau dros ddiogelu.
Cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am hysbysu’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch unrhyw bryderon diogelu difrifol a all godi yn eu maes gwasanaeth. Bydd cyfarwyddwyr yn briffio’u priod Aelodau Cabinet ar unrhyw faterion diogelu ac ar effeithiolrwydd cyffredinol trefniadau diogelu. Hwy sy’n gyfrifol am sicrhau bod y gweithlu yn eu Cyfarwyddiaethau hwy wedi’i hyfforddi’n briodol i adnabod pryderon ynghylch diogelu ac ymateb iddynt.
Mae Penaethiaid Gwasanaethau Plant ac Oedolion yn sicrhau bod y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael gwybod am unrhyw faterion diogelu yn eu cyfarfodydd un-i-un ac yn sicrhau bod unrhyw bryderon difrifol yn cael eu codi ar unwaith. Maent yn cynrychioli'r Cyngor ar Fwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru (CYSUR) ac maent yn gyfrifol am sicrhau cynrychiolaeth briodol ar unrhyw Is-Grwpiau perthnasol. Bydd y Penaethiaid Gwasanaeth yn briffio’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Uwch Dîm Arwain, Pwyllgorau Dethol, y Cabinet a'r Cyngor ar unrhyw faterion sy'n deillio o Adolygiadau Ymarfer Plant neu Oedolion a'r cynlluniau gweithredu canlyniadol.
Bwrdd Diogelu Corfforaethol
Ar lefel gorfforaethol, dirprwyir y cyfrifoldeb am fonitro effeithiolrwydd trefniadau diogelu ar draws y Cyngor i’r Bwrdd Diogelu Corfforaethol. (Atodiad 4)
Bydd y Bwrdd Diogelu Corfforaethol yn llunio adroddiad yn flynyddol ar gyfer yr Uwch Dîm Arwain, y Cabinet a’r swyddogaeth Graffu. Bydd yr adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o berfformiad diogelu'r Cyngor. Bydd hyn yn rhoi cyfle i gynghorwyr graffu ar waith y Bwrdd Diogelu Corfforaethol a'i herio.
Mae llwybr clir i adrodd ar berfformiad diogelu ar gael trwy Gynlluniau Gwella Gwasanaethau (CGGau) hefyd y creffir arnynt gan Arweinydd y Cyngor, Aelod Cabinet, Prif Weithredwr, UDA a’r gwasanaeth Cynllunio Corfforaethol. Rhaid cynnwys gwybodaeth am ddiogelu sy’n berthnasol i’r maes gwasanaeth ym mhob CGG.
Bydd arsylwadau'r Cabinet, y swyddogaeth Graffu, y Tîm Archwilio Mewnol a rheoleiddwyr allanol yn llywio ac yn dylanwadu ar flaenoriaethau’r Bwrdd Diogelu Corfforaethol.
Bydd aelodaeth y Bwrdd Diogelu Corfforaethol yn cynnwys Arweinwyr Diogelu Cyfarwyddiaethau (ADC), y Rheolwr Diogelu Integredig, aelod anweithredol arweiniol, Aelod Cabinet a Chadeirydd Craffu.
Bydd pob Gwasanaeth yn y Cyngor yn adrodd ar eu canllawiau diogelu wrth y Bwrdd Diogelu Corfforaethol trwy eu ADC gan ddefnyddio'r Fframwaith Gwerthuso ar gyfer Archwiliad o Ddiogelu (SAFE).
Bydd cofnod ysgrifenedig o gyfarfodydd y Bwrdd Diogelu Corfforaethol yn cael ei gadw.
Fframwaith Gwerthuso ar gyfer Archwiliad o Ddiogelu (SAFE)
Yn unol â Pholisi Diogelu Corfforaethol Sir Benfro, mae disgwyl i bob sefydliad sy'n darparu gwasanaethau i oedolion sy’n wynebu risg, plant, pobl ifanc a theuluoedd, neu sy'n gweithio gyda hwy, gynnal archwiliad o'u harferion diogelu, yn seiliedig ar broses hunanwerthuso.
Cyfarwyddwyr fydd yn gyfrifol am sicrhau bod ganddynt weithdrefnau gweithredol diogelu ac am gynnal archwiliad blynyddol o'u cyfarwyddiaeth gan ddefnyddio'r Fframwaith Gwerthuso ar gyfer Archwiliad o Ddiogelu (SAFE). (Atodiad 5)
Defnyddir yr offeryn archwilio SAFE i fonitro a chasglu gwybodaeth a monitro cydymffurfiaeth â'r Polisi Diogelu gan bob TRhC. Bydd yr archwiliad yn cael ei gynnal yn flynyddol a bydd gwybodaeth sy'n cael ei chasglu’n cael ei defnyddio i wella diogelu ar draws yr awdurdod. Mae SAFE yn fecanwaith pwysig o ran diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n wynebu risg sydd dan ofal y Cyngor, mewn ysgol neu mewn gwasanaethau eraill a ddarperir neu a gomisiynwyd gan y Cyngor.
Mae'r offeryn archwilio’n seiliedig ar ddeddfwriaeth ac mae wedi'i rannu’n adrannau sy'n ei gwneud yn ofynnol i feysydd gwasanaeth ystyried eu harfer, eu gweithdrefnau, eu systemau a’u diwylliant eu hunain yn feirniadol. Mae SAFE yn cynnwys cynllun gweithredu ar ddiogelu sy'n galluogi’r maes gwasanaeth i sefydlu rhaglen o weithgarwch i fynd i'r afael ag unrhyw welliannau a nodir trwy SAFE. Bydd SAFE yn cael ei adolygu yn y Bwrdd Diogelu Corfforaethol.
Rolau a Chyfrifoldebau
Mae dyletswydd ar bob cyflogai, cynghorydd a gwirfoddolwr i hysbysu ynghylch pryderon am gam-drin ac esgeuluso.
Y Gwasanaethau Plant sy'n gyfrifol am gael ac ymateb i bryderon newydd am blant a’r Gwasanaethau Oedolion sy’n gyfrifol am gael ac ymateb i bryderon newydd am oedolion sy’n wynebu risg. Dylid hysbysu'r Tîm Asesu Gofal Plant (TAGP) neu'r tîm Diogelu Oedolion ynghylch pob pryder am ddiogelu.
Mae pob Rheolwr Adrannol yn yr awdurdod lleol yn gyfrifol am:
- recriwtio gweithwyr/gwirfoddolwyr yn unol â pholisïau Adnoddau Dynol perthnasol, gan gynnwys (lle y bo’n ofynnol) gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
- sicrhau bod diogelu yn rhan o hyfforddiant sefydlu pob cyflogai/gwirfoddolwr.
- adnabod cyflogeion/gwirfoddolwyr sy'n debygol o ddod i gysylltiad â phlant neu oedolion sy’n wynebu risg fel rhan o'u rôl.
- sicrhau bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu mewn modd sy'n gymesur â’r rôl.
- sicrhau bod yr holl gyflogeion/gwirfoddolwyr yn ymwybodol sut i hysbysu ynghylch pryderon am ddiogelu a phwy ddylid ei hysbysu
- sicrhau bod yr holl gyflogeion/gwirfoddolwyr yn ymwybodol o Bolisi Chwythu'r Chwiban y Cyngor
- sicrhau bod cyflogeion/gwirfoddolwyr yn ymwybodol bod rhaid iddynt ymddwyn mewn modd sy'n diogelu ac yn hybu llesiant plant, ac oedolion sy’n wynebu risg.
- darparu canllawiau i gyflogeion/gwirfoddolwyr ynghylch pryderon am ddiogelu yn ôl y gofyn.
Comisiynwyr Gwasanaethau fydd yn gyfrifol am sicrhau bod trefniadau cytundebol yn manylu ar gyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu yn unol â'r Polisi hwn a pholisi comisiynu presennol. Mae'n hanfodol bod y polisïau hyn yn cael eu rhoi ar waith ac yn cael eu monitro ac yr hysbysir ynghylch unrhyw bryderon ac y gweithredir arnynt mewn modd priodol.
Contractwyr, is-gontractwyr neu sefydliadau eraill a gyllidir gan neu ar ran y Cyngor sy’n gyfrifol am drefnu gwiriadau trwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (lle y bo’n ofynnol) ac am sicrhau bod eu staff yn cydymffurfio â threfniadau rheoleiddio a chytundebol sy'n ymwneud â diogelu plant ac oedolion. Mae contractwyr hefyd yn gyfrifol am roi gwybod i reolwyr perthnasol yn y Cyngor am unrhyw bryderon a all fod ganddynt mewn perthynas â diogelu.
Bydd disgwyl i bob Aelod etholedig fynychu hyfforddiant mewn perthynas â diogelu plant ac oedolion sy'n wynebu risg am bydd anghenion am hyfforddiant diogelu ychwanegol, e.e. mewn perthynas â'u portffolios, yn cael sylw fel rhan o Adolygiadau Datblygiad Personol parhaus.
Mae'r Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Cymdeithasol - yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol – yn gweithredu fel 'Arweinydd' ar gyfer Diogelu Corfforaethol ac mae'n gyfrifol am gefnogi Deiliaid Portffolios Gweithredol ar gyfer Gwasanaethau Plant ac ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Addysg a Llesiant Cymunedol ym mhob mater sy'n ymwneud â materion y Cyngor o ran diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Nodir rôl yr aelod arweiniol fel a ganlyn:
- Cadeirio Bwrdd Diogelu Corfforaethol y Cyngor
- Bod â goruchwyliaeth ar Ddiogelu Corfforaethol
- Cydweithio'n agos gyda swyddogion â chyfrifoldebau diogelu corfforaethol dynodedig
- Cysylltu ag aelodau'r Weithrediaeth, yn enwedig lle gallai materion diogelu effeithio ar agweddau eraill ar fusnes y Cyngor.
- Cefnogi’r Deiliaid Portffolios Gweithredol ar gyfer Gwasanaethau Plant ac ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Addysg a Llesiant Cymunedol o ran datblygu a gweithredu polisi diogelu allweddol.
- Cymryd rhan yn ôl yr angen yng ngwaith y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a hybu gwerth Craffu ym mhob mater sy'n ymwneud â materion y Cyngor mewn perthynas â diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed.
- Cynrychioli a gweithredu fel llysgennad i'r Cyngor yn ei waith diogelu
- Sicrhau trefniadau effeithiol ar gyfer gweithio mewn partneriaeth o ran materion o fewn y cylch gorchwyl hwn
- Cyflawni rôl fonitro o ran perfformiad a sicrhau cynnydd tuag at gyflawni amcanion allweddol y Cyngor yn y meysydd hyn.
Rôl 'Hyrwyddwr Diogelu’r Aelodau Etholedig' - Bydd aelod etholedig yn gweithredu fel 'hyrwyddwr' diogelu sydd, yn ogystal â'i gyfrifoldebau eraill yn y cyngor, yn gwneud yn siŵr bod materion a threfniadau diogelu’n cael eu hystyried pan fydd polisi'n cael ei ddatblygu a phenderfyniadau’n cael eu gwneud yn y Cyngor. Yn nodweddiadol, bydd yr aelod arweiniol yn:
- Gwneud yn siŵr bod diogelu’n cael ei ystyried wrth ddatblygu polisi neu wneud penderfyniadau
- Gofyn cwestiynau am berfformiad diogelu a’r adnoddau a ddarperir ar gyfer hynny
- Codi proffil diogelu a gwneud yr awdurdod yn ymwybodol o arfer da.
- Ymgysylltu â swyddogion ac aelodau eraill mewn perthynas â diogelu.
- Cynnal ymwybyddiaeth o bolisi a gweithdrefnau'r Cyngor mewn perthynas â diogelu gan gynnwys y prosesau atgyfeirio sydd i'w dilyn yn fewnol o fewn y sefydliad.
- Ymrwymo i fynychu Seminarau Diogelu Aelodau Etholedig.
- Hyrwyddo gofynion y Cyngor mewn perthynas â'r ddyletswydd i roi gwybod am oedolion a phlant sy’n wynebu risg, gofynion 'Gofyn a Gweithredu', Prevent, Ymwybyddiaeth o Gaethwasiaeth Fodern a phynciau diogelu eraill gan gynnwys cam-fanteisio’n rhywiol ar blant.
- Ceisio cymorth gan arweinwyr diogelu dynodedig y Cyngor pe bai angen cyngor, arweiniad neu gynhorthwy arnynt.
Nid rôl yr aelod diogelu yw:
- Bod yn gyfrifol am gyflwyno atgyfeiriadau ar ran Aelodau Etholedig
- Ymateb i bryderon ynghylch diogelu a godir gan aelodau
Rhaid i bob Cynghorydd ymgyfarwyddo â'r Polisi hwn a cheisio cyngor gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol os nad ydynt yn glir ynghylch eu cyfrifoldeb am ddiogelu. Bydd y Polisi Diogelu Corfforaethol yn cael ei gyfleu fel rhan o'r rhaglen sefydlu orfodol ar gyfer pob Cynghorydd newydd.
Rôl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol yw adolygu a chraffu ar benderfyniadau a llunio adroddiadau neu wneud argymhellion mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r Cyngor boed hynny gan y Cabinet neu ran arall o'r Cyngor. Y rôl yw darparu her adeiladol i'r Cyngor am ei weithgarwch diogelu mewn modd diduedd ac annibynnol.
Bydd pob Cyfarwyddwr Gwasanaeth, trwy eu Timau Rheoli, yn gyfrifol am sicrhau yr ymdrinnir â'r holl ofynion statudol o ran diogelu a hybu llesiant plant ac oedolion sy’n wynebu risg.
Maent hefyd yn gyfrifol am roi systemau priodol ar waith yn eu meysydd gwasanaeth sy'n sicrhau y cydymffurfir â'r polisi hwn:
- Sicrhau y darperir hyfforddiant priodol.
- Cyfleu gwybodaeth ynglŷn â phwy y mae angen i staff gysylltu â hwy a sicrhau bod yr wybodaeth hon yn cael ei hadolygu'n rheolaidd fel ei bod yn gyfredol ac yn gywir.
- Llunio adroddiad mewn perthynas â'u trefniadau Diogelu a fydd yn cael ei ddefnyddio i oleuo Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae dyletswydd ar bob aelod o weithlu Cyngor Sir Penfro i hysbysu ynghylch unrhyw bryderon a all fod ganddynt am les a/neu amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg. Dylent fod yn gyfarwydd â gweithdrefnau a phrotocolau lleol ar gyfer diogelu, dilyn Cod Ymddygiad y Cyngor, codau proffesiynol eraill, a chael hyfforddiant diogelu perthnasol.
Mae hyn yn cynnwys dyletswydd i ymddwyn mewn modd nad yw'n bygwth pobl, yn eu niweidio nac yn peri iddynt wynebu risg o niwed gan eraill ac ymddwyn yn eu bywydau preifat mewn modd nad yw'n peryglu eu swydd yn y gweithle nac yn bwrw amheuaeth ar eu haddasrwydd i weithio gyda phlant neu oedolion sy’n wynebu risg.
Arweinwyr Diogelu Cyfarwyddiaethau (ADC)
Mae'n ofynnol i bob Cyfarwyddiaeth o fewn y Cyngor enwebu Arweinydd Diogelu Cyfarwyddiaeth (ADC) ar gyfer ymdrin â materion diogelu plant ac oedolion. Mae'r ADC yn gyfrifol am y canlynol:
- Gweithredu fel ffynhonnell drosfwaol ac allweddol ar gyfer cyngor a chefnogaeth i aelodau eraill o staff yn eu Gwasanaeth mewn perthynas â phob mater diogelu
- Cynrychioli eu Cyfarwyddiaeth ar y Bwrdd Diogelu Corfforaethol
- Sicrhau bod trefniadau cadarn ar waith i staff gael cyngor ynghylch ymarfer o ddydd i ddydd a chymorth ar gyfer diogelu gan eu rheolwyr llinell
- Cynorthwyo staff i atgyfeirio neu gyflawni rôl arweiniol o ran atgyfeirio pryderon diogelu at wasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Iechyd fel y bo’n briodol
- Bod yn gyfarwydd â Pholisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor a Gweithdrefnau Diogelu Cymru fel y maent yn ymwneud â diogelu Plant ac Oedolion
- Sicrhau bod y gweithdrefnau gweithredol ar gyfer diogelu o fewn y gyfarwyddiaeth yn cydymffurfio â deddfwriaeth a chanllawiau statudol ac yn cael eu rhoi i bob aelod o staff
- Asesu cydymffurfiaeth â pholisi diogelu corfforaethol ddwywaith y flwyddyn ac adrodd ar y canlyniadau fel rhan o'r adroddiad diogelu blynyddol
- Sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau a chanllawiau o fewn meysydd gwasanaeth eu cyfarwyddiaeth ac adrodd ar hyn wrth y Grŵp Diogelu Awdurdod Cyfan
- Mynychu hyfforddiant perthnasol
- Sicrhau bod aelodau o'r gweithlu o fewn eu Gwasanaethau’n mynychu hyfforddiant ar lefelau sy'n briodol i'w rolau a'u swyddogaethau a chynnal gwybodaeth reoli mewn perthynas â mynychu hyfforddiant
- Sicrhau bod cyfrifoldebau diogelu yn cael eu hamlygu trwy brosesau sefydlu staff, cyfarfodydd tîm, goruchwyliaeth a sesiynau briffio staff.
Hysbysu ynghylch pryder
Dylai unrhyw gyflogai sydd â phryderon ynghylch diogelwch plentyn, neu oedolyn sy’n wynebu risg, NEU ymddygiad cydweithwyr tuag at blentyn, neu oedolyn sy’n wynebu risg, (Gweler Atodiad Un) gysylltu â'r timau isod ar unwaith.
Hysbysu ynghylch pryderon am Blant
Ffôn: Tîm Asesu Gofal Plant (TAGP) 01437 776444
Y tu allan i oriau: 03003 332222
e-bost: CCAT@pembrokeshire.gov.uk
Hysbysu ynghylch pryderon am Oedolion
Ffôn: 01437 776056– Tîm Diogelu Oedolion.
Y tu allan i oriau: 03003 332222
e-bost: Adult.protection.team@pembrokeshire.gov.uk
Os ystyrir bod plentyn, person ifanc neu oedolyn sy’n wynebu risg mewn perygl uniongyrchol, rhaid cysylltu â'r Gwasanaethau Brys (Heddlu, Ambiwlans, Tân ac Achub) ar unwaith.
Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru CYSUR (Bwrdd Plant) cysur@pembrokeshire.gov.uk
Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru CWMPAS (Bwrdd Oedolion) cwmpas@pembrokeshire.gov.uk
CADW: Y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Iau Nadine.Farmer@pembrokeshire.gov.uk
Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Sinead.henehan@pembrokeshire.gov.uk
Atodiad 1
Beth sy’n gyfystyr â Cham-drin?
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 Adr 7.
Mae adran 197(1) o'r Ddeddf yn darparu diffiniadau o 'gam-drin' ac 'esgeuluso':
ystyr 'camdriniaeth; a ;cam-drin'('abuse') yw camdriniaeth gorfforol, rywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol (ac mae’n cynnwys camdriniaeth sy’n digwydd mewn unrhyw leoliad, p’un ai mewn annedd breifat, mewn sefydliad neu mewn unrhyw fan arall.
Mae’r canlynol yn rhestr anghynhwysfawr o enghreifftiau o bob un o’r categorïau o gam-drin ac esgeuluso:-
- Cam-drin corfforol taro, slapio, gorddefnyddio neu gamddefnyddio meddyginiaeth, ataliad gormodol, neu sancsiynau amhriodol;
- Cam-drin rhywiol treisio ac ymosodiad rhywiol neu weithredoedd rhywiol nad yw'r person wedi cydsynio â hwy neu na allai gydsynio â hwy a/neu y’i rhoddwyd dan bwysau i gydsynio â hwy;
- Cam-drin seicolegol bygythiadau o niwed neu gefnu, rheoli drwy orfodaeth, bychanu, cam-drin geiriol neu hiliol, ynysu neu dynnu allan o wasanaethau neu rwydweithiau cefnogol; gweithred neu batrwm o weithredoedd ymosod, bygythiadau, bychanu, dychrynu neu gam-drin arall yw rheolaeth drwy orfodaeth a ddefnyddir i niweidio, cosbi neu ddychryn y dioddefwr;
- Esgeuluso methu â diwallu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol sylfaenol unigolyn megis cael mynediad at ofal neu wasanaethau meddygol, esgeulustod yn wyneb cymryd risg, methu â rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn, methu â chynorthwyo gyda hylendid personol neu ddarparu bwyd, lloches, dillad; esgeulustod emosiynol;
- Cam-drin ariannol mae’n cynnwys, bod arian neu eiddo arall yn cael ei ddwyn; cael eu twyllo; cael eu rhoi o dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall; bod arian neu eiddo arall yn cael ei gamddefnyddio, e.e.
- newid annisgwyl i'w hewyllys;
- gwerthu neu drosglwyddo'r cartref yn sydyn;
- gweithgaredd anarferol mewn cyfrif banc neu filiau sy'n dal heb eu talu;
- cynnwys enwau ychwanegol yn sydyn ar gyfrif banc;
- nid yw llofnod yn debyg i lofnod arferol y person;
- amharodrwydd neu bryder gan y person wrth drafod ei faterion ariannol;
- rhoi rhodd sylweddol i ofalwr neu drydydd parti arall;
- diddordeb sydyn gan berthynas neu drydydd parti arall yn lles y person;
- cwynion bod eiddo personol ar goll;
- dirywiad mewn ymddangosiad personol a allai ddangos bod deiet a gofynion personol yn cael eu hanwybyddu;
- ynysu bwriadol oddi wrth ffrindiau a theulu gan roi rheolaeth lwyr i berson arall ar ei benderfyniadau
Atodiad 2
- Deddfwriaeth berthnasol
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014
- Gweithdrefnau Diogelu Cymru
- Canllawiau Arfer Diogelu Corfforaethol Da CLlLC
- Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020
- Deddf Addysg 2002
- 'Cadw Dysgwyr yn Ddiogel 2020' - Rôl awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a pherchnogion ysgolion annibynnol o dan Ddeddf Addysg 2002
- Deddf Plant 1989 a 2004,
- Gweithio gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl – Cyfrolau 5&6
- Deddf Diogelu Grwpiau Agored i Niwed 2006
- 'Mewn dwylo diogel' 2003
- Adran 17 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998,
- Deddf Galluedd Meddyliol 2005
- Y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid a gyflwynwyd yn y Ddeddf Galluedd Meddyliol (Diwygio) 2019
- Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015
- Deddf Tai 2004
- Deddf Trwyddedu 2003
- Deddf Hawliau Dynol 1998
- Canllawiau Prevent y Swyddfa Gartref – Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015
- Polisi Chwythu'r Chwiban
- Polisïau Recriwtio gan gynnwys Polisi Gwirio Cofnodion Troseddol a Chanllawiau ynghylch Contractwyr sy'n gweithio mewn ysgolion a Sefydliadau gyda Phobl Agored i Niwed
- Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2017
Atodiad 3
Strwythur llywodraethu CYSUR/CWMPAS
Byrddau Gweithredol Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru
Is-grŵp Polisïau a Gweithdrefnau
- Mae’n arwain ar flaenoriaethu, datblygu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau
- Mae’n trosi gwersi critigol yn ganllawiau ymarfer
Is-grwpiau AYP ac AYO
- Mae’n goruchwylio ac yn nodi AYPau ac AYOau cryno ac estynedig
- Mae’n monitro Gweithrediad y cynllun gweithredu rhanbarthol a gwersi a nodwyd
Is-grŵp Hyfforddiant
- Mae’n nodi ac yn cefnogi hyfforddiant rhanbarthol pwrpasol
- Mae’n cefnogi ac yn datblygu Adolygwyr AYP ac AYO enwebedig
- Mae’n cysylltu â Rheolwyr Hyfforddiant yr ALl
- Mae’n lledaenu deilliannau dysgu i mewn i hyfforddiant
Grwpiau Gweithredol Lleol (GGLl)
Mae grwpiau Plant ac Oedolion yn coladu gwybodaeth mewn perthynas â:
- Bylchau/diffygion mewn arfer/gwybodaeth
- Bylchau/diffygion mewn polisïau a gweithdrefnau
- Deilliannau Fforymau Ymarferwyr Amlasiantaeth (MAPF)
- Sicrhau Ansawdd ac uwchgyfeirio pryderon parthed cartrefi gofal
- Deilliannau digwyddiadau Gwersi Critigol Cyfiawnder Ieuenctid
- Deilliannau Adolygiadau Dynladdiad Domestig
- Comisiynu gwybodaeth/DATA
- Anghenion hyfforddiant staff
Atodiad 4
Cylch Gorchwyl y Bwrdd Diogelu Corfforaethol
Cyflwyniad
Diffinnir Diogelu Corfforaethol gan Lywodraeth Cymru fel a ganlyn:
‘Mae ‘Diogelu Corfforaethol’ yn disgrifio’r trefniadau sydd ar waith y mae’r Cyngor yn eu gwneud ac i sicrhau bod pob un o’i weithwyr yn chwarae eu rhan i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion a all fod mewn perygl o niwed.'(Diogelu Corfforaethol: Canllaw Arferion Da, CLlLC/LlC)
Sefydlwyd y Bwrdd Diogelu Corfforaethol yng Nghyngor Sir Penfro er mwyn sicrhau bod diogelu yn gadarn ar agenda’r awdurdod cyfan, ac nid yn unig ar agenda’r gwasanaethau hynny sydd â dyletswydd amlwg a chlir iawn mewn perthynas â diogelu plant ac oedolion agored i niwed. Mae’r agenda wedi’i osod yng nghyd-destun yr arwyddair bod diogelu yn ‘fusnes i bawb’ a bydd y bwrdd yn gweithio i ddyrchafu a chynnal statws diogelu ar draws pob cyfarwyddiaeth, er mwyn ymwreiddio egwyddorion allweddol arferion diogelu da ar lefel gorfforaethol. Bydd hyn yn arwain at rannu a chraffu ar ddata’n ymwneud â gweithgarwch diogelu; nodi a monitro gweithgarwch dysgu a datblygu yn ymwneud â diogelu; a chynnal gweithgarwch archwilio i sicrhau ein bod yn glynu at ein polisi diogelu corfforaethol. Mae Sir Benfro wedi ymrwymo i gyflawni’r arferion diogelu o’r safon uchaf ar draws y sefydliad cyfan ac mae’r bwrdd diogelu corfforaethol, gyda’i aelodaeth o uwch swyddogion ac aelodau etholedig, yn allweddol i gyflawni’r nod hwn.
Bydd y Bwrdd Diogelu Corfforaethol yn cyflawni’r canlynol:
- Sicrhau bod pob un o gyfarwyddiaethau’r Cyngor yn cydymffurfio â gofynion diogelu allweddol mewn perthynas â phlant ac oedolion.
- Sicrhau bod pob un o g yfarwyddiaethau’r Cyngor a’u staff yn ymwybodol o’u cyfraniad at gadw plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl yn ddiogel rhag niwed neu gamdriniaeth.
- Cytuno ar gamau gweithredu clir ar gyfer y grŵp, eu gweithredu a’u hadolygu mewn cynllun gweithredu blynyddol wedi’i gadarnhau.
- Cefnogi Arweinydd Diogelu Corfforaethol i gyflawni ei ddyletswyddau diogelu.
- Adolygu a datblygu safonau a pholisi diogelu corfforaethol perthnasol.
- Cefnogi’r adran Adnoddau Dynol i gyflwyno proses recriwtio diogelach gadarn (gan gynnwys ar gyfer y gweithlu gwirfoddol) i gynnwys gofynion fetio a gwahardd allweddol a gofynion datblygu’r gweithlu.
- Darparu adroddiad Diogelu Corfforaethol blynyddol yn nodi perfformiad pob cyfarwyddiaeth mewn perthynas â fetio a gwahardd, hyfforddiant diogelu staff ac effeithiolrwydd gwasanaethau rheng flaen o ran nodi ac atgyfeirio pryderon diogelu.
- Pennu dangosyddion perfformiad clir a fydd yn cael eu hadolygu gan y bwrdd bob chwarter. .
- Adolygu, datblygu a monitro mesurau perfformiad priodol ar gyfer diogelu corfforaethol yn flynyddol a sicrhau eu bod yn dawel eu meddwl mai dyma’r mesurau cywir.
- Nodi ardaloedd yn yr awdurdod lle ceir risg diogelu clir, a chytuno sut y caiff y risgiau eu rheoli a phwy fydd yn gwneud hyn.
- Sicrhau bod hyfforddiant diogelu yn cael ei hyrwyddo a’i orfodi ar draws pob un o gyfarwyddiaethau’r awdurdod.
- Cynghori Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig ar safonau a pholisïau diogelu corfforaethol ac argymell camau gweithredu perthnasol.
- Hyrwyddo arferion diogelu effeithiol ar draws cyfarwyddiaethau, yn enwedig arferion rhannu gwybodaeth a chasglu data, ymwybyddiaeth weithredol rheng flaen, hyfforddiant staff ac ymgysylltiad ehangach â phartneriaethau.
- Sicrhau bod cymheiriaid o gyfarwyddiaethau eraill yn cymryd rhan pan gynhelir archwiliadau o gyfarwyddiaethau.
- Derbyn ac ystyried argymhellion a dysgu o bob adolygiad perthnasol, gan gynnwys Adolygiadau Ymarfer Plant / Oedolion / Dynladdiad Domestig.
- Aelodaeth y Bwrdd Diogelu Corfforaethol yw pob un o gyfarwyddwyr y cyngor a staff enwebedig perthnasol gan gynnwys o’r adrannau Adnoddau Dynol, Diogelu Addysg, Gofal Cymdeithasol a phartneriaethau eraill y mae’r Bwrdd Diogelu Corfforaethol yn eu hystyried yn berthnasol.
- Cadeirydd – Bydd y Bwrdd yn cael ei gadeirio gan aelod Cabinet enwebedig perthnasol.
- Pa mor aml y cynhelir cyfarfodydd – Bydd y Bwrdd yn cyfarfod bob chwarter.
Atodiad 5
Fframwaith Gwerthuso ar gyfer Archwiliad o Ddiogelu yn Sir Benfro
Yn unol â Pholisi Diogelu Corfforaethol Sir Benfro, mae disgwyl i bob sefydliad sy'n darparu gwasanaethau i oedolion sy’n wynebu risg, plant, pobl ifanc a theuluoedd, neu sy'n gweithio gyda hwy, gynnal archwiliad o'u harferion diogelu, yn seiliedig ar broses hunanwerthuso.
Mae'r fframwaith archwilio canlynol wedi'i rannu’n adrannau sy'n gysylltiedig â safonau gwahanol ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i chi feddwl am eich arferion a'ch gweithdrefnau eich hun o fewn eich cyfarwyddiaeth. Y bwriad yw rhoi dealltwriaeth i chi am ddiogelu yn eich maes gwasanaeth eich hun a sut y gellid datblygu'r rhain. Hefyd, mae'r archwiliadau’n rhoi trosolwg i Gyngor Sir Penfro dros arferion diogelu ar draws yr awdurdod lleol.
Mae'r offeryn archwilio wedi'i seilio ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.
Cwblhewch yr archwiliad canlynol a'i ddychwelyd i'r swyddog a enwir isod ar gyfer eich Cyfarwyddiaeth:
Meddyliwch yn ofalus am eich arferion a'ch gweithdrefnau eich hun yn eich lleoliad; cwblhewch yr archwiliad hyd eithaf eich gwybodaeth a meddyliwch sut y byddwch yn dangos tystiolaeth o'ch ymatebion. Cwblhewch y System CAG (Coch, Ambr, Gwyrdd – gweler isod) a lluniwch gynllun gweithredu gydag unrhyw gamau y mae eu hangen i wella diogelu yn eich maes gwasanaeth.
Rydym yn adolygu'r wybodaeth yr ydych yn ei rhoi i ni a byddwn yn darparu cyngor a chymorth ddilynol lle y bo'n briodol. Mae ein hadolygiad o'r wybodaeth yn helpu i hysbysu'r Cyngor wrth ddatblygu arferion diogelu ar lefel ehangach.
Bydd angen diweddaru'r archwiliad bob blwyddyn. Ceisiwch fod mor realistig a gonest ag y gallwch fod a defnyddiwch y ddogfen hon i'ch helpu i nodi eich sefyllfa bresennol o ran diogelu a gosod targedau/camau i wella.
Atodiad framwaith Gwerthuso ir gyfer archwiliad o ddiogelu yn Sir Benfro