Diogelu Oedolion a Phlant
Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
Yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru mae dau grŵp sy'n ymroddedig i VAWDASV (yn agor mewn tab newydd) ; Grŵp Strategol a Grŵp Cyflawni. Mae'r Grŵp Strategol yn cytuno ar drefniadau lefel uchel sydd wedyn yn cael eu gweithredu ar lefel y Grŵp Cyflawni. Mae'r ddau grŵp yn cynnwys aelodaeth o'r pedwar Awdurdod Lleol, y ddau Fwrdd Iechyd a Heddlu Dyfed Powys, ynghyd â nifer o asiantaethau allweddol eraill gan gynnwys elusennau a sefydliadau VAWDASV arbenigol.
Mae cam-drin domestig yn gallu digwydd i unrhyw unigolyn. Yn ôl yr ystadegau presennol bydd cam-drin domestig yn effeithio ar gymaint ag 1 menyw mewn 4 ac 1 dyn mewn 6 ar ryw adeg yn ystod eu bywydau.
Dyma'r diffiniad traws-lywodraethol o drais a cham-drin domestig: 'Unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag ymddygiad rheolaethol, cymhellol neu fygythiol neu drais neu gam-drin rhwng yr unigolion hynny sy'n 16 oed neu drosodd sydd, neu sydd wedi bod, yn gymheiriaid mynwesol neu sy'n perthyn i deulu, ni waeth beth yw eu rhywedd na'u rhywioldeb. Gall y cam-drin gwmpasu, ond nid yw'n cael ei gyfyngu i'r math canlynol o drais:
- seicolegol
- corfforol
- rhywiol
- ariannol
- emosiynol
Mae hyn yn cynnwys materion pryder i gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BME) fel 'trais wedi'i seilio ar anrhydedd', llurgunio organau cenhedlu menywod (FGM) a phriodas orfod.
Os oes gennych chi neu eraill bryderon ynghylch llesiant plentyn, unigolyn ifanc neu oedolyn, rhaid i chi roi gwybod amdano ar unwaith. Am wybodaeth, cyngor neu gymorth, cysylltwch â'r Tîm Asesu Gofal Plant (CCAT) neu'r Tîm Diogelu Oedolion.
Cysylltwch â ni
Tîm Asesu Gofal Plant: 01437 776444
Tîm Diogelu Oedolion: 01437 776056
Rhif ffôn y Gwasanaethau Cymdeithasol y tu allan i oriau: 0300 333 2222
Heddlu
Mewn argyfwng galwch 999
Ddim yn argyfwng: 101
Taclo Cam Drin Domestig (yn agor mewn tab newydd)
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (yn agor mewn tab newydd)
Cydweithio i ddiogelu plant (yn agor mewn tab newydd)
Gweithdrefnau Diogelu Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd) yw’r lle i fynd os ydych eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall